Symud i'r prif gynnwys

216 HANESION. TESTAMENT CAMPBELL. Mr. Gomer,—Mae yn debyg ein bod, fel Cymry, i gael Cyfieithad o G'yneithad Alex,- ander Campbell, o America, o'r Testament Newydd. Nid gwaith dibwys yw hyn; nid gwaith bychan, diofn, adibrydero'i gylch, yw siglo meddyliau dynion am eu hen Gyfieithad Cymraeg. Mae yn debyg raai casgliad yw y Cÿfieithad hwn o weithiau yr enwogion Dod- dridge, Campbell, a Macknight;—-dyna ddy- wed Alexander Campbell ei hun; ond y mae rhyddid gan bawb i brofi haeriad y llall,— felly gwnaethym innau; cymmerais Desta- ment Griesbàch yn fy llaw dros ycbydig am- ser, ac edrychais i'r manau hyny a wrthoda efe o'r testun awdurdodol. Syrthiais ar Matth. geiriau, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen." Troais i Doddrid'ge a Champbell y Scotiad, a chefais y geiriau ar lawr yno. Wel, meddwn, mewn syndod, dyma anghyrssondeb, bvdd- ed a fyno. Troais i araryw fanau ereill, a gwelaís yr un peth. Enwaf Matth. 22, 20, lle y gadawa y geiriau hyn allan o'i Desta- ment,—"A'ch" bedyddio 'â'r bedydd y bed- vddir fi." Hefvd Matth. 27, 13. Ond y dar- llenydd a feddylia, efallai, y gadawa y gwron- iaid a enwyd, o weithiau pa rai y proffesa wneyd ei lyfr, y geiriau ym3 allan ; ac mai trwv ddilyn'y rhai hyn y gadawa efe hwynt allan. Dyma oedd fy meddwl i ar y cyntaf; ond pan edrychais iddynt, cefais, er gofid a syndod i mi, mai nid felly yr oedd. Wel, meddwn i, dyma brofiad, yn gyntaf, mai nid gwaith yr Awduron uchod oedd ; ac, yn ail, fod gormod o ryddid wedi ei gymmeryd gan Alexander Campbell; ac, yn olaf, y dylasai y dysgedigion hyny a fwriadant gyfieithu y Testament yma i'r Gymraeg gael gwybod am hyn, a'rmiloedd o fanau ereill ag sydd ynddo yn wahauol i'r Textus Receptus y Groeg, ac i Campbell, Doddridge, a Macùnight. Yn frawdol yr wyf yn dywedyd wrth y Cyfieith- wyr, Pw'yllwch ac arafwch ; y mae ofn arnaf fod ynddo fwy o dwyll a rhyfyg nag a feddyl- iwyd. Ni chaniatâ amser i mi chwilio iddo ynmhellachyn awr; ac yr wyf yn dysgwyl sylwadau o America arno, y rhai fel y clywa'is a ddangosant fod rhwng dwy a thair mil o wa- haniaethau wedi eu gwneyd ganddo. Os bydd y Cyfieithwyr dysgedig am ragor o wy- bodaeth ar y pwnc, byddaf barod, trwy eich cyfryngiaetb chwi, Mr. Gomer, i roddi pob gwybodaeth iddynt yn gyfrinachol, gan fedd- wl fod hyny yn well na'r ffordd gyhoeddus. Ydwyf yr eiddoch, &c. Q. MANION. Mr. John Evans, Tanygraig, yr hwn a fu yn aelod gyda'r Presbyteriaid yn y Cilgwyn, ac a gyfododd addoldy ar ei dir ei hun at eu fwasanaeth, ar ddydd Sul, yr 16eg o'r mis iweddaf, yn gyhoeddus, efe a'i wraig a blvg- asant i'r ordinhad o Fedydd; ac o hyn allan bydd eu haddoldy at wasanaeth y Bedyddwyr. "Cyssegrwyd Synagog newydd i'r luddew- on, yn nhref Cheltenham, ychydig o wyth- nosau yn ol. Mr. Abrahams, o Gaerloyw, a weinyadai ar yr achlysur. Mae etifedd coron Denmarc wedi gwadu y grefydd Brotestanaidd vn ddiweddar, a chof- leidio yr un Babyddol. Trwy y weithred hon, y mae wedi fl'orffedio ei hawl i orsedd y deyrnas hono; adywedir fod y bobl yn edrych I allan am etifedd yn ei le. Cynnygiwyd ganGymdeithas yn Llundain j wobr am y Traethawd gor^u ar y niwed o I Grefydd Sefydledig. Rhoddwyd y wobr gyn- I taf i'r Parch. Mr. Angus, canlvniedydd Dr. j Rippon, a'r ail i'r Parch. Mr. Tavlor. Ym- ddangosiad pa rai o'r wasg wna i'r hen Fam siglo, ac i'n ffryns waeddu, " Mae yr Eglwys mewn perygl." Mae y r Athrofa Bresbyteraidd yn y dref hon wedi ei thaflu yn agored i enwadau'crefyddol ereill. Mae dau wr ieuanc perthynol i'r Bed- yddwyr wedi cael eu holi, a bernir y derbynir hwynt i mewn i'r Athrofa yr haf hwn. Y Parch. Mr. Gros, Cenadwr o America, a alltudiwyd o'r Mauritius dan yr esgus nad oedd yn Brydeiniwr; ond y gwir achos oedd ei fod yn Genadwr. Yn fuan efe a ddych- welodd ac 16eg ereill gy'dag ef dan nodded llywodraeth Prydain. Felly gwnaeth yr Ar- glwydd i gynddaredd dyn ei foíiannu. Mae llawer o gynhwrf wedi ei achosi mewn rhai parthau o'r America rhwng Bedyddwyr plant a Bedyddwyr y crediniol. Cynnyj;iodd un 500 dollar am destun o'r Testauient' New- ydd yn dysgu mai tywallt neu daenellu sydd yn y bedydd, a 500 'dollar am enghraiff> 'ys- grythyrol am fedydd babanod. Y blaid arall a gynnygiant 500 dollar am enghraifft o eiddo Ioan Fedyddiwr, neu un o'r Apostolion, yn bedyddio trwy drochiad, a 5(X) dollar aralí am broíi, nid fod un baban, ond cannoedd a mil- oedd wedi eu bedyddio yn nyddiau yr Apos- tolion trwy daenellu, trwy awdurdod lesu Grist. Dinystriwyd amryw dai gan dân yn yr Al- bany, ac yn eu pìith dŷ cyfarfod Wesleyaidd, gwerth 12,0(10 o ddolars. Barnwyd fod y golled i gyd yn 80,000 o ddollars, canys di- nystrwyd agos i 50 o dai. Papyrau o Bombay a hysbysant i wyth o fenywod gael eu llosgi yn m'is Medi diweddaf, ar bentwr angladdolRajah Oodypore. Mae ÍSuttee etto heb ei lwyr ddiddymu er yr oll ymdrechion wnaed gan y dyngarawl. Gwrthododd offeiriad plwyf Lledrod gladdu plentyn difedydd ar y 3ydd o'r mis diweddaf, a gwaharddodd y gynnulleidfa ddwyn y corff o fewn i'r tir cyssegredig; ond y marw a gladdwyd heb un seremoni offeiriadol yn wy- neb bygythiadau y swyddog. Gwneir ym- chwil manwl i'r achos hwn, er gweled a oes awdurdod gan yr offeiriaid mewn amgylch- iadau o'r fath i gyflawni y fath weithredoedd ysgeler a gorddrygus ar deimladau y galarus a'r hiraethlawn. Gofynodd gŵr boneddig i offeiriad y dydd arall, " Pahamy mae yr auryn ymddyscleirio yn y man amlycaf arein heglwysi cadeiriol?" "Pa'm, (atebodd y duwinydd,) am mai efe yw gwrthddrych penaf yr Églwys, bid sicr." Mae amryw ffoedigion alltudiedig o Mada- gascar, am dderbyn y Grefydd Gnstionogol, wedi cyrhaedd Llundain yn ddiweddar. Cyn- naliwyd cyfarfod yn Llundain i ystyried eu sefyllfa, ond ni chìywsom i ba benaertyniad y daethwyd yn eu cylch.