Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANESION. 223 MARWOLASTH V PASLCH. JOSEUA WÄTKXNS, CAERFYRÜDIN. Gyda't hiraeth dwysaf yrydym yn hysbysu marwolaeth y Parch. Joshua Watkins, gweinidog y Bedyddwyr yn Iíeol y Prior, yn y dref hon. Cymmerodd y dygwyddiad ẃalarus hwn le ar ddydd Mawrth, y22ain o Fehefin diweddaf, pan oedd yn 71 mlwycíd oed. Cafodd Mr. Watkins ei neillduo yn Weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Heol y Prior ar yr 2Sain o Fawrth, 1796; ac oddiar hyny hyd ei glafychiad/cafodd ei lafurwaith ei fendithio á Uwyddiaut neillduol. Fel ilýn a Christion, yr oedd Mr. Watkins yn hynod am ei gymmwynasgarch. ei dawelwcb, ei addfwynder, a'i dduwiolfrydedd gwastadol. Yn ei bregethau, daugosai ei fod yn berchenog ar feddwl hynod gryf, a'i feddylddrchau a'i syniadau oeddynt yn wastad yn dra addas i'r pwnc a fyddai ganddo mewn llaw ; ond gwaitb ofer ydyw i ni hysbysu ei ragoriaethau wrth rai ag oeddynt yn gwybod am dano yn llawer gwell nâ ni ein hunaiu; nid oes braidd Eglwys yn y Corff nad yw wedi colli dagrau wrthei glywed yncyhoeddi Crist yn geidwad ibechaduriaid,yr hyn yn wastadoedd ei hoff destun; ac yn ei afiechyd olaf, hiraethai yn fawr am gael ymadael, a bod gyda'i Brynwr bendigedig. Ergyd tri=t i bob Cristion,—a briwiau Ar wyneb dae'r ni bu dyn—a gerid I giliau y galon, Ragoruch nâ Watcyn ; — Droi'r hen Dad di fiad ei fron j Bydd ei glod uwch bedd y glyn, I oer wely marwolion. j A'i daliad yw aur delyn. GWILYM Mil. YR ODYDDESAU. Ar ddydd Llun Sulgwyn diweddaf, agor- wyd Cymdeilhas o Odyddesau yn y Gwestdy a elwir Ardalydd Granby, yn y dref hon, dan yrenw " Cjfrinfa Rbosyn Cymru," ac uiewn cyssylltiad ac undeb ag Ody'ddesau Mancen- ion, Caerdyf, &c. Cafodd amryw wragedd cyfrifol eu gwneyd yn aelodau, a chynnyg- iŵyd llawer yn yctiwaneg erbyn y cyfarfod nesaf. Deallwn fod y Gyfrinfa'hon, yn gys- tal â Chyfriufaoedd y"r Ödyddesau yn gyfl're- din, yn dyfod yn mlaen yn rhagorol; ac y mae pob argoelion y byddant yn alluog i efelychu eu brodyr Odyddawl mewn defnydd- ioldeb, a gweithredoedd haelionus, yn lled fuan. HUNAN-LADDIAD ARSWYDUS. Yn gynoar arbrydnawn dydd Llun, oddeu- ta pythefnos yn ol," dyn o ymddangosiad bon- eddigaidd a ddaeth at un o wardeniaid plwyf St. Luc, Chelsea, ac a erfyniodd am genad i fyned i ben clochdy yr eghws newydd, i'r dyben o gael golwg ar Fynacnlog Westmin- ster, i dynu ei lun. Rhoddwyd cenad iddo heb un petrusder, ac yntau a esgynodd i ben )' clochdy gyda'r clochydd, yr hwn a ddych- welodd yn mhen ychydig i ganu y gloch; ond, heddgeídwad ag oedd ar ddyledswydd y tu allan i'r fynwent a welai ddyn ar ben y cloch- dy yn ymbarotôi i daflu ei hun ymaith, a chyn pen eiliad efe a neidiodd ymaith, ac a syrthiodd i'r llawr y tu gorllewinol i*r tŵr. Rhedodd amryw ddynion ì'r lle vn ddioed, a chodasant ef i fyny, ond yr oedd yn hollol farw. Yr oedd y palmant o gylch y man y syrthiodd wedi ei orchuddio â gwaed. Dyg- wyd y corff yn ddiattreg i'r gweithdy agosaf, a chwiliwyd ef gan feddyg, a chafwyd fod y siol w"edi ei hollti, yr ysgẁyddau wedi eu dad- gymmalu, a'r cluniau wedi eu tori mewn am- ryw fanau; yn fyr, yr oedd holl esgjm y corff wedi eu dryílio yn ddarnau mân. Caf- wJ'd allan yn mhen ychydig mai un Mr. Lloyd, o Leamington, oedd y dyn anffodus hwn, ac nad oedd ond newyud ddyfod allan o'r lloerigdy. Mae y clochdy o ba un y neid- iodd yn 'ÌÜU troedi'edd o uchder. LLONGDDRYLLIAD ARSWYDUS. Yiiydym newydd dderbyn hanes am ddryll- iad y drosglwydd long a elwid y William Brow'n, yr hon a aeth allan o Lynlleifiad tua Chaerefrawg Newydd yn ddiweddar, ac ar ei bwrdd nifer mawr o fudolion ; eithr tarawodd yn erbyn dernyn mawr o ia, a soddodd wedi i'r morwyr a'r teithwyr fyned i'r badau oll ond deg ar hugain, y rbai a soddasant gyda'r llong. Ond y petfi mwyaf truenus yw, fod un o'r badau wedi ei lenwi gymmaint, nes gorfu ar y morwj r daflu un ar bymtheg o'r mudolion i'r mór, dan yr amgylcfiiad mwyaf adfydus. Taflwyd dau frawd dros y bwrdd, a'u chwaer a neidiodd i'r dyfnder ar eu hol; bachgenyn ieuanc a erfyniai ychydig fynydau o seibiant, i gael gweddio ar Dduw, önd taf- Iwyd ef drosodd yn ddioed; rhai a ymlynent wrth ymyl y bâd, eithr eu dwylaw a "doritl ymaith â bwyell; a chafwjd u'n bachgenyn yn glynu wrtfi y llyw, pan gymmerwyd hwynt ì fyny gau long arall, ac achubwj'd ei fywyd! Mae yn rhy auhawdddarlunio y creulonderau arswŷdus a gyflawnwyd yma; ond y morwyr, y rhai ydynt yn awr mewn dalfa, ac wedi eu hanfon i garchar, a haerant fod yn rhaid gwn- eulhur hyny er mwyn acbub bywydau y lleill; a dywcdant hefyd na ddarfu iddjmt daflu neb drosodd ond y rfiai oeddyut eisoes ar fin tranc- edigaeth. O'r Iwerddon a'r Albau yr oedd y mudolion anffodus hyn agos oll. FFRAINC. DIENYDDIAD DARMES. Hanesion o Ffrainc a'n hysbysant fod prawf Darmes am lofruddio y Brenin ar ben, a'i fod wedi ei gael yn euog, a'i ddienyddio hefyd. Cymmerodd y dienj ddiad le yn foreu