Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR SBurgraton Witëltgmlfif, AM AWST, 1833. BUCHEDDAU. ■+ ♦ •— BYWGRAFFIAD MR. RICHARD LARDNER, CONWY. Hynaws Olygydd,—Os teilynga enwógion y byd hwn i feini gael eu cyfodi a'u cerfio yn gofadeiladau yn mhrif-leoedd dinas- oedd, er anfarwoli eu henwau mewn oesoedd a ddeuent • mwy o lawer y teilynga enwogion y deyrnas nad yw o'r byd hwn gaeì cyfodi iddynt gofadeiladau ar ddalenau y prif gyhoeddiadau cref- yddol, er anfarwoli eu henwau, a chadw mewn cof eu rhagoriaeth- au wrth lanw swyddau yn Seion Duw. 0 ganlyniad cefais fy annog i gasglu a ganlyn er coffadwriaeth am swyddog fìyddlon arall ag sydd wedi syrthio yn ddiweddar yn Israel. « Blodeuant hefyd fel y winwydden.- bydd eu coffadwriaeth fel gwin Lû óanws.*'-—Hosea. Gwrthddrych yr banes ganlynol oedd fab i Limborough a Catherine Lardner, o Gonwy, swydd Gaerynarfon. Ganwyd ef yn Mai, 1802, ar y dydd ag y daeth y cenhadon Jones a Bryan y waith gyntaf i'r dref hon i gyhoeddi yr " iachawdwriaeth gyffred- inoU" Galwedigaeth ei dad oedd gweithio esgidiau, a chadwai amrai weithwyr. Yr oedd ef yn ddyn o gymeriad parchus, ac o ymarweddiad moesol. Arferai fyned yn gyson i wasanaeth yr eglwys sefydledig, lle yr oedd yn un o flaenoriaid y canu, a pharth- au o'r dawn hwn o'i eiddo a ddisgynodd ar ei fab Richard. Ei fam oedd un o'r rhai a ymunodd gyntaf gyda'r Wesleyaid yn y dref, a pharhaodd yn aelod ffyddlon o'u cymdeithas hyd ddydd ei marwolaeth. Bu farw pan nad oedd ei mab hwn ond saith oed; er hyny soniai ein brawd lawer am dani yn ei ddydd. Y mae lle i gasglu fod y fam hon yn gyffelyb i'r dduwiol Eunice gyda'i mab Timotheus, yn gwneyd pob ymdrech er cael ei theulu i feddu "y ffydd ddiffuant:" ac yn un o bapyrau ein brawd, y maenodiad fel byni—"Pan gollais fy anwyl fam, yr oeddwn y pryd hyny megys o dan iau." Ymdrechaf i osod cymeriad ein brawd tan chwech o benau gwahanol, i edrych a gaiff y darllenydd gip-olwg ar y gras Duw a amlygwyd yn ei argyhoeddiad, yr hwn oedd hefyd yn dys- gleirio yn ei fywyd, ac yn buddugoliaethu yn ei gystuddiau a'i farwolaeth. 2 g