Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOMER. CyfresNewvdd.] MEHEFIN 15, 1906. Rhif 3, Cyf. XXVII. £ly/r CoJí\odior\ CWRDD CHWARTER EGLWYSI Y GYMANFA OR- LLEWINOL OEDD O GAERFYRDDIN I ABERTAWE AC ODDIAMGYLCH, O 1794 HYD 1846. eOy/r y Cwrdd Cwarter 1794-1846. PORTHTYWYLL. N oî y rhagappwyntiad cynhaüwyd cwrdd cwarter yn y Porthtywyll Ynghaerfyrddin ar ddydd Mawrth Pasgc, neu'r 7ed o Fai, 1795. Dechreuwyd trwy weddiau gan y Brodyr John David a David Lewis, yna pregethodd y Brawd Benjn. Davies o Gilfoẅir oddiar Job 10. 7—ar ei ol ef pregethodd y Brawd Daniel Jones o Abertawe yn Saes'naeg oddiar Salm 46. 5, ac yn ddiweddaf pregethodd y Brawd Timothÿ Thomas o Aberdûar oddiar Phil. 3. 14, a therfynodd trwy weddi.— Ni bu yno neb ryw fatteriön neíllduol yn cael eu trin, chwaneg na'r gofyniad adawyd oddiar y cwrdd o'r blaen, i'r hwn y darllenwyd rr atteb canlynol gan Dan. Jones, yr ydys yn gofyn <£ Pa rai yw'r moddion goreu yw eu harferid i'r diben i ddwyn yr eglwys i ragor o burdeb a pherffeithrwydd." I'r diben i ddyfod a'r amcan gogoneddus hwn i ben, sef i adferid i'r Eglwys yr ymarferiadau ysgrythurol hynny sydd yn cael eu hesgeuluso ganddi, ac i fwrw allan y rhai anysgrythurol y mae hi'n gynnal ; mi debygwn mai peth doeth fyddai cymmeryd y drefn ganlynol, I. Bydded i bob eglwys ar ei phen ei hûn ymdrechu cynnal cyf- arfod neillduol, i'r diben o fanol çhwilio'r ysgrythurau, yn enwedig y