Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN G-OMEB. Cyfres Newydd.] EBRILL, 1881. [Ehif. 6. Cyf. II. DR. WENGER. [Parhad o'r Rhifyn diweddaf). Y materion hyn yn awr a lanwent ei feddwl ddydd a nos; ae etto, gobeithiai y gallai ddyfeisio rhyw gynllun i ddiwygio yr Eglwys. Ei ofid mawr oedd llygredd yr Eglwys a'r angen mawr am ddysgyblaeth; a gofynai y cwestiwn hwn yn bryderus yn y dyddlyfr a gadwai, "Ai peth anmhosibl yw cael allan ryw foddion i sychu y gwarth hwn ymaith?" Gan fod yr ymofyniad a gythryblai feddwl ein brawd yn awr mor ddwys o gymmaint pwys, ac yn un a arweiniodd i'w ym- ddidoliad oddiwrth yr Eglwys Genedlaethol, yr wyf yn teimlo yn sicr y bydd y dyfyniad maith a ganlyn o Ddyddlyfr Dr. Wenger yn ddyddorol. Ysgrifena:— "Tua dechreu Awst, 1832, yr ymwthiodd y gofyniadau hyn ar fy sylw gan fy ngyru i feddwl. Ar y Sul, y 5ed o'r mis hwn, gwnaethum y cofnodiad hwn yn y dyddlyfr a gadwn, er yn lled afreolaidd yr amser hwnw,—'Er dydd Iau, meddianwyd fi yn fawr gan yr ystyriaeth y rhaid fod ein Heglwys Ddiwygiadol yn un dra an- ffyddlon, gan nad yw yn gweinyddu un math o ddysgyblaeth. Yr wyf yn gweled y byddai yn anhawdd iawn dwyn y fath beth i mewn ; ac am hyny, ymddengys i mi mai y peth goreu fyddai attal ffynnonell anmhuredd yr Eglwys trwy ddechreu yr addysg barotoawl i ddyfod at Fwrdd yr Arglwydd ar adeg lawer yn ddiweddarach nag y gwneir yn awr; neu yn hytrach trwy dderbyn i gymdeithas yr Eglwys, ac at Fwrdd yr Arglwydd, y rhai hyny yn unig sydd wedi rhoddi prawfion digamsyniad o wir ddychweliad, a chadw pawb ereill draw. Ymddengys i mi yn mhellach, fod Bedydd Babanod yn un darddell oW llygredd, ac yn groes Vr Ysgrythyr ac i feddyh rith yr ordinhad; ni fynwn i fedyddio neb ond personau dychweledig ; oblegid gellir bod yn gadwedig heb fedydd, ac arwain plant at yr Arglwydd trwy foddion ereill. Ond pe cerid yr egwyddorion hyn allan, byddai rhaid rhoddi fyny bwysigrwydd gwleidiàdol (civil) bedydd a derbyniad at Fwrdd yr Arglwydd yn 'gwbl, a deuai priodi yn y rhan fwyaf o amgylchiadau yn achos gwleidiadol; ac nis gellir rhoddi iddo gyssegredigrwydd eglwysig ond yn unig gyda rhai ydynt blant i Dduw.' Ymddengys yr egwyddorion hyn i mi yn hunan-eglur, ac yn gywir seiliedig ar Air Duw. Ond os parhaf ynddynt, bydd yn anmhosibl i mi gael fy ordeinio y flwyddyn nesaf fel gweinidog yr Eglwys Ddiwygiedig, a bydd genyf i ymgadw oddiwrth ddymuniad mwyaf anwyl fy nghalon. Ni awgrymwyd dim o'r pethau hyn ì mi oddiallan; yr Arglwydd sydd wedi rhoddi imiy wybodaeth hon o'm mewn, ac a'm harweiniodd i feddwl llawer am dano ; oymhellir fy yspryd i ymwneyd ag ef. " Daeth i fy meddwl ddoe pa un a oedd parch priodol i ffyddlondeb yn gofyn am i mi drefnu a gosod yr egwyddorion hyn allan mewn traethawd byr, a'i argraffu, ì'w wasgaru yn rhad i'r gweinidogion. Nid wyf yn meddwl, er hyny, fod galwad am ì mi wneyd hyny, ac nid wyf o leiaf yn meddu yr arian sydd angenrheidiol i wneyd