Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

240 AMRYWIAETH. edd er pan yr ymwelais gyntaf â theulu ag oeddent y pryd hwnw yn preswylio yn fy nghylchdaith i. Am beth amsery dyn yn ystyfuig ni wnai na darllen y Traethodau ei hunan. na chauiatau i mi eu gadael i'w deulu. Beth bynag, parheais i alw, ac un diwrnod, gan i mi ei gael mewn gwell tymher nag arferol, dechreuais ymddyddan âg ef, a chefais ei fod wedi cael ei ddwyn i fyny gan dad duwiol, ond ei fod wedi troi yn gyfeillaehydd, h. y., un o'r Owen- iaid, • gan ameu hyd yn nod y bôd o Dduw.' Byddai yn anmhosibl adrodd yr holl ymddyddan ; ond yr wyf yn cofìo yn dda i mi ei gael yn wrthwynebydd cadarn, ac i mi ei adaellawer gwaith â fy meddwl yn bur isel; ond byddwn yn dywedyd yn ffyddlawn wrtho na wnai ei egwyddorion sefyll, a'i gynorthwyo yn awr angeu. Ym ddangosai fy holl ymadroddion iddo ef fel chwedlau gwag; eto ymddygai tuag at- wyf gyda'r parch mwyaf, ac o'r diwedd caniataodd i mi adael y Traethodau i'w wraig a'i blant, ac, oddiwrth sylwadau a wnai yn fynych, yr oeddwn yn sicr ei fod yn eu darllen ei hunan. Fel hyn yr aeth pethau yn mlaen am bum mlynedd, neu chwaneg, nes iddynt o'r diwedd symud o'm cylchdaith i, ac ni welais mo honynt am oddeutu tair blynedd. Cyfarfyddais yn ddamweiniol â'i wraig ef ar yr heol, yr hon a ymddangosai yn llawen i'm gweled, ac a ddywedodd eu bod hwy yn siared yn aml am danaf gartref. Rhoddodd i mi gyfarwyddyd i ddyfod o hyd iddynt, gan fy nghymhell yn daer i dalu ymweliad iddi, a chwanegodd y byddai yn bur dda gan ei gŵr fy ngweled. Cymerais y cyfleusdra cyntaf i ymweled â hwynt, gan obeithio gweled rhyw gyfnewidiad ; ond, och ! efe addaliai byth ei egwyddorion niweidiol ac enaid-ddinystriol. Ymddangosai fel wedi ei foddhau trwy fy ymweliad, ac ar ol ei weled lawer gwaith yr oeddwn yn ei roddi i fyny mewn anobaith; ond nid oedd Duw wedi ei roddi i fyny i galedwch ei galon. Ychydig wythnosau yn ol, an- fonodd i ddywedyd y dymunai i mi fyned i ymweled âg ef, gan ei fod yn glaf iawn. Aethym ar frys i'w anedd, a chefais ef a'i gorff yn cael ei arteithio gan boen, a'i feddwl yn y cyflwr mwyaf dychrynllyd, yn llefain, ' Pa beth a wnaf fel y byddwyf cadwedigî' Mor gynted ag y gwelodd fi, ymollyngodd mewn dagrau, ganddolefain, ' 0! fy hen gyfaill, yr wyf yn awr jn teimlo y gwirionedd o'r hyn a ddywedas- och chwi lawer gwaith, sef na safai fy eg- wyddoríon gyda mi yn awr angeu. 0 gweddiwch droswyf!' Gorchfygwyd fi gyda'r hyn a welais ac a glywais. Dyma enaid yn crynu dan ddigofaint Duw wedi ei ddigio : pa beth a allwn ddywedyd ? Ni fuasai i mi siared wrtho am Sinai ond ei yru i anobaith. Ni allaswn ond dy- wedyd wrtho am garìad y Duw a'r Iach- awdwr hwnw ag yr oedd ef gynifer o weithiau wedi ei wadu; am ei drugaredd yn ei gystuddio, gan roddi iddo amser i edifarhau; a'i gyfarwyddo at ' Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.' Ar ol aros gydag ef am beth amser, yr oeddwn ynrhwym i ymadael,ganei gyf- lwyno i Dduw, ac i air ei ras. Ymwelais âg ef bob dydd am dymor, a chefais fy nghalonogi a'm boddhau. Parhaoddi ddi- hoeni, heb un gobaith am wellâd. Pan yr ymwelais àg ef y tro olaf, yr wyf yn ben- dithio Duw, tröwyd ei djwyllwch yn oleu ddydd ; symudwyd ymaith ei faich o bech- od, ac efe a draethai ei fod yn bur dded- wydd yn Nuw. Cymerais gyda mi lawer o ddynion duwiol i ymweled âg ef, pawb o ba rai ydynt berffdith dawel gyda golwg ar gywirdeb ei ddychweliad. " Onid pen- tewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân 1" I Dduw yr holl drugareddau yr wyf yn rhoddi yr holl fawl.' TAD DIGREFYDD. Moa wahanol yw cymeriad y plant ag a ddygir i fyny gan rieniduwiol, i gymeriad y rhai hyny lle nad yw pen y teulu ond dyn moesol yn unig ! Gall ei gymeriad am onestrwydd a pharch fod yn uchel; gall fod yn foesgar, tirion, a boneddigaidd, yn ei berthynasau teuluaidd ; ond os nid yw ei foesoldeb yn foesoldeb yr efengyl, ni chlywir sŵn gweddi yn ei anedd—ni cheir unrhyw ymddyddan buddiol i gyfeir- io y meddyliau ieuaingc ag sydd dan ei ofal at y Duw hwnw o flaen brawdle yr hwn y rhaid iddynt oll sefyll yn fuan—ni cheir Sabbothaudedwydd ag y bydd eu cofio yn fendith i'w blynyddoedd dyfodol. Galw- wyd tad diweddi fel hwn at wely marw ei