Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, AM MEDI, 1828. BUCHEDDÂÜ. COFIANT AM Y PARCH. MR. FLETCHER, GWEINIDOG YR EFENGYL YN MADELEY,SIR AMWYTMG- (WEDI EI DALFYRU l'R GYMRASG.) (Parhad o tudal. 242.) 21. Yr arf â pha un yr oedd efe yn gallu gwneuthur y rhan fwyaf o'i weithredoedd cyhoeddus ydoedd y gair santaidd, yr hwn a elwir yn Gleddyf yr Ysbryd. Yr oedd efe yn hynod o gywrain yn ei arferiad o'r cleddyf daufiniog hwn, gan ei droi yn mhob ffordd er amddiffyniad o'r efengyl a dymchweliad y gwrthwynebwyr. Gyda hwn y torai efe yn chwilfriw holl faglau y drygionus; gyda hwn y tarawai efe at wraidd pob pechod—y gwahanai efe yr enaid a'r ysbryd, y cymhalau aV mêr ; a phan y byddai efe yn anelu at j nod, anmhosibl fyddai i'r pechadur trwy unrhyw foddion gadw y saeth ymaitb. Ar Jiwn y rhoddai efe ei bwys am Iwyddiant yn ei weinidogaeth, megis yr unig arf â pha un y byddai iddo dori trwy ragfarn y bobl, a darostwng eu gelyniaeth yn erbyn Eglwys Crist. 22. Yr oedd ganddo allu rhyfeddol i gymhwyso ei hunan at am- gylchiadau ac amgyffrediadau cyffredinol ei wrandawyr. Efe a allai ymostwng gyda'r annoeth, ac ymgyfodi gyda'r cystuddiedig. Yr oedd efe yn argyhoeddwr llym i'r annuwiol, ac yn gysurwr mawr i'r rhai galarus; ac megis un wedi ei ddysgu i deyrnas Dduw, efe a ddygai allan bethau newydd a hen. Ei glywed ef heb hyfrydwch ydoeddd yn anmhosibl, ac heb gael lles yn beth annghyffredin o hynod. Y fath, trwy Dduw, ydoedd ei bregethu, fel ag y daliwyd llawer yn y rhwyd a dynai; îe, llawer enaid o dan ei weinidogaeth ef a symudwyd o dywyllwch i oleuni, ac ofedd- iant Satan at Dduw. Ei eiriau a wisgid gyda nerth, ac a draethid gydag effaith. Mewn gair, ei bregethau oeddynt apostolaidd ; a'i ysgrifeniadau, yn ol a ddywed Mr. Wesley, oeddynt yn rhagori ar eiddo pawb a fu o'i flaen ef. 2o