Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SEBEIV ŴOIER. Rhif. 254.] TACHWEDD. [Cyf. XIX. CAETHIWEDYN AMERICA. EHIFYK X. NID gwybodus i bawb o ddarllen- yddion Seren Gomer yw fod Caethiwed dynion etto yn parhau yn America, yn ei holl erchylldod a'i greulonder. Yn ol cyfreithiau y dos- pyrth lle y ffyna y camwaith dychryn- llyd hwn, y mae caethiwed yn cael ei ddatgan i fod yn etifeddol a phar- haus; y mae llafur y caethwas yn orfodedigawl a didâl; ystyrir y caeth- was fel meddiant, a gellir ei werthu, ei wystlo, ei burio wrth ewyllys ei berchenog ; nis gall wneuthur unrhyw gytundeb, ac nis medda hawl gyf- reithiol i un math o feddiant; nis gall fod yn dyst yn erbyn dyn gwŷn mewn llys gwladol, gan nad beth fo ei ddrwg-weithredoedd; gellir ei gospi wrth arch ei feistr, am drosedd neu heb drosedd; ni oddefir iddo wrth- sefyll dyn gwyn dan un amgylchiad pa bjnag; ni oddefir iddo brynu ei huafyn rhydd, na chyfnewid ei feistr ; y mae yn hollol ddi-amddifiỳn yn ei berthynasau teuluaidd; y mae y cyf- reithiau yn eu hysbryd yn hollol yn erbyn ei rydd-freiniaid, a thueddant iddei amddiíadu yn llwyr o addysg a chysur creíydddol. Gymry, pa dyb- iwch am hyn oll? Llawer a glywsoch ara ryddid Americanaidd, a thaer iawn eich gwahoddwyd i fyned iddei fedd- iannu a'i fwynhau. A feddyliasoch erioed fod y rhyddid hwn wedi ei sefydlu gan ddynion a oddefent ac a arferent yn ddiwyd bwyll a glewfryd fasgnach yn nghnawd, a gwaed, ac eneidiau eu cydgreaduriaid ? Yr wyf, yn awr, yn galw eich sylw at y pwnc hwn, er gosod o'ch blaen haues byr o weithrediadau cyfeillion rhyddid yn y wlad hono, er symud ymaith y gwarth hwn oddiar gymmer- iad eu llywodraëth, a rhyddhau eu cydgreaduriaid o ddwylaw y gormes- wr. 41 Yn y flwyddyn 1833, cynnaliwyd cynnadledd oddirprwywyr yr amrywiol gymdeithasau a íFurfiesid drwy wa- hanol ranau yr Unol Daleithiau, yn Philadelphia, er ffurfio k< Cymdeithas Wrth-Gaethiwed Genedlaethol." Par- haodd y cyfarfod hygofus hwn dri diwrnod, pryd yr ystyriwyd pob cang- en o'r pwnc mawr a phwysig o rydd- freiniaid yn bwylìgar a gofalus. Dech- reuwyd a gorphenwyd pob cyfarfod drwy weddi. Yn mysg eií gwahanol benderfyniad- au, daethwyd yn unfryd i'r un canlyw- ol:— " Fod y gynnadledd bresennol, gau ymddwyn dan deimìad dwys o'u ham- ddibyniaeth ar Dduw Hollalluog am gyflawniad yr amcan a'u dygodd yn nghyd, yn darganmol yn serchusi'r Eg- lwys Gristionogol dr^y y sir i gadw prydnawn y dydd Llun olaf yn y mis, er ceisio ac ymbil cynnorthwy Dwy- fol o blaid y caethion." Ar ddiwedd eu cydymgynghoriadau, mabwysiadwyd y Dadganiad canlynol o Egwyddorion. Efallai na ysgrifen- wyd erioed Ddadganiad cyflawnach a mwy hyawdl. Teilynga ei gerfio mewn llythyrenau aur, ebai Golygydd " Sla- very in America" No. I, p. 6. '«Ymgynnullwyd yn Philadelphia er ffurfio Cymdeithas Genedlaethol yn erbyn Caethiwed, ac y mae y Gynnad- ledd yn ymaflyd yn awyddus yn y cyfle hwn, i gyhoeddi y Dadganiad canlynol o Egwyddorion a feithrinir ganddynt yn mherthynas i gaethiwed un rhan o chwech o drigolion Ame- rica." Y mae dros bumdeg a saith o flyn- yddau oddiar pan y cyfarfu ycbydig o- wladgarwyr yn y lle hwn, i drefnu mesurau er rhyddhau eu gwlad oddi- tan iau dramor. Y conglfaen àr yr hon y sylfaenasant deml Rhyddid