Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, AM IONAWR, 1818. ^ŵstapijíatiau* COFFADWRIAETH AM Y PARCH. SAMUEL BRADBURN. WEDI EI YSGRIFENU GANDDO EI HUN. [Parhad o du dalen 399, Gyfrol ix.] YN y Rhifyn am Ragfyr, 1817, daethom à Mr. Bradburn i'r areithfa, i brcgethu y tro cyntaf, oddi wrth Actau xix. 2,—u A dderbyniasoch chwi yr Y'spryd Glân er pan gredasoch." Ymdrechais (medd efe) i ddangos y'mha ystyr y mae pob Cristion yn derbyn yr Yspryd Glân ; h. y. yn yspryd argy- hoeddiadol, cynorthwyol, diddanoì, a phureiddiol; a gosod allan, gystal ag y gallwn, yr angenrheidrwydd o dderbyn fel hyn Ys* pryd Duw, oddi wrth y cyflwr yr ydym ynddo tra hebddo—yn greaduriaid tywyll, anwybodus, egwan, truenus, ac aflan. Yrna mi a'u cynghorais hwynt i holi eu hunain, a oeddynt hwy wedi derbyn yr Yspryd Glân, &c. Ar y cwbl yroedd y bobl ynym- ddangos wedi effeithio yn fawr arnynt, ac rai deimlais y fath fodd- lonrwydd yn fy meddwí fely rhoddais allan y gwnawn gyfarfod drachefn yn y prydnawn ; ond ni feiddiwn ddywedyd y gwnáwn bregethu, rhag i mi alw fy hun yn bregethwr. Yn y prydnawn gorfu i lawer o'r gynulleidfa fyned ymaith o eisiau lle, ac mi deimlais fy hun yn cael fy ngh'odi uwchlaw pob peth a brofaswn o'r blaen, fel y darfu im' lefaru rhwng dwy a thair awr ar yr adnod felus honno a fu yn fynych yn fendith i'm henaid—Ioan i. 43, a'r adnodau canlynol. Mi bregethais yn Wrexham ddydd Iau a'r Sabboth •anlynol, a dydd Llun dych- welais adref, y'mha le y canfÿddais fy ngyféiîlion a'm cydna- byddion wedi ymranu yn holíol yn fy nghylch. Yr oedd rhai yn foddlon, ac eraill yn rhagfarnltyd, megis y mae hi yn gyftre- din ar y cyfryw achosion. Wedi clywed llawer am Mr. John Fletcher, ac wedidarllen ei holl ysgrifeniadau rhagorol, y rhai oeddynt y pryd hyn mewn bod, mi benderíynais fyned i'w weled, mewn gobaith ygwnae Duw, trwy'r dyn bendithfawr hwn, amlygu ei ewyllys yn ly A2