Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEREN GOMER. Rhif. 294.] MAWRTH, 1840. [Cyf. XXIII. TMETHODION GAN D. AP MYS STEPHEN. RHIFYN XXX. HELAETHRWYDD IAWN CRIST. My Nhad, dy air a rodded, caiff dyn rad. *" * * * # Gwel yma fi; mi erddo, einioes tros Yr einioes rhoddaf; syrthied arnaf fi Dy lid; cyfrifa fi yn Ddyn." Coll Gwtnfa, Can. iii, 246, &c. " Can love allure us? Or can terror awe ? He weeps!—The falling drop puts out the sun ; He sighs!—The sigh earth's deep foundation shak.es." Young, Night ThoughU, N. iv. DADLEU mawr a mynych sy wedi bod ar y pwnc hwn. ]Sid ydys yma yn cymmeryd y mater i fyny yn ddadleugar, eithr yn unig gwneuthur rhai nodiadau a ymddangosant i fi yn profì yn gyflawn yr athrawiaeth o holl-ddigonedd Iawn Crist; neu, yn ngeiriau hen Galfimaid Cymmanfa Dort,—"Fod Iawn Crist o werth a phris anfeidrol, yn orddigonol i symud ymaith bechodauyr hollfyd." Ystyr- ìer yn gyntaf Nodweddiad Personol yr Iachawdwr. Beth yw tystiolaeth yr ysgrythyr am dano ? Y mae yn priodoli iddo, yn y geiriau egluraf a mwyaf diymwad, Wir Ddwyfoliaeth a Gwir Ddynoliaeth. Er enghraifft, Iöan i, l, " Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair." Dyma Dduwdod. Ioan i, 14, " A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a babellodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megys yr uniganedig oddiwrth y Tad,) yn îlawn gras a gwirionedd." Dyma Ddyndod. Etto, " O'r rhai (yr luddewon) yr hanoedd Crist yn ol y cnawd, (dynol- iaeth,) yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd," (dwyfoliaeth,) Rhuf. ix, 5. Yn mhell- ach, yn Phil. ii, 6—11, dynodir ei Dduwdod gan yr ymadroddion, " Ffurf Duw," " Gogyfuwch â Duw ;" a dar- lunir ei Ddyndod pan ddywedir iddo " gymmeryd arno agwedd gwas, ei wneyd mewn cyffelybiaeth dynion, ei gael mewn dull fel dyn, a'i ufydd-dod i angeu, ie, angeu'r groes." Dyma fynegiadau ysgrythyrol, ac hawdd fyddai ychwanegu atynt, a ddysgant yn y modd cadarnaf yr ath- rawiaeth o wir Dduwdod a Dyndod yr Arglwydd Iesu. Y mae yr undeb rhwng y ddwy natur yn ei berson rhy- feddol uwchlaw ein hamgyffrediad ni, ac iddei dderbyn fel pwnc o gredin- iaeth grefyddol ar awdurdod Gair Duw. Nid yw yr undeb yn cymmysgu y nat- uriaethau ;* nid yw Duwdod yn dyfod * Crefa yr ysgrifenydd sylw y darllenydd ymofyng^ar" at y dyfyniadau caulynol, ar y pwnc uchel a rhyfedd hwn :— " All the acts of o«r Lord Jesus Christ that were physical, or merely intellectual, were acts of his human nature alone, being necessary to the subsistence of a human uature; but all his moral acts, and all the moral qualities of complex acts ; or in other terms, all that he did in and for the execution of his mediatorial office and work;—were im- pressed with the essential dignity and moral value of his divine perfection."—Dr. Pye Smith, Oh the Sacrijíce oý'Christ, p. 54. " Christ declares that he desires nothing new, but only that he may appear in the flesh such as he was beforethe creation of the world; or to speak more clearly, that