Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Hanesiaeth y Methodistiaid Wesleyaidd. 363 phe deuai angel o'r nef a dywedyd yn amgen na'r Beibl, nid ydym i'w gredu: ac y mae pob peth tu yma i ffydd yn ngwaed Crist, yn rhy fach i'n gwneyd yn gyfranogion o Grist. Yma y gwelwn fod Crist wedi prynu y rhai sydd yn ei wadu ; pe amgen ni ddywedasai yr Ysbryd Glan eu bod yn gwadu yr Arglwydd yr hwn a'u pryn- odd hwyut. Nid ei ddefaid y rhai sydd yn gwrando ei lais, ac yn ei ganlyn; nid ei gyfeillion y rhai sydd yn gwneyd pa beth bynag y mae yn ei orchymyn iddynt; ac nid ei etholedigiou santaidd ac anwyl, ydyw y rhai sydd yn ei wadu; er hyny, rhai a brynwyd ydynt. Athrawonydynt: gau athrawon : athrawon poblogaidd,—"Hawer a ganlynant eu distryw hwynt:" athrawon a syrth dan farn Duw, yn nghyda'u dilynwyr,—" ydynt yn tynu arnynt eu hunain ddinystr buan."—Yma y gwelwn fod perygî i rai a brynwyd gan yr Ar- glwydd gael eu dinystrio; i'e, fod rhai a brynwyd, yn tynu arnynt eu hunain ddinystr buan, ac yu arwain ereill i ddinystr â'u heresiau dinystriol! AMRYWIAETH. HANESIAETH Y METHODISTIAID WESLEYAIDD VN HGHYUBU, &C. (Parhad ó"n Rhifyn am Tach., tudaìen 336.) Yh^e Mr. Jones yn myned yn mlaen drachefn gan ddywedyd,— "Ẅedi i Mr. Owen Davies a Mr. John Hughes ddyfod i gyd- Jafurio i sir Ddinbych a sir Flint, cytunasant i fyned mor belled a Machynlleth i ymweled â'r hen ŵr duwiol hwn ag ydoedd mor ffyddlon o blaid ein hachos, ac yn parchu cymaint ar Mr. Wesley, fel nad oedd yn pregethu nemawr o bregeth byth heb grybwyli am Mr. Wesley a Whitfield. Wedi i Mr. Davies a Mr. Hugbes gyr- haeddyd Machynlleth, yr oedd llawenydd yn llanw calon Mr. Foulkes wrth weled Brodyr o'r un Corff wedi dyfod i ymweled âg ef, yr hyn nad oedd yn ei ddisgwyl yn ei oes. Gofynodd iddynt bregethu, yr hyn a wnaethant boreu dranoeth, am ddeg o'r gloch, yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Tra yr oedd Mr. Davies yn pregethu, cymerwyd Mr. Foulkes yn glaf, fel na allodd fyned i'r Capel mwyacb, eithr terfynodd ei daith yn fuan wedi hyu ! ond yr oedd yn hyfrydwch mawr ganddogaelgweled ei Frodyr, a chael clywed rhan o bregeth un o honynt, cyn iddo derfynu ei daith: ac os oedd hyn yn llaweuydd i'w galon, pa faint mwy y llawenychodd ei feddwl duwiol, pan y darfu i ryw angel glân gario y newydd fod çymdeithas eglwysig wedi ei sefydlu yn Machynlletb ?" Fel hyn y terfyna yr hanes a roir i ni gan Mr. Jones am dde- chreuad yr achos da yn y dref, yn nghydag auitai amgylchiadau perthynol iddo. Yn ychwanegol at yr hyn a grybwyllwyd eisioes gan Mr. Jones mewn perthynas i Mr. Foulkes, y mae yn dda genym gael y cyfieusdra yma i osod gerbron ein cyfeillion a'r cy- hoedd hanesiaeth byr am dano, yr hwn a ysgriîenwyd yn y Saes- 2z2