Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

04 JOSHUA THOMAS A LLANLLIËNÌ. lad bron yn annherfynol. I bob un niewn cyfyngder yr oedd yn gyf- aill parod. Gallwn nodi enghreifftiau o weithrediadau y doniau hyn pe bai'r achlysur yn caniatau. Pa fwyaf yr adnabyddiaeth o hono, mwyaf oedd y cariad a'r atdyniad oedd pob un yn deimlo tuag ato. Er i'w haul fachludo tra oedd hi etto yn ddydd; er iddo gael ei gym- meryd ymaith yn nghanol ei ddefnyddioldeb, pan oedd y cyfleusderau goreu yn ymagor o'i flaen; er na wnaeth ond dechreu ar yrfa oedd yn addaw dyfodol demyddiol, llwyddiannus a dysglaer; etto bu ei fywyd yn dcügon hir iddo gyflawnu gorwaith a arosa yn y byd yn ei effeithiau hyd ddiwedd amser, a thrwy'r tragwyddoldeb mawr. Gyda ni ei fyfyrwyr, gyda ni oedd yn adnabyddus ag ef, gweinidogion, lleyg- wyr o bob enwad crefyddol, o bob tyb wladyddol, o bob sefyllfa gym- deithasol, gyda ni oll nid â yr enw hwn—William Mortimer Lewis — byth yn annghof. Bydd ffurf benderfynol ac etto tirion ei wynebpryd, swn perseiniol ei lais, ystum union a chadam ei gerddediad, yn fyw yn ein cof byth; ond bydd ei yspryd a'i gymmeriad fel Cristion yn ber- arogl hyfryd yn ein hamgylchynu bob amser, ac yn ddylanwad dyrch- afol arnom ein hunain hyd ein marwolaeth. Ffarwel gyfaill! ffarwel athraw anwyl! cawn gydgyfarfod etto yn mhen enyd fechan. Athrofa Hdffordd. T. Witton Dayies. JOSHUA THOMAS A LLANLLIENI. Mi a gefais y pleser yn ddiweddar o ymweled â'r hen Eglwys yn Llanllieni (Leominster), lle y bu yr enwog Joshua Thomas, awdwr Hanes y Bedyddmjr, yn gweinidogaethu am 43 mlynedd. Y mae y capel yn hen ac adfeiliedig ; canys y mae 112 mlynedd er pan yr adeil- adwyd ef. Gall gynnwys tua 300 o bobl. Un peth lled hynod ynddo yw sounding board uwchben yr areithfa, yn ol yr hen gynllun Eglwysig yn yr oesau gynt. Ni welais soundiny board mewn capel o'r blaen. Y mae mynwent tu ol i'r addoldy yn cynnwys gweddillion hen ffyddlon- iaid, a gweinidogion o frí. Y mae claddu yma er y flwyddyn 1700, os nid yn gynt. Dynesais yn wylaidd at fedd Joshuu Thomas, ar yr hwn y mae cofgolom ysgwar tua phum troedfedd o uchder, a'r cofhodion canlynol ami:— THE REV. JOSHUA THOMAS BORN 22nd of february, 1719, HAVING SERVED CHRIST IN THE MINISTRY OF THE GOSPEL 43 YEARS IN THIS TOWN DIED 25TH OF AÜGÜST, 1797. ELI2ABETH HIS EELICT DIED THE 14TH OF JUNE, 1807 AGED 85 YE4RS. *'TO DIE IS GAIN,"