Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN GOMBR. Rnir. 514.] GOEPHENHAF, 1858. [Cyf. XLI. BYWYD A NODWEDDAU Y DIWEDDAU SYE HENEY HAVEL0CX, E.C.B. Gan y Parch. E. THOMAS, Tredegar. Y trydydd tTGAisr mlyìîedd yn ei oes.—Gadawsom eiu gwron yn Agra, wedi cael, trwy ei deilyngdod yn unig, ei wneyd yn Isgadben ar ei gatrawd ei hun yn y flwyddyn 1835, pan yn ddeugain oed, o dan Cyrnol Sale. Yn y flwydd- yn ganlynol symudodd y gatrawd, yn nghyd ag Havelock a'i deulu, o Agra i Kurual, lle yr adeiladodd y milwyr dy i addoli ar eu traul ac o'u cyflog- au eu hunain. Ond blwyddyn o drallodion blinion a fu hon i Havelock. Mae ei deulu—gwraig, dau fab, ac un fercb, plentyn ycbydig fisoedd oed—yn syraud o Kurnal i Landore, er mwyn newid awyr a chryfhau iechyd. Yr oedd ardal Landore yn un fynyddig, yn yr Himalayas. Atebodd byn ddyben; ac mae Havelock un diwrnod yn derbyn llythyr oddiwrth Mrs. Havelock, o Landore, yn dyweyd ei bod yn bwriadu dychwelyd adref yn mhen ychydig ddyddiau, gyda'i thri phlentyn, yn iacb a cbryfìon. Ond ychydig ddyddiau cyn dycbwelyd, ar noson o oleu ìlcuad dysglaer, a phan nad oedd awel yn cyft'ro, cymmerodd y ty y trigent ynddo dan ; ílosgwyd y baban, fel y bu farw yn mhen ychydig ddyddiau, a'r fam ei hun i'r fath raddau wrtb achub ei daufacbgen, fel y perygb wyd ei bywyd, ac y bu fbynyddoedd cyn adferu oddiwrtb y niwed. Caíbdd Havelock y newydd o hyn dranoetb y dydd y derbyniodd lythyr cysurus Mrs. Havelock! Effeithiodd yr un newydd gymmaint ar ei thad, y Dr. Marsbman, yn Serampore, fel mai anfynych, os rhyw bryd, y gwenodd efe wedi hyny tra fu efe ^w. Cyn i Havelock gycbwyn i gynnorthwyo ei deulu yn y cjüwr helbulus hwn,dymunodd y inilwj-r ainoganiatâu iddynt roddi mis bob un o'u cyflog iddo, yn rhywbeth i wneyd i fyny ei golled fawr. Dangosai hyn eu parch hwy iddo ef; ond gwrthododd ef y cynnyg. Yn yr un flwyddyn rhoddodd Havelock a ganlyn yn ei ddydd-lyfr:—" Der- byn y newydd o farwolaeth fy nhad yn Eseter, yn ei bedwar ugain mlwydd oed." Yn y flwyddyn nesaf, 1837, cofnoda f'arwolaeth y J">r. Marshman, y cenadwr, ei dad yn nghyfraith, yn Serampore. Edrychai bob amser ar ei undeb â theulu y Dr. yn dro dedwydd yn ei fy wyd ; a theimlai bl'eser wrth feddwl fod ei fab henai', Henry Marshman Havelock, yn dwyn ei enw, er parhau ei gofíadwriaeth yn ei deulu ar ol i'i Dr. Marshman ei hun fyned i orphwys, wedi 38 mlynedd o lafur yn y maes cenadol. Yn 1838 mae Havelock, ar ol 23 mlynedd o wasanaeth yn y fyddin fel is- swyddwr, yn cael ei wneyd yn Gadben ar ei gatrawd ei hun. Yr oedd wedi gweled llawer crwt ag oedd yn ei gryd pan unodd efe â'r fyddin yn prynu swydd- an uwchlaw iddo, ac yu ei adael ef ar ol er ei holl deilyngdod. Ond er mor an- hawdd dyoddef y fath gam, a bod yn dawel, mae efe heb rwgnach yn dal i wneyd ei ddyledswydd; ac mae rhinwedd, er yn araf, etto yn sicr, yn ei wobrwyo. Yn y flwyddyn hon y dechreuodd y rhyfel yn Affghanistan, yr hon a barhaodd tua phedair blynedd. Ni ellir yn awr fyned dros fanylion y rhyfel hon; ond mae yn amlwg oddiwrth hanes y gwersylliad a argraflbdd ac a gyhoeddodd Havelock sr