Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

360 HANESION, mae yn eich meddiant: oedwch ond gronyn bach, a bydd wèdi ei cholli—wedi ei chplli am oes. Ydwyf, yr eiddoch, &c., 8, Co'es Terrace, Huoh Owen. Islìngton, Llundain. URDDIAD. Ary7feda"r 8fed o Hydref diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod yn Llanael-baiarn, swydd Gaemarfon, er neillduo y Brawd John Evans yn weinidog ar yr eg- Iwysi a ymgynnullant yno ac yn Montycim. Am 7, hwyr y dydd cyntaf, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddi gan y Brawd Hugh Jones, Llanfachreth ; a phregethodd y Brodyr William Jones, Moria, swydd Aberteifi, a John Roberts, Llangefni. Am 10, dran- oeth, dechreuwyd gan y Brawd W. Jones ; yna tra- ddododd y Brawd R. Jones, Llanllyfni, araeth ar natur Eglwys, a derchafwyd yr urdd-weddi gan y Brawd J. Roberts, Llangefni. Yna pregethodd y Brawd Hugh Jones i'r Gweinidog, a'r Brawd John Roberts i'r Eg- lwys. Am 2, dechreuwyd gan y Brawd John Davies, Nefin ; a phregethodd y Brodyr R. Jones a H. Jones. Am 6, dechreuwyd gan y gweinidog ieuanc ; a phre- gethodd y Brodyr Jobn Davies a John Roberts. Gellir dywedyd fod y cyfarfod hwn yn un o'r rhai mwyaf dyddorawl a fu erioed yn Llanael-haiarn. Yr oedd y pregethau yn dda, a thraddodwyd hwy gyda rhwydd- ineb raawr. Dangoswyd caredigrwydd nid bychan at y cyfarfod yn yr ardal. Bendithion fyrdd fyddo yn «anlyn y gwaith. J. EVANS. CWRDD MISOL SWYDD GAERNARFON. Cynnaliwyd y cyfarfod uchod ar yr Hfed a'r 9fed o Hydref diweddaf yn Nhyddyn Shon. Y nos gjmtaf, dechreuwyd trwy ddarllen agweddi gan y Brawd W. Jones, Moria ; a phregethodd y Brodyr Robert Jones, Llanllyfni, a Hugh Jones, Llanfachreth. Am ddeg, dranoeth, dechreuwyd gan y Brawd R. Jones ; a phre- gethodd y Brodyr Ẅ. Jones a Hugh Jones. Am ddau, dechreuwyd gan y Brawd J. Evans, Llanael-haiarn ; a phregethodd y Brodyr Thomas Griffiths, Lleyn, a John Roberts, Llangefni. Am chwech, pregethodd y Brodyr Hugh Jones a John Roberts. Cafodd llawer Cristion achos i ddywedyd yn ngeiriau Pedr ar ddiw- edd y cyíàrfod, " Da i mi fod yma.*' Boej i fendith Duw, Ffynnon pob daioni, ganlyn yr ymdrechiadau, fel v byddo i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear, a ílwyn ffrwyth lawer, er gogoniant a moliant i Dduw, yw fy ngweddi. IOAN AB IeüAN. SYMUDIAD GWEINIDOGION. Y mae y Parch. D. B. Jones (Dewi Elfed) wedi «cymmeryd gofal eglwys y Bedyddwyr, ymgynnulledig În Jerusalem, Rumni ; ac y mae arddangosiad bodd- aol ar ddechreu ei lafur yn y lle newydd, fel pe byddai yr Arglwydd yn foddlawn vx symudiad. Llwyddiant äddo. Hefyd ymae Mr. John D. Evans, Llynlleifiad, wedi <lerbyn galwad eglwys Caerffili, a dysgwylir y bydd i'r iirddiad gymmeryd lle yn fuan. Hyderwyf y bydd y «iynieuanc doniol hwn yn lles mawr i'r ardaloedd. T. E. James. ft> Ni ddaeth yr hanesion uchod i law mewn pryd i'w gosod yn eu lieoedd priodol.—Gol. ESGORODD,— Ap ddydd Mercher, y 30ain o Fedi diweddaf, Mrs. Lloyd, gwraig Mr. William Lloyd, Penybanc-Isa, yn agos i'r dref hon, ar Fab. Ar y 4ydd o^r mis diweddaf, Mrs. Morgans, gwraig v Parch. Henry Morgans, gweinidog y Bedyddwyr yn ísFolgellau, ar Fab. PRIODODD,- Hydref lOfed, yn y Tabernacl, yn y dref hon, gan y Paich. H. W. Jone§, Mr. Caleb ÉTans, Lletty, plwyf Llangwnrtwr, â Catherine, merch Mr. W. Williams, Daearfesurydd, Wick, plwyf Llanarthney. Hydref 20fed, yn yr un lle, a chan yr un gweinidog, David Williams, "Mynydd, â Rachel Williaras, Pont- y-gardinen, y ddau o blwyf Llangendeyrn. Hydref fifed, yn addoldy Heol Awst, yn y dref hon, gan y Parch. H. W. Jones, Tabernacl, William Mor- ris â Mary Morgans, y ddau o'r dref hon. Oes hir, heb ddim croes-eiriau,—ac arwydd Eu cariad fo'u ffrwythau ; A l)uw mwyn i ddwyn y ddau Yn ddyddan i'w hen ddyddiau. GWILYM. Ar ddydd Iau, y 24ain o Fedi diweddaf, yn eglwys plwyf Cilrhedyn, Mr. David Thomas, Ffos-y-bongam, â Miss Anna Hughes, Felin-blaenachu, eill dau o'r plwyf uchod, yn swydd Gaerfj-rddin. Ieuan Cordref. Hydref 6fed, yri addoldy y Bedyddwyr, Saron, Tre- lettert, Dyfed, Mr. John Davies, Llestriwr, Aberteifi, â Margaret Morgans, Trelettert. Hydref 8fed, yn Llanbadara Fawr, Mr. Lewis Ro- derick â Miss Naomi Williams, y ddau o Aberystwith. Medi lleg, yn Nhrefgaron, Mr. Edward Evans, Fferyllydd (Iorwerth Glandicr), â Margaret, merch Mr. Rees Jones, o'r un lle. lorwerth a'i Fargaret eirian—fyddont Yn foddus a dyddan, O gain enwog un anian Hyd fedd—a Duw'r hedd fo'u rhan. Ioan Mtnyw. Deuddyn o hardd nodweddiad—unasant Dan iesin iau carìad ; Rhagoriant, llwyddiant, a llâd—boed arnynt, A Naf fo iddynt yn dangnefeddiad. I. GWYLLT. Bho i'r pâr hawddgar o hyd,—Iôr anwyl, Arweiniad dy i'sbryd, A'i allu er baeddu'r l>yd—yma, A thawel lanfa i fythol wyn'fyd. Dewi o'r Ddol. Medi 4ydd, yn Sardis, addoldy y Bedyddwyryn Llanedi, gêr Pontarddulais, gan y Parch. B. Thomas, gweinidog y lle, Mr. William Williams â Miss Eliza Jones, y ddau o Lanedi. Medi 29ain, yn Eglwys Llanfachreth, Môn, Mr. Richard Owen, o'r Parlwr, mab y Bardd Ael Haiam Hir, â Miss Eleanor Edwards, o Bodlasanfawr. Priodwyd Mab y Prydydd—ac Elen, Ei anwylyd beunydd ; Byd didwyll, bywyd dedwydd, Bhad Duw fo ar hyd eu dydd. A. H. H. Hydref 5med, yn Swyddfa y Cofrestrydd, Casnew- ydd ar Wysg, Mr. Edward Gibbons, â Miss Mary Gardener, y ddau o'r dref hòno. Medi lí)eg, yn y Capel Newydd, ger Llanidloes, gan y Parch. Thomas Thomas, gweinidog y He, ac o flaen Mr. T. Jones, y Cofrestrydd, Mr. Richard Hamer, o'r Pant, â Meistresan Elizaheth Price, merch Mr. John Price, Moelfre, y ddau o bhvyf Llandinam. Bendithion y Jehofa Boed iddynt trwy eu gyrfa, Ac yn y nef eu cartref fo Ar ol preswylio yma,—B. Powys. BU FARW,— Ar yr20fed o Fedi diweddaf, yn y Bailyllwyd, yn agos i Landilo-fawr, y Parch. William Williams, gweinidogyr Annibynwyr. Yr oedd Mr. Williams yn bregethwr hyawdl a defnyddiol ; a theimlir colled mawr ar ei ol, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond trwy y Deheubarth yn gyffredinol. Ar yr 20fed o Fedi diweddaf, yn dra disymmwth, yn ei 60fed flwydd oed, yn Llaníyllin, Elizabeth, an- wyl wraig y Parch. D. Evans, Gweinidog y Wesleyaid. Yn y boreu, yr oedd yn ei hiechyd arferol, ac yn ym- ddangos yn fwy siriol nâ chyffredin ; ond cyn nos, yr oedd ei henaid wedi hedeg i'r fro dragyw}'ddol. Ar y 4ydd o'r mis diweddaf, John Saunders, Ysw., Undergrove, yn agos i Lanbedr, Ceredigion,yn 75 oed. Bu yn agos i 60 mlynedd yn aelod hardd a ffyddlawn o eglwys y Bedyddwyr yn Áberduar. Ar ddydd Sadwrn, y 26ain o Fedi diweddaf, yn 74 mlwydd oed, y Parch. Darid Jone», Trefdraeth, Dyfed,