Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

246 MARWOLAETHAU. ' Y blodau boreuol a wasgar eu harogl,' &c. Ac wrtb y bedd.yn mhlithdagrauy dyrfa,-- * Fy nghyfaill hoff, ffarwel yn awr, Cwrdd eto nis cawn ni, Nes cael eyfarfod uwch y llawr, Ar dir y Ganaan gu.' Hi a orwedd yn gladdedig yn mynwent Michael stone, Superaravon. Careg d<ii- addurn a noda y fan, gyda'r arysgrifen yma,— SACRED TO THE MEMORY OF MARY ROBERTS, Second daughter of Riehard and Elizabeth Roberts, of the town ot'Cowbridge ; WHO DIED AUGÜST 20TH, 1810 ; AGED 16 YKAKS. ' The Lord gave, the Lord hath taken away; blessed be the name of the Lord.' Colli chwaer aaor gariadus oedd yu brof- edigaeth lem iawn i ni oll. Ychydig a feddyliasom y buasai yn cael ei chanlyn mor fuan gan un arall lawerm%vy llem. Nid oedd ein hanwyl chwaer Elizabeth, yr amser yma, mewn sefyllfa dda iawn o ran ei hiechyd ; ond nid mor ddiwg ag i gynhyrfu unrhyw dybiaeth o berygl. Pan gauodd ein hanwyl chwaer Mary eigolyg- on yn angeu, hi a lefodd gyda theimladau cymysgedig o ofid a diolchgarwch duwiol, •O fy anwyl dad, y mae genych yn awr ddau o'chplant yn y nefoedd, pa un o honom a gyraedda yno yn nesaf V Ychydigyroedd- wn yn ei ddychymygu yr amser hwnw mai mewn adeg tnor fer a phymtheg mis y byddai iddi hithau hefyd diiio yn ddi- ogel ar y traeth gwynfydedig ; ond felly y bu. Ac yr wyf yn dymuno ymostwng gyda theimladau diolchgar i'r Duw hwnw, yr hwn a gymerodd y pedwerydd plentyn yn awr at y fyddin ogoneddusyn y nefoedd. WlLLIAM RoBERTS BYR-GOFIANT AM JANE ROBERTS, 6ED FERCH I RICHARD AC ELIZABETH R0- BERTS. EiN hanwyl Jane fach a anwyd yn Cwm- avon, ar yr eilfed o Gorphenhaf, 1835. Yr oedd yn blentyn meddylgar a phwysfawr i&wn. Yo ystod afiechyd yn agos i ddwy flynedd, hi a ddangosodd amynedd ac hunan-ymtoddiad yn mhell uwch law ei blynyddoedd; yn wir, hi a f\negodd yn aml ddyniuniad i farw yn hytrach na byw, yn enwedig ar ol marwolaeth einhanwjl chwaer. Hi a freuddwydiodd yn nodedig iawn oddeutu tri mis cyn ei marwolaeth, pa un a effeithiodd arni yn fawr iawn ;—medd- yliodd iddi weled drws agored i leardderch- og iawn, lle yr oedd ei chwioiydd Mary ac Elizabeth. Yn uniongyrchiol ar ei myned- iad, ei chwiorydd a ddaethant i'w chy- northwyo i mewn ; a hi a feddyliodd fod Elizabeth yn ei harwain yn mlaen at y Gwaredwr, yr hwn a feddyliai a edrychodd arni gyda gwên, yr hyn a roddodd fwy o ddedwyddwch na dim a deimlodd erioed o'r blaen. Yna hi a ddeffroodd, ond ni ad- roddodd hi yr amgylchiad yma byth wedi hyny heb i'w llygaid ddysgleiiioo hyfn d- wch,a'iholl wynebpryd yn mynegu yn eg- lur y llawenydd a deimlodd. Un diwr- nod, ychydig amser cyn ei marwolaeth, tra yn ymddyddan â'i mam mewn perthynas i'w hafìechydjbod ei pheswch yn dost iawn, hi a ddywedodd, ' Ydyw, mam, ond y raae pob peth yn dda sydd yn dyfud oddî wrth Dduw, canys da yw Dnw.' Yn wir, y mae y fath niferi o'i dywediadau yn baihaus yn argraffedig ar ein meddyliau, ftl i'n hargyhoeddi ni fod ein Tad neful yn ei chy- inhwyso i etifeddiaeth yn mhlith y seintiau yn y goleuni. Iddo ef y byddo yr holl fawl. Hi a hunodd yn dawel yn yr Iesu ar y 12fed o Gorphenhaf, 1842, yn y flwyddyn o'i hoedran saith mlynedd a deg oddyddiau. Hiaorwedd yn gladdedig yn yr un bedd a'n hanwyl Mary, yn nghongl y fynwent. Nid oes un man o'r ddaear mor gysegredig genyf a'r fan hon ar wyneb yi holl belen drigianol. Bydded i minau he ■ fyd, arol y gorphenaf gylch fy nyddiau, fyned i mewn i ogoniaut fel hwythau ; a gorwedd gyda hwy yn yr un congl dawel, nes i'r angel ein galw i ymadael â'n diog- elfa, ac uno â'r ysbrydoedd dedwydd. Bydded i'n cyrff gogoneddus dreulio tra- gwyddoldeb o loynfyd. WlLLIAM ROBERTS.