Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

H A N E S I O N. CARTREFOL. ATHROFA HWLFFORDD. Tachwedd y 3ydda'r 4ydd, 1835, cynnal- iwyd cyjfarfod yn Nghaerfyrddin, i'r dyben i sefydlu Athrofa berthynol i'r Bedyddwyr yn Hẃlffordd, Swydd Benfro. Nos Fawrth, am chwech o'r gloch, yn Heol-y-Prior, pregeth- odd y Parchedigion D. Bowen, LÍanelli, ac E. Jones, Casbach, oddiar Rhuf. 7, 14, a 1 Thes. 5, 23,24. Ddydd Mercher, am ddeg, cynnaliwyd Cynnadledd yn y Tabernací, Gweddiodd y Parch. J. Davies," Sittim. De- wiswyd y Parch. J. Watkins yn gadeirydd, —a chytunwyd yn unfrydol i sefydîu Athrofa berthynol i'r Bedyddwyr, yn awr i fod yn Hwlffordd. (Bydd hon yn symudadwy.) Penodwyd ar gyfeisteddwyr a swydJwyr i weithredu ac i drefnu pethau erbyn y cyfar- fod cyffredinol, yr hwn a gynnelir mor fuan ag y gellir—i argraffu rheolau yr Athrofa, a fabwysiadwyd yma, a'u hanfon ì'r Eglwysi yn y Dywysogaeth, i'r dyben o gael meddwl y Brodyr o barthed eu cymhwysder; a chutun- wyd ì anfon at Frawd sydd yn awr yn Lloegr, i ddymuno arno i fod yn Athraw. Dybenwyd, trwÿ weddi, gan y Parch. J. Rees, Harness- down. Cynnaliwyd Cynnadledd drachefn yn y prydnawn. Yn y Tabernacl, am chwcch, gweddiodd y Parch W. R. Davies, Ebenezer, a phregelhodd y Parchedigion Henry Davies, Llangîoffan, ac E. Jones, Casbach, oddiwrth Heb. 13,12—13, a Psal. 103, 13. Yr oedfaon cyhoeddus oeddynt yn hwylus a gwlithog; ac yr oedd unoliaeth a chydundeb hollol yn y cyfrinacbau. Gan ein bod yn prisio gwybo- daeth a dysgeidiaeth mewn (jweinidogion Efengyl, ac yn canfod yn eglur annerbyniol- áeb gweinidogaeth y diddysg a'r anwybodus ynyr oeshon, nis gallwn lai nâ gorfoleddu wrth ganfod ein Brodyr mor benderfyuol i fynnorthwyo y sefydliâd. Addawai un gwr oneddig £20 y flwyddyn drwy ei fywyd,— felly yr un faint gan wr' boneddig arall, &c.; ac wrth ystyried pob peth, yr ydym yn dra nyderus y bydd yr Athrofa hon yn un bob- logaidd a llwyddiannus. Bendith y Nefarei sefydliad, i fod yn fuddiant parhaus i'r Eg- lwysi, ac yn feitnrinfa enwog i " blant y pro- phwydi." H. \V. J. D.S.—By.ldir ynddiolchgar i unrhyw Fon- eddig am anrheg o Lyfiau i'r Gymdeithus. Cyfarwvdder at "Mr. W. Rees, Solicitor, Ha- veijordwest, Pembroheshire.'' CYMDEITHAS ANIANYDDOL MÔN, CAERYNAR- FON, A MEIRIONYDD. Aelodau y Gymdeithas fuddiol a thra déf- nyddiol hon, a gynnaliasant eu Cyfarfod Blynyddol ar ddydd Llun, y 26ain o Hydref diweddaf, am dri o'r gloch yn y prydnawn, yn yr Amgueddfa, yn Heol y Llan, Caerynarfòn, pryd y triniwyd holl faterion y Gymdeithas. Am bump o'r gloch, ymgynnuflasant eilwaith yn Ngwesty Arfau Ükbridge, ac eisteddasant 1 giniaw wrth fwrdd ag oedd wedi ei orlenwi â phob danteithion addas i'r tymmor; ac nis gellai ditn ragori ar y modd yr oeddynt wedi eu parotôi erbyn yr achiysur. Y Parch. W. Wynne Williams yn y gadair. Wedi symud y llian, yfwyd iechyd y Bren- in, y Frenines, a'r Teulu Breniriol. Wrth gynnyg y cibli, "Llwydiant i Gymdeithas Anianyddol Swyddi Môn, Caerynarlon, a Mcirionydd," sylwodd y cadeirydd fod yn ddrwg ganddo nad oedd nifer mẃy lliosog o foneddigion wedi anrhydeddu y Cyfaríbd á'u presennoldeb, yr hyn a gyfrifai ef i afryw- ìogrwyddyr hîn, yn hytrach nag i ddifaterwch tuag at ddybenion y Gymdeithas. Da oedd ganddoglywedfodydrysorfamewncyflwrblo- deuog; a gobeithiai yn ddiragrith y byddai i aelodau a chyfeillion y Gymdeithas weled yr anghenrheidrwydd o gydymgynnull ar acn- lysuron o'r fath, i'r dyben o roddi llawn effaith i'w dybenion canmoladwy. Yna galwyd ar yr ysgrifenydd i ddarllen yr adroddiad, gan fod bôneddigion yn bresennol nad oeddvnt wedi ei glywed yn y boreu. Yn yr adroddiad hwn, a argraffir ac addosparthir yn mhlith yr aelodau, yr ysgrifenydd a hys- bysai sefyllfa y drysorfa, crybwyllai y cyfran- iadau ì'r Amgueddfa yn y flwyddyn ddiwedd- af, a chyfeiriai at sefydliad Óymdeithas gy- ffelyb yn yr Amwythig, dan yr enw, "Cyrc- deithas Anianyddol yr Amwythig a Gogledd Cymru." Wrth derfynu, annogodd yraelod- au i gyfansoddi Traethodan ar Lysieuydd- iaeth, Mildraethyddiaeth, Hynafiaethau, a- Phoblogrwydd, Cynnyrch, &c. y parth hwnw o'r wlad, trwy yrhyn y cyflawnent y dyben- ion i ba rai y fl'urhesid y Gymdeithas, tra ar yr un amser y byddai y gorchwyl o'r dywen- ydd a'r adeiladaeth mwyaf iddynt hwy eu hunain. Yna y cadeirydd a gynnygodd iechyd yr ysgrifeiîydd, a Mr. Trinimer a ddychwelodd ei ddiolchgarwch am y caredigrwydd gyda pha un y derbyniesid ei wasanaeth bob amser, gan sicr'hau wrthynt mor frydfrydig y teimlai am lwyddiant y Gymdeithas. Mewn cyfeir- iad at wlybaniaeth y dydd, dywedodd fod yn rhaid cynnal y Cyfarfód y flwyddyn nesaf yn fwy cynnar, pryd'y byddaiy dyddiauyn hŵy, a gwell cyfleusära i gael y tywydd yn dêg; ac yna, nid oedd ammheuaeth ganddo, y ceid nifer mor liosog o gyfeillion ynghyd ag a gaed y flwyddyn flaenorol. Am dano ei hu», ni fyddai iddo fyth wangaloni, tray gwelai ei hun yn cael ei amgylchynu gan y bonedd igion ffyddlawn ag oedd yno ar yr achlysür presennol. Yna wedi yfed iechyd amryw o noddwyr a chefnogwyr y Gymdeithas, ymadawodd T cyfeilhon yn brydlawn, wedi cael pob bodd- lonrwydd yn ngweithrediadau ydydd, ac yo coleddu yr hydercryfaf am lwyddianty Gym- deithas, a chael Cýfarfod Blynyddol Uawer mwy Uiosog y flwyddyn ddyfodol. ADDYSG Y NEGROAID. Prydain Fawr svdd bob amser yn mlaenai mewn gweithredoedd o haelioni a dyngarwcn, gan nad pwy fyddo y gwrthddrychau, a pn» gynmaint fvdcío y draul iddi hi. Wedi pryn" rhyddid i g'aethion yr Intfia Orllewinol amJ swm dirfawr o £20,Ö0U,(X)l), nid ydys yo y»' ìoddloniarÿnUnigrrhocWi ihyddidir caeio,