Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN GOMER. Rhif. 455.] AWST, 1853. [Cyf. XXXVI. YSTAFELL CAERSALEM, (jERUSALEM CHAMBEr). CAN Y PARCH. O. MICHAEL, BLAENAFON. -• Laud be to God i Even there my life must end, It hath been prophesied to me many years, I should not die but in Jerusalem ; Which vainly I supposed, the Holy Lmd ; But, bear me to that chamber; there I'H lie; And in Jerusalem shall Harry die. Shakspeare, Henry IV., Part II. Wel, ddarllenydd hoff, onid yw e' yn enw digrif, digon i dwyllo llawer un, ar y cyntaf, heblaw hen elyn Owain Glyndwr,—" Siam- íer Caersalem." Gwna i'r syniad gymeryd ei ehedfa i Gaersalem enwog yr Iuddewon gynt; a chwilio yn hanesion y Beibl am Siamèer y Ddinas, fel y chwilid am Neu- add y Dref <Tov;n HalU, mewn unrhyw ddinas yn Mhrydain. Eithr y mae y bryd w«di ei gam-arwain, filoedd o filltiroedd o'r ffordd ; nid oes fwy a fyno y Siamber hon â Chaersaiem gynt nag sydd a fyno y siamber Ue yr wyt ti yn darllen â hi. " Beth y'ch yn geisio ddweyd ?" meddi; " mae pob peth fel yna yn lledchwith ei wala." Ydyw; eithr nid mymrỳn mwy lledchwith nag ar- feriad crefyddwyr Ymneillduedig Cymru, yn rhoddi enwau dwyreiniol ar eu capeii. Er caoibd digrifwch yr arferiad hwn, tybia, ddarllenydd, fod yr holl gapeli enwedig yn Nghymru yn cael eu rhestru mewn rheol 43 egwyddorol (alphabetical order), o " Al- bana" hyd Zoar ; a Chymreigiad yn canlya pob enw ; heblaw nodi y gwrthddrych dwy- reiniol ì'r hwn y perthynai yr enw gynt; a dyna y ddrychiolaethfa (phantasmogorid) ddigrifaf a fu erioed o flaen llygad dy feddwl! Coedydd, anifeiliaid, cof-feini, afonydd, tref- ydd, dyffrynoedd, menywod, gerddi, myn- yddoedd, adar, blodau, Uynoedd, dynion, &c; dyna hwy yn gwau drwy eu gilydd yn ngoleu hudiysern gymanfaol, pan y cymerir cyfrif y cyfnewidiadau eglwysig î Pa res- wm a ddichon fod dros y fath arferiad ? " Canaaneiddio Cymru," meddi. Os felly, Aiffteiddir, Arabeiddir, Syriaeiddir, Armen- iaeiddir, &c, hefyd; canys ceir capel o'r enw Ararat, Goshen, Elim, Horeb, &c; a pha Gymro diledryw a fedr beidio teimlo awydd rhegu y rhai a amcanant wneuthur unpeth o " Wyllt Walia," oddieithr " Cym- ru Wen ?" Pa ysgrythyr sydd dros yr ar-