Symud i'r prif gynnwys

AMRYWÍAETH. 243 rhoddi lle iddynt yn yr Eurgrawn mor fuan ag y boyn gyfleus? Ydwyf, eich diffuant gyfaill, &c. Caergybi. ' O, Thomas. ' Sel lidiog tros Babyddiaeth a fu yr achos o'r difrod a'r cigyddio ofnadwy a fu yn mhlith y Gwyddelod yn amser Siarl I. Pendeifynodd y Pabyddion y pryd hwnw dori i'r Ilawr àg un dyrnod yr holl Bro- testaniaid yn yr Iwerddon, heb dosturio wrth nac oed, na rhyw, na chyflwr. Yn y lladdiadau byn nid oedd dim gwahaniaeth yn cael ei wneyd o herwydd rhyw lesâd a wnaethid o'r blaen, na chyughrair, nac awdurdod blaenorol—ni chai fod un math o achos er eu diogelu na'u hamddiffyu. Dirifedi yw y prawfiadau ddarfod i'r Ue- teuwyr ladd y rhai a letyasant yn eu tai. Lladdodd teuluoedd eu perthynasau agos- af, a gweision eu meistriaid. Ni wnai diangc rhag yr ymosodiad cyntaf eu hach- ub—yr oedd dinystr yn eu hela ar bob llaw, ac yn sicr o'u dal ar bob tro. Dyfeisid pob math o ffyrdd i boeni y creaduriaid annedwydd hyn. Nid oedd dim a dorai syched y gwrthryfelwyr ondgwaed ; llosg- ent deuluoedd yn eu tai eu hunain er hel- aethu eu cospedigaethau a'u dyoddefiadau. Llawer o ganoedd a yrwyd ar bontydd gan y barbariaid hyn, a gwnaethant iddynt ym- daflu oddiyno i'r afonydd, a boddodd mil- oedd fel hyn. Mewn rhai lleoedd troisant y Protestaniaid o'u tai, i gyfaifod â chreu- londeb y tywydd, heb luniaeth nadillad, a rhifedi mawr a ddarfu am danynt o herwydd yr oeifel, yr hwn a ddygwyddodd fod yn fwy nag arferol ar y pryd hwnw. Yn ol rhai hanesion yr oedd rhifedi y rhai a fu farw trwy y creulonderau hyn o gylch cant a haner neu ddau gant o filoedd; a dywed ihai nas gall eu rhifedi fod fawr llai, a barnu yn dyner, nag o ddau ugain i haner cant o fiìoedd. O ! creulondeb digofaint grefyddol.' Yn mhellach, fe ymddengys wrth ddern- yn arall o eiddo yr un awdwr mai nid yr eglwys Babaidd yn unig oedd yn euog o bd pleidiol o achos gwahaniaeth barn mewn pethau crefyddol, ond mai felly yr oedd yn yr eglwys sefydledig hefyd, fel yr ym- ddengys oddi wrth yr hyn a ganlyn. Medd efyn mhellach,— 'Nid allaf ymattal, er yn anfoddlon i ymhelaethu ary pen hwn, yr erlidigaeth a ddyoddefodd yr annghydffurfwyr neu y dissenters oddi wrth eglwys sefydledig Lloegr am lawer o fiynyddau, pryd y coll- odd gweinidogion a pheisonau onodwedd- iadau neülduol (neu dda) y cyfan o'u heiddo, trwy ddirwyon trymion, o achos gwahaniaeth barn grefyddol. Rhoddwyd llawer mewn dalfa gaeth iawn, chwiliwyd ac yspeiliw> d eu tai, ac nid ychydig a gafodd losgi eu tai i'r llawr. Coffadwr- iaeth am y dyddiau gorthrymus hyny nid ydyw yn ddymunol ar un cyfrif. Fe dybir fod y rhai a ddyoddefudd fel yna o herwydd cydwybod yn y deyrnas hon, wedi colli ugain miliwn trwy y naill ffordd a'r llall. Carcharwyd deg, neu yn ol y cyfrif lleiaf, wyth mil o bersonau, am na chydymffurf- ientâ threfn yr eglwys sefydledig ; a choll- odd llawer eu bywydau yn y carcharau o dan y gorthrymderau ofnadwy hyny.' ATEBIAD I OFYNIADAU ' CARWR TREF3S.' Y mae cyfiawnder neu onestrwydd yn un o'r elfenau santaidd hyny a gyfansoddant grefydd ymarferol. Am hyny y mae o'r pwys mwyaf i Eglwys Dduw weinyddu dysgyblaeth tuag at bawb o'i haelodau nad ydynt yn rhodio yn ol y rheol hon, fel na chabler enw Cristna'i grefydd. Gof. I. Mewn atebiad i ofyniad cyntaf 'CarwrTrefn,'dywedaf,—y dynfyddo wedi jffaelu yn eifasnach, a'r eglwys y perthyna efe iddimewn amheuaeth am ei gywirdeb a'i onestrwydd yn y fath ymddygiad, ac yntau yn nacau dyfod â'i gyfrifon yn mlaen ger bron swyddogion yr eglwys, fel y gallont weled yn dêg ei amgylchiad a ffurfio barn gywir am ei ffaeledigaeth, dylai ar dir y Beibl a dysgyblaeth Wes- lejaeth* gael ei fwrw allan o ' gymundeb y saint;' oblegid nis gellir llai nag ystyr- ied y cyfryw yn droseddwr o reolau un- iawn crefydd Mab Duw, yr hon sydd yn gofyn am 'ddarparu pethau onest yn * Gof, 16. Pa beth a wnawn er attal gwarad- wydd, pan fyddo i ryw un o'n haelüdau wneyd ei hun yn Fancrupt 1 Ateb. Pan ddygwyddo y fath beth, dewiser dau o brif aelodau yr Eglwys i chwilio i mewn i'w gyfrifon : ac os na bydd'wedi cadw cyfrifon têg, bydded iddo, yn dd'ioed, gael ei ddiarddel o gymdeithas y saiut,—Minaies of the Confer- encc, vol. 1, page 94. (Jwel hefyd ' Grindrod's Compendium;~])r. Warren on t'he Lawsof fies- leyan Methodism,—*'x ' Cofnodau Cymreig.'