Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEBEN GOMER. bhipxiii. HYDREF, 1864. Oyp. iv. Y CREAD MEWN CYNGHRAIR A'R CREDINIOL. Tebfn (prder) oedd rheol y bydysawd cya i becliod ymddangos. Awdwr trefn yw Duw. ÜS'id oes annghydfod ynddo ef, ac nis gall fod—y mae yn anathronyddol i dybied hyny. Nid oes annghydfod mewn dim, nac yn yr oll a wnaeth eíe. Nid oes eithriad i'r rheol hon. Byddai bodol- aeth un eithriad yn rhoddi yr enw anmherfí'aith i waith a threfn yr Holl-ddoeth. Pechod yn unig sydd wedi dwyn annhrefn i'r greadig- aeth. Yn sefyllfa wreiddiol, gysefin pethau, yr oedd c)^d-darawiad, cyd-weithrediad, a threfn berífaith yn teyrnasu. Nid oedd gelyn yn bodoli—nid oedd gwrthwynebydd i'w gael i ddim, nac i neb yn nghwrs cyflawniad ewyllys berffaith y Creawdwr, cyfraith y bydysawd. Pob bod yn troi yn ei gyleh ei hun, a phob cylch yn dal perthynas â'r oll, a phob peth yn mhob cylch yn gweini (contribute) yn ol ei gymhwysder i gynnal trefn ac i ddangos Duw. Y mae y pethau hyn i'w gweled yn amlwg' mewn cyssylltiad â dyn, ac â'r ddaear ar ba un y gosodwyd ef i drigianu. Wedi ei greu ar ddelw Duw, ei le teilwng ef oedd bod yn arglwydd ar y byd isod. Gan mai efe oedd y creadur mwyaf yn y byd, yr oedd pob peth yn y byd i weini iddo, ac i fod yn ddarostyngol iddo. Felly y dywed y Psalmydd, " Canys gwnaethost ef ychydig îs nâ'r angelion." Yn ol y gwreiddiol, '' ychydig îs nâ Duw"—'' Ac a'i coronaist â gogoniant ac â harddwch ; gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weith- redoedd dy ddwylaw ; gosodaist bob peth dan ei draed ef, defaid ac ychahi oll, ac anifeiliaid y maes hefyd ; ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd." Fel creadur sant- aidd', pur, perffaith—pur "ei galon a pherfíaith ei fíbrdd, yroedd dyn yn fab tangnefedd, yn etifedd ac yn frenin y byd isod. Yr oedd pob peth mewn heddwch âg ef, a phob peth yn gweini iddo. Duw fel ffynnon bywyd a phob dedwyddwch, yn Dad iddo, a'i fynwes yn agored iddo bob amser, yn ymhyfrydu yn ei waith, "a gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd," ac nid oedd hyfrydwch y Duwdod dim yn fwy nag uwchben ei greadur dyn, yr hwn a wnaethpwyd ar ddelw Duw. Bodau santaidd fel angelion yn gwasanaethu arno, ac wrth eu bodd yn ei gwmni—y nefoedd wybrenol yn gwenu arno ddydd anps, a'r ddaear yn anfon ei ffrwythydd allan i wasanaethu i'w angenrheidian ef Çydwýbod y tu fewn iddo a'i thystiolaeth yn gywir, yù ei sicrhfttt ÒYP, IV.—8,