Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SERE]4 • GOMER Cyfres Newydd.] MAWRTH, 1905. Rhif 2, Cyf. XXVI. BORD GRON.-Y DIWYGIAD. 1. €i jNfodweddior\ Cy//redmol, MAE ehangder a grymuster y deffroad crefyddol sydd yn ein plith yr wythnosau hyn yn gyfryw ag sydd wedi sicrhau iddo eisoes safle anrhydeddus ymhlith diwygiadau mawrion Cymru, beth bynnag am y byd Cristnogol. Yn ystod y gauaf presennol mae yr Arglwydd wedi dyhidlo gwlaw graslawn ar ei etifedd- iaeth yn ein tir, ac erbyn hyn y mae rhai defnynau o'r gawod wedi eu chwythu gan yr awel nefol i lanerchau dros y gororau cyn belled a gwlad machlud haul. Mwynhawyd a mwynheir gennym aml- ygiadau eglurach ac helaethach o Dduw, fel Duw yr Iachawdwr- iaeth, nag y mae y rhan fwya'f o honom yn ei gofio. Gweithia yr Arglwydd yn fwy grymus a chyffredinol yn y dywysogaeth nag y mae wedi ei wneud ers dros ddeugain mlynedd. Yr ydym wedi gweled â'n llygaid, ac hyderwn, teimlo â'n calonau, bethau mawrion biynyddau deheulawy Goruchaf. " Diauyr Arglwydd a ymwelodd â'i bobl." Ein profiad sydd gyífelyb i eiddo y Salmydd pan ddywedodd : " Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddym fel rhai yn breuddwydo. Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a'n tafod a chanu ; yna y dywedasant ymysg y cen- hedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny yr ydym yn llawen." Nid yn unig y mae teyrnas Dduw wedi dyfod yn brif destyn myfyrdod ac ymddiddan y genedl, ac yn brif fater newydd- iaduron Cymru, ond hefyd y mae yr eglwys wedi ei hadfywio trwyddi, a chymdeithas wedi ei dyrchafu yn gyffredinol. Y mae yr egin grawn oedd yn gwywo dan effeithiau gwres bydolrwydd a