Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EURGRAWN WE8LEYAÎBÖ; NEU DRYSORFA, <ỳc. fye. RHIF. 11.] TACHWEDD, 1821. [CYF. 13 Ychydig o Hcmes Bywýd a Marwolaeth JOHN JONES, o Ffiint. (Parhad o tu dal. 364.) YR oedd hi yn drai tra isel ar grefydd yn y Fflint ya mysg y Trefnydcfion y pryd hyny, er i bregethu fod gan- ddyntyno am lawer o flynyddoedd; eto nid oedd ond chwech yn y Society. Ond yn fuan ar ol iddo ef ymuno â'r Gym- deitbas fechan hon, fe ddeehreuodd yr Argîwydd ddynoetbi braìch ei sançteiddrwydd, ac fe ddechreuodd pechaduriaid yn y dref galed hon, geisio yr Arglwydd mewn gwirjonedd; ac fe allodd llawer dystiolaetlm fod gan Dduw awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau. Fe barodd hyn i'n brawd chwilio eì hun yn ddyfalach, ac efe a benderfynodd ua roddai na chwsg i'w lygaid, na hun i'w amrantau, nes iddo deimlo cárrad maddeuol Duw yn ei enaid. Ond er iddo geisio yr Arglwydd yn daer, ac yn ddyfal, eto ni wrandawai yr Ar- glwydd; fel ac y byddai ef yn cwyno yn iaiíh Job, " Yn mlaen yr af, ond ni allaf dy gael di; yu ol, ond ni welaf di yno," &c. Ac yn awr, yn barod i anobeithio, a rhoi heibio ofyn am drugaredd mwy, gan feddwl mai gwaith ofer iddo ef ymboeni mwy yn ei chylch,—ac un achos neiliduol o hyny, oedd hyn, ddarfod iddo syrthio i gyfeillach proríeswr crefydd, yr hwn wrth weled blinder ei feddwl, yn Ue ei anog i ymddiried yn nhrugaredd a ffyddlondeb Duw, a aeth i bregethu'r Arfaeth iddo yn y fath fodd ag a barodd i'n brawd feddwl ei fod yu wrthodedig, ac nad oedd iddo y radd leiaf o drugaredd. O! y fath deifysg y bu ei enaid ef ynddo y pryd hyny ; byddai yn gwneyd ei wely yn foddfa o ddagrau yn y nos, ac yn gruddfán fel yr Aran neu'r Wenol; ac yn Tachwedd, 1821.] 3 E