Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN GOMER. Rhif. 474.] MAWRTH, 1855. [Cyf. XXXVIII. HA\ES TREF CAERLLEON AR WYSG, ÍYÍ Y lUIÌÌn 1836. CAN DEWI AB ARTHUR. [parhad o'r RHIFYN DÎWEDDAF, TUDALEN' 53.] Meddyliwyf mai addas yw traethu ychydig am gyflwrcrefyddyn Nghaerlleon. Y RÍmf- einiaid a set'ydlasant y grefydd baganaidd yn Mhrydain, trwy neillduo 24 o Flaminiaid, a 3 o Arch-flaminiaid.* Y rhai hyn oeddynt i lywyddu y grefydd baganaidd: un Arch- íîainen yn Llundain, un yn Nghaerefrawg, ac un yn Nghaerlleon-ar-Wysg, sef prif- ddinus Brittaniíe Secunda; ac ymddengys fod y Ilhufeiniaid yn lled aiddgar dros eu crefydd; ond nid ymddengys yn debyg i ìawer o'r Cymry ei chofleidio, o herwydd yr oeddynt hwy wedi eu haddysgu yn y grefydd Ddeiwyddol; ac y mae lle i farnu fod y gref- ydd hono yn fwy rhesymol, canys nid oedd- ynt y fath eilun-addolwyr ag oedd y Rhuf- einiaid. Yn ol tystiolaeth y "Trioedd,"a" Bonedd y Saint," geîlir penderfynu mai Bran ab Llur Llediaith a fu yn gyfrwng i ddyfod â'r efengyl o Rufain i'r ynys hon, yn y ganrif gyntaf, yr hwn a gafodd y fraint o gofleidio y grefydd Gristionogol tra yn garcharor yno. Ond nid ymddengys i'rgrefydd Gristionogol gael derbyniad cytfredinol, hyd at amser Lleurwg ab Coel, tywysog Esyllwg, ac, mewn enw, yn frenin Prydain oll. Yr oedd ef yn wr crefyddol aduwiol, ac yn blodeuo yn ei weithredoedd da tua diwedd yr ail gan- rif. Bu fyw y rhan fwyaf o'i amser yn Nghaerlleon, acaramserau ereill yn Nghaer- loyw ; a dywedir iddo farw yn y lie diweddaf a enwwyd, a'i gladdu yno, ac idd ei gorff gael ei symud oddiyno i GaerlJeon,ar-Wysg. Efe a drodd y témlau paganaidd ag oedd y Rhuf- einiaid wedi eu hadeiladu, yn leoedd o add- oliad i'r Cristionogion, ac a sefydlodd ysgol- ion i addysgu yr ieuengtyd. Efe a adeilad- odd eglwys Llandaf, yr hon oedd y gyntaf a * Flamen, offem&d—Arcfi-flamen, Arch-offéiriad. Numa Pampilius, ail frenin Rhufain, a sefydlodd dri math o honynt, scf Flamen Dialia, Martialis, a Quinialis. Y cyntaf a abertbent i Iau, yr ail i Mars, a'r trydydd i Romulus, yr hwn oedd frenin cyntaf Rbufain. (Gwel, Camk. Triumph.) Rhai awduron n ddywcdant fod 28 o Flaminiaid, a 3 Ó Arch-flaniin- iaid, yn Mhrydain. 13 adeiladwyd yn Mhrydain ; ac a neillduodd, ac a osododd Iywyddion Cristionogol yn mhob diuas lle yr oedd yr arch-offeiriaid a'r offeiriaid paganaidd ; aca gawsant eu tiroedd a'u breintiau wedi eu helaethu trwy haelioni Lleurwg; ac am y daioni hwn, gelwid ef wedi hyny, Lles, neu Lleufer Mawr. Yr oedd y grefydd Gristionogoi yn myned rhag- ddi, ac yn llwyddo yn Nghaerlleon yr amser hwn, hyd at amser yr Amherawdwr Dio- clesian, pan gyfododd y Deg Erlidigaeth ar y Cristionogion ; a syrthiodd yr erlidig- aeth hono yn drwm iawn yn y ddinas hon, a choffhëir am dani fel prif nôd yr erlidwyr. Oddiyma y gorfu i Amphibalus ffoi i Gaer Veruîam am ei fywyd ; ac yma y merthyr- wyd Julius ac Aaron. Gildas a ddywed, i'r ddau Gristion diweddaf sefyll allan yn mydd- in Crist a'i groes, gyda'r dewrder mwyaf annghymharol. Giraldus a ddywed, eu bod y penaf o ferthyron yn yr amser hwnw, ond St. Alban ac Amphibalus. Ac yma y cy» segrwyd dwy eglwys iddynt, fel y nodir eto pan draethom ar yr eglwysi. Yn y fl. 450, Dyfrig Beneurog a neillduwyd gan Garmon yn esgob cyntaf Llandaf; ond mewn ychydig o amser a symudwyd i Gaerlleon-ar-Wysg, ac a wnawd yn archesgob Cymru oll; ac yma y bu Dyfrig, a'i gydweithwyr, yn Hafur- us iawn. Yma y sefydlasant goleg hyglod, Ue y cyrchai meibion tywysogion Cymru i dderbyn addysg yn y celfyddydau. Dywedir fod y coleg hwn un amser yn cynwys mil o ieuengtyd Gwent, a rhanau ereill o frymru ; a Dyfrig, fel gwr o wybodaeth, a gafodd ofal Coleg Caerlleon-ar-Wysg. Ac wedi iddo fod yn ddiwyd mewn gweithredoedd da, efe, mewn cydymffurfiad ag arfer yr oes liono, a aeth i ynys Henlli,i drçulio ei ddyddiau mewn myfyrdod duwiol, er mwyn cael Honyddwch a thawelwch oddiwrth y byd a'i dwrf. Canl lynwyd ef yn Nghaerlleon gan yr anfarwol Dkwi, yr hwn oedd yn ewythr i'r Brenin Arthur, ac yn fab i Sandde ab Cedig ab Ceredig ab Cunedda. Yr oedd rhyw bethau. hjrnod yn ansawdd personol y gwr hwn ; a