Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PARCH. CORNELIUS GRIFFITHS, CAERDYDD. 97 Phylip Phillips yn saer melinau, a melin ganddo ef ei hun, a malu mawr ynddi. Eraill o gymdogion Cornelius Griffiths oeddent John Rowlánd yn llosgi mawn yny Pantigof; Thomas Rogers yn briwio meini-dan y dderwen ; a Thomas Richards y dilledydd yn taeru na buodd o'r blaen, nad oedd neb y dydd hwnnw, ac na bydd neb ar hyd yr oesoedd, yr un pregethwr, yr un offeiriad, na'r un esgob yn gymharol mewn dysg a dawn i David Rhys Stephen, a'r nesaf i David Rhys Stephen ydoedd John Williams, Trosnant, yn darlunio y diafol yn y diffaethwch, yn ei wasgod wlanen, ei wisg Iddewig, a'i wisg wen. Trwy ymddiddanion Thomas Richards y daeth Cornelius Griffiths yn nyddiau maboed i wybod cryn lawer am ddynion Cymru ; ac Alexander Rabby yn agor y rheilffordd i gario glo y Mynydd Mawr i geulanydd y môr."' Mr. Isaac Griffiths, Minhwyrach, a roddodd dir i godi capel arno, a chodwyd Horeb ar y tir yn 1832. Dewiswyd Isaac Griffiths, Minhwyrach: Jeremiah Griffiths, Gynhendrefawr; ac Aaron Jenkins, Gellihir, i flaenori, ac yr oedd David Jones, Bryn- groes, yn bregethwr yn Horeb. Athraw ysgol bob dydd ond dydd Sadwrn, yn Horeb, ydoedd John Treharn; yn ysgolor gwych, yn ysgrifennwr destlus, yn deall y gyfraith, a galw mawr arn dano i gyf- nodi ewyllysiau diweddaf dynion. Aeth i'r perwyl hwn i Lanelli ar brydnawn ; arosodd yn hwyr ; tywyllodd y nos, a boddodd yr athráw mewn llyn ym myn y ffordd, oddeutu Tachwedd, 1833, yn 40 oed. Trwy hynny y collodd Cornelius Griffiths ei athraw, ac nid hawdd meddiannu manteision mewn ardal anghysbell, broydd bryniog, a chwmpas y clogwyni, yn y cyfnod hwnnw. Dyngarwr i Gymru ydoedd y Mr. Alexander Rabby y crybwyllwyd ei enw, ond ymadawodd i Loegr, a bu farw yn 1835, yn 88 mlwydd oed. Ddwy flynedd yn ddiweddarach y coronwyd ei Mawrhydi y Frenhines Victoria, ac yr oedd Cornelius Griffiths yn cofìo y coron- iad; ac ym Mai, 1837, yn 81 mlwydd oed, y bu farw Mr. Daniel Davies, gweinidog y Felinfoel a gweinidog Horeb. Enw un o frodyr Cornelius Griffiths ydoedd Jeremiah Griffiths, a bedyddiwyd a derbyniwyd ef i Eglwys Felinfoel yn 1839, a bu yn bregethwr a gweinidog yn y Bonthenri; yn Llannon; yn Llansamlet; yn y Rhondda; yn y Tabernacl, Sirhowi; ac yn Siloam, gerllaw Rymni. Mudodd i'r gorllewin. Bu farw ym Mhensylvania, a nodir eto pa bryd. Aelododd Cornelius Griffiths yn Horeb. Bedyddiwyd ef a'i dderbyn yno odëeutu 1841, ac nid oedd efe nemawr dros y deuddeg oed. Dechreuodd yn gynnar, daliodd yn gryf, disglaeriodd yn ei glod, disgynodd i'w fedd yn ddigwmwl. Addysgwyd ef mewn celf- yddyd ddefnyddiol yn ei wlad, a bu yn ddiwyd, yn ddyfal, ac yn