Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOFYNIADAU. 143 mai nid fy amcan, wrth sylwi ar y gofyniad crybwylledig, ydyw ymyraeth dim o barthed atebiad Mr. Thomas Job, Abertawy, yn Se- ren Mawrth; ond gan fod eich plant yn fynych yn methu cydweled, hyd y nod yn mysg daearolion bethau, llawer mwy felly, pa'n y byddont yn sylwi ar y bydoedd fry, pa rai sydcl braidd tu hwnt i'n hamgyffredion, yn nofio yn yr eangder diderfvn. Yn ol natur pethau, pa belìaf oddiwrthym y bvddo unrhyw wrthadrych, lleiaf i gyd vr ymüdengys; ond mor wir á hyny, pan fyddo yr Ilaul neu y Lloer yn ymbellhau i'r Gor- llewin, yr ymddangosant yn fwy nag ar y Nawn-gylch', ac yn gwahaniacthu yn eu maintiofi ymddangosiadol braidd bob dydd, ar amserau. Nid oedd y ffug-ymddangosiadau yma yn anhysbys i Hypocrates, ac ereill o enwogion y cy'noesoedd,'pa rai oeddynt yn priodoli y cyf'ryw phenomena i ardymheredd yr awyr- gylch, ac wrth hyny y rhagfynegent yr hin; yr hyn a welwn yn egl'ur oddiwrth yr hen liu- ellaa a ganlyn :—" When the Sunne ariseth or setteth bigger than customary, it dotli declare rain to follow ; and if the Sunne shewelh redde or unto an orange colour before his setting, and appear ofa great bignesse, doth undoubtedly signiffe wind tofollow." Y mae yn amlwg mai nid canlyniad o eff- eithiau yr onglau a lunir yn ein llygaid yw y dull yr ydym yn caufod gwrthddrychau;' a fy meddwl yŵ vr ymddangosant yn ol dwysder yr awyrgylch sydd yn amgylchynu y ddaear, yr hwn sydd yn fwy dwys neu wasgaredig pa âgosaf i'w gwyneb, a chan fod yr olwg yn treiddio trwy gorff mwy eang a dwys o hono pan y byddom yn edryéh naill ai i'r Dwyrain neu i'r Gorllewin. dros gyfran helaeth o wyneb cylchawg y ddaear, nag yn syth uwch- ben, y mae y cyfryw yn gwasanaethu er mwy- hau (magnify) y 'cyfryw wrthddrychau, ac o ganlyniád yn ymddangos yn fwy ar eu codiad a'u machlu'diad, nag ar amserau ereill. Merthyr. S. Evans. Ddehongliad i Ddychymmyg Ioan ab Gwilym, yn Seren Ebrill, diweddaf. Y gwrthudrych barodd ddychryn I Ioau lawer gwaith, Ei enw ceisiaf roddi, Heb feddwl bod yn failh; Yr ydoedd mewn bodoliaeth Cyn un crcadur byw, A phofir hyny hefyd 0 fewn i Fibl Duw; Ei enw ydyw Dwfb, Difaodd fyd yn grwn, Oddieithr Noah gyfiawn, Can's yn yr arch rho'w'd hwn. Mae'n gryfach ná. holl gewri Y ddacar hon j gyd : O'r rhai'n difaodd lawer, Yn siwr, o bryd i bryd. Y mae yn teithio hefyd Heb flino dan y rhod, A theithio wna yn gysson, Tra fyddo'r bỳd yn bod ; Ac mae yn anghenrheidiol 1 gadw dyn yn fyw; Can's pe daifyddai dwfr, Darfyddai dynolryw. A'r peth ddychrynodd Ioan Wrth rodio yma a thraw, Oedd cael ei wlychu drwyddo Gan gawod drom o wlaw. Llanelli. Titus Ieuanc. [Derbyniasom ddehongliadau cyffelyb oddiwrth yr Aderyn gwyllt o'r Coed ; W. Evans, Parselle; Sanii ap Shon, Gwent; Iago ab Dewi, Caerfyr- ddin; W. Bateman, Cenarth; O. G.—Gol.] GOFYNIADâU. TESTAMENT CAMPBELL A Q. Mr. Golygydd,—Er ys rhai misoedd bell- ach, fe'n hanerchir gan y dysgedigion Wil- liams a Q., ynghylch Testament Campbell; ond er gwyched y ddysg a'r ffraethineb sydd Ín ddangosedig gan éin brodyr uchod yn eu ysgrifau, nid yw y "Cvmro serchog," &c. nemawr doethach o barth i'r llyfr enwedig, oddieithr gwybod fod y fath. Ac yn bresen- nol, Syr, os caniatéwéh, cyfarchaf fy nghyf- aill Q., gan ofyn a ganlyn iddo ef:— 1. Pa beth ydych yn fwriadu i'r Cymry uniaith ddeall oddiwrth eich ysgrifau o'ber- tbynas i'r Testament uchod ? 2. Pa un ai profi ein hybarch frawd W. yn anwireddus, ai Campbell yn gyfeiliornus, yd- yw eich dyben yn y llythyr diweddaf o'r eiddoch ? 3. Gan eich bod yn dwyn gerbron ddyfyn- iadau o gyfieithad dau Gampbell, ac yn eu cyferbynu, pa un sydd debycaf idd ein cyf- ieithad ni yn y Gymraeg, a'pha un yw y cyf- ieithad ffyddlonaf o'r Textus Receptûs ? 4. Pa heth mewn athrawiaeth a effeithia newidio ä fach am un fawr, a pha un o'r ddwy sydd yn y Grywaeg ? 5. Ý dyfyniadau hyny sydd yn y golofu danyrenw "T. C," ac a gyferfjynir mewn colofn dan yr enw "Gospels by Dr. C." â "dim ynddo,"—pa un, ai ydynt yn y Gryw- aeg, ai dim ynddi f Cael atebion i'r pethau uchod a fyddai yn ychydigo foddhad, efallai, idd eich cy'faill, A»5a£T)taÄoc. Mr. Gomer,—Rhynged bodd yn eich golwg i roddi lle, o fewn rhyw gongl o'ch Cy- hoeddiad clodwiw, i'r hyn a ganlyn. Yr oeddwn, ar foreu dydd yr Arglwydd, ýn ddiw- eddar, yn sefyll ar làn y dyfroedd, yn gwran- daw ar Weiüidog dysgedig a nharchus yn traddodi pregeth ar yr ordinhaa o Fedvdd; fe ddywedodd nad oedd ef yn ystyried un math o Fedydd yn well nâ rhyw olchiadau ereill, oddieithr fod y Bedyddiedig yn ufydd. hau oddiar wir edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist. Gwir yw, fod llawer yn cael eu bedyddio ar y broffes hòno, ac wedi hyny yn gadfael achos Duw, ac yn byw yn annuwiol am ddeg, ugain, neu ddeg ar hugain o flynvddau, mwy neu lai, yr hyn sydd yn brawf'digonol i bob un nad yw yn credu syrthiad oddiwrth ras, nad oedct y dyn hwnw yn ufyddhau i'r ordinhad o Fed- ydd oddiar wir edifeirwch; y canlyniad yw,