Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AM RHAGFYH, 1833. BUCHEDDAU. BYWGRAFFIAD ANNE MORGAN, 0 ABERSYCHAN. Anne Morgan, gwrthddrych yr hanes ganlynol, ocdd ferch i Thomas a Jane Lewis, o Ferthyrtudful. Hi a anwyd yn y flwyddyn 1801. Yr oedd ei thad a'i mam o duedd grefyddol ; y naill mewn undeb â'r Sosiniaid, a'r ilall â'r Bedyddwyr. Yr oedd hi gan liyny wedi cael manteision o'i mebyd i feddwl am ei diwedd, ac i ymgadw rhag pechodau rhyfygus : ac ni arferodd ddilyn pechod- au gwaradwyddus fel y gwnai y rhan fwyaf o'i chyfoedion yn y Ue poblogaidd hwnw. Er hyny nid oedd wedi ei haileni, yr hyn oedd yn anhebgorol angenrheidiol er rhagymbarotoad i fyd sydd well. Pan oedd rhwng 15 ac 16 oed, ymunodd mewn rhwymyn priodasol gyda William Morgan, o Drefdegar; ac arosasant yno hyd ddechreuad y flwyddyn 1810, heb fod ond gwrandawyr yn unig. Pan oeddwn yn niynegu am druenus sefyllfa yr euaid heb wir grefydd, tywynodd goleuni Yshryd y gras i'w chalon, fel y gwelodd nad oedd yn meddiannu ar y grefydd oedd yn angenrheid- iol iddi ei mwynhau, neu fod byth yn druenus. Mynych y dy- wedodd wrth ei chyd chwaer-yn-ngbyfraith (yr hon sydd yn aelod fFyddlon o'n cymdeithas yn Abersychan) am ei hargyhoeddiad : yna, heb ymgynghori â chig a gwaed, ymroddodd i ymofyn yn ddiaros am y cyfnewidiad yn sefyllfa ei henaid. ünodd â'n cym- deithas yn Nhrefdegar; a chafodd dystiolaeth mai nesâu at Dduw oedd dda iddi: trugarhaodd yr Arglwydd wrthi, a nerthodd ei benaid euog i'w dderbyn, ac i ymorphwys ar ei haeddiant an- feidrol am fywyd ac iachawdwriaeth. Gwedi ei rhyddhau oddi- wrth euogrwydd a llywodraeth pechod, a derbyn adnabyddiaeth o'i chymeradwyaeth gyda Duw, hi a aeth ar hyd ei ffbrdd yn llawen, gan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn nghysuron yr Ysbryd Glân. Yr oedd yn ddiwyd yn yr ymarferiad o foddion gras. Dywed y brawd H. Harris, ei fod yn adnabyddus o A. Morgan er's amrai flynyddau; a " bûm," meddai ef, " yn cyfarfod yn yr un rhestr â hi am agos i naw o flynyddoedd, a chefais y fraint o fod yn flaenor iddi y pum mlynedd diweddaf o'i bywyd, ac ni ehefais erioed achos i amau ei chywirdeb fel cristionoje». Ym- 2z