Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, AM IONAWB, 1817. AT OLYGWR YR EURGRAWN WESLEYAIDP. ANWYL SYR, Y'MHLITH y rhai blaenaf mewn rhinweddau gras, nid allwn yn awr ddewis neb o flaen y diweddar Barch. Dr. Coke, i gael y flaenoriaeth o dan y pen Bj/wgraphiadau yn eich buddiol Drysorfa, am y flwyddyn 1817. Y mae coffa am enw a gwaíth Coke, trwy ras, yn anwyl gan filoedd o ddynion o bob liiw yn y byd ; ac yr wyf yn byderus ddisgwyl y bydd hanes ei Fywyd a'i Farwolaeth yn gynhesol hynod gan y Cymry, gan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn ein gwlad ; ac os bernwch ygwaith yn addas i'w ro'i yn yr Eurgrawn, y mae fy Hafur yn gyflawn at eich gwasanaeth. Wyf eich serchog wasanaethwr, Muthw, Rhag. 2, 1816. ^ W. Evans. HANES BYWYD A MARWOLAETH Y PARCH. DR. COKE, GYNT O ABERIfONDDU, SWYDD FRECHEINIOG. Y mae blaenafofal y Nef dros yr Egiwys, ac yn cyrhaeddyd tu ag at ei holl aelodau, ac mae hyd yn oed gwallt eu penau yn gyfrifedig. Y mae hyn yn cael ei eglur rjrofi trwy ei holl drefn ragluniaeth. Ni wnai Duw olchi ymaith diigolion aflan yr hen fyd cyn iddo yn gyntaf barotoi Arch i'r ffyddlon deulu. Efe a wrthododd ganialau i Elias ei ddymuniad o gael marw hyd ne's gwneuthur iddo fwrw ei fantell ar Eliseus ; ac ni ddarfu i'n Har- glwydd bendigedig adael y ddaear cyn iddo ddarparu gweini- dogaeth, a thrwy hynny sicrhau cwWhad t>'i waith. Y mae gofal neillduot Duw hefyd yn ddosparthedig, nid yn unig yn galw offerynau addas allan o drysorau ei ragluniaeth, ond hefyd eu cymjliwyso at ei waith. Moses a» gafodd bob dawn fel Patriarch,Rhoddwr-cyfraith, a Phrophwyd. Dafydd a gafodd dílwy radd odalent—i ddarostwng gelynion ei wlad, ac i ail-setydlu creíydd. St. Paul, yr hwn a alwyd i ddychweîyd y A2