Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

>î^*m^*^?^^*^55J*^ÍS5^^^?^ "Iff YR ATHRAW. Rhif 967. GORPHENAF, 1907. PHh ìc LLYTHYEAU AT Y BOBL IEUAINC. LLYTHYR V. Y Parch. David Davies, Eyesham a Hwleeoedd. Mab ycloedd i'r Parch. Benjamin Davies, Hwlffordd. Ganwyd ef yn Denant, yn y flwyddyn 1794. Ei dad ydoedd gweinidog cyntaf Hwlffordd, a daeth yntau i fod y llywydd cyntaf ar yr Athrofa yn y lle hwnw. Prin iawn ydyw yr hanes sydd genym wrth law am y gŵr da hwn; ac y mae yr ychydig ddefnydd sydd genym yn llawn o annghysson- derau. Ystyriwn fod yr ysgrif fer sydd yn "JÝgAymm" o dan olygiaeth y Parch. Owen Jones, yn hynod o gamarwein- iol yn ei dyddiadau; gocheler ei dilyn heb ei phrofi. Addysgwyd ef yn Athrofeydd y Eenni a Stepney. Dywed- ir ei fod wedi myned i Athrofa y Eenni yn 1818, ac wedi ei gadw yno am ddwy flynedd gan Athrofa Stepney. Pa faint yr arosodd yno nis gwyddom. Oddi yno sefydlodd yn Evesham, i fod yn gydweinidog â'r Parch Laurence Butter- worth, lle y bu yn ddedwydd a llwyddiannus hyd y flwyddyn