Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

2.92 NEWYDDION. edd lafur dau ffyddlon iawn; aeth un am dri neu bedwar mis i Le'rpwl, ond y mae yn ol yn awr; ac aeth y llall i'r nefoedd, nid oes amheuaeth, sef Gomer Davies. O ieuengctid, a phawb, byddwch barod, byddwch barod. 2. Ysgol Pen-y-bongc.—Pennodau, 335; adnodau, 5050. Mwy o bennodau eleni o 65, a mwy o adnodau o 240. Ysgol fach dda ragorol yw hon. Y mae yn cael ei chadw mewn tỳ anedd y boreu sul am naw o'r gloch, ac y mae dau o'v dref yn myned yno i'w cynorthwyo bob sul, pob dau yn eu mis, Y maent yn ffyddlon iawn yn myned yn eu cylchdro. Cynelir yno hefyd gyfarfod gweddi misol—dyna y tàl am le i'r ysgol. Yr oedd yr hen ŵr, yr hwn a aeth i'r nefoedd y llynedd, wedi colli ei glyw bron yn llwyr, ond yr oedd yn cael pleser mawr weithiau yn y modd- ion misol yn ei dŷ. Byddai yn myned ar ei liniau yn ymyl y gweddiwr. Byddwn yn pregethu yno weithiau hefyd er mwyn yr hen gyfeillion, a'r ardal, a'r achos. Y mae yr hen wreigen yn fyw eto, ond yn analluog i allu dyfod i'r dref ond yn y drol. Ond rhwng bendith Duw a Uafur y cyfeillion y mae yn cael ambell damaid o fara y bywyd i'w chynal ar ei thaith i Ganaan. Y mae yn bur debyg y bydd drwsy tŷ yn agored i'r ysgol, a'r moddion, a'r pregethu, tra y bydd hi byw, beth bynag, ac ar ol hyny hefyd, y mae yn bur debyg. Felly y bo. 3. Ysgol y Bont.—Pennodau, 224; ad- nodau, 2633. Mwy o bennodau o 138; mwy o adnodau o 1936. Ysgol dda a llafurus ryfeddol yw hon ; ond y drwg ydyw, y mae yn colli ei hysgrifenwyr o dro i dro, yn fynych ar ganol y flwyddyn ; felly ni fydd neb i gadw cyfrif o'u Hafur, a thrwy hyny byddant yn digaloni llafurio yn y gair. Llwydd i'r ysgolion sabbothol trwy y byd oll. Y mae genym drefn new- ydd wedi ei chyfodi yn Nghaergybi y fiwyddyn ddiweddaf, sef cynal Cyfarfod Undeb Ysgolion y dref bob blwyddyn, am ddau o'r gloch, ar ddydd diolchgarwch am y cynauaf—pob enw yn ei gapel ei hun yn y boreu a'r nos, a'r holl ysgolion, gyd a'u hathrawon a'u hathrawesau, i gyfarfod yn eu priodol gapeli am un, a cherdded oll yn rheolaidd i'r capel lle y bydd y cyf- arfod areithio i fod. Bydd genym gadeir- ydd ; rhoddir i bawb eu pyngciau, a'r rhai hyny oll am werth yr ysgolion Sabbothol. Yr oedd y cyntaf yn un da rhagorol, cy- nhes a gwresog rhyfeddol, a lluosog iawn. Yr oedd capel mawr y Methodistiaid yn llawn, a chanmoliaeth rhyfeddol i'r cyfar- fod. Cynaliwydhwn Hydref lOfed, 1845. ADDYSG YN Y DEHEUDIR. Cynaliwyd cynadledd CymdeithasAddysg y Deheudir yn Aberhonddu ar y 9fed a'r lOfed o Fehefin. Dewiswyd y Parch. J. Pratten, Gweinidog y "Wesleyaid Seison. ig, yn Gadeirydd. Yr oedd y lle y cy- nelir y Normal College, mewn angen am gryn adgyweiriad, gan iddo fod yn far- racTcs i'r milwyr. Aeth y draul i'w ad- gyweirio, yn nghyda'i.ddodrefnu yn gyf- addas i Feistr, Penteuluyddes, Gwasan- aethwyr, a 24 o Efrydwyr, yn £300. Y swm a ofynir am addysg, bwrdd, a gwely, yw 5s. yn yr wythnos. Pan agorwyd y sefydliad yn gyhoeddus ar y laf o Ionawr, yr oedd yno 10 o Efrydwyr yn perthyn i wahanol enwadau o Ytnneillduwyr a'r Eg- lwys Sefydledig, y rhai a chwanegwyd wedi hyny i 27. Darfu i Bwyllgorau Dysgeidiaeth y Wesleyaid a'r Cynulleid- faolion roddi £75 bob un tuag at yr ad- gyweiriad, a £50 y fl. yn cael eu rhoddi mewn rhandaliadau chwarterol, tuag at y costau parhaus. Casglodd y Parch. D.Tho- mas o ger Bristol £102, 18s. 6c. Rhodd- odd y Parch. H. Richard (mab y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron), lyfrfa o agos i 100 o gyfrolau ; a'r Parch. D. Blow, o Fynwy, rodd o £20. Rhoddodd plant ys- golion sabbothol y Methodistiaid Calfiii- aidd yn sir Forganwg y swm o £20, 7s. 6c. Y mae tri o'r dynion ieuaingc wedi gadael y Coleg,—George Dawkins i Narberth, Frederick Robert i Drefgarn, sir Benfro, a David Edwards i Ynyscedwyn, ger Aber- tawy. Y mae ysgoldai yn neu ar gael eu sefydlu mewn amrai fanau. Yprif bwngc y siaredid arno oedd—pa un a dderbynid arian gan y lly wodraeth er cynal y Coleg. Cynygiai Dr. Dayies, Ffrwd Fâl, fod idd- ynt gael eu derbyn: ond cynygiwyd gwellâd gan Mr. Evans, o Narberth, a chefnogwyd gan Mr. Hodges, o Aberhon- ddu, fod i'r sefydliad gael ei gynal yn gwbl gan gyfraniadau gwirfoddol. Siar- adwyd o blaid y cynygiad gwreiddiol gan y Parch. Henry Richard, o Lundain ; Mr. Robert Jones, o Ferthyr Tydfil; y Parch. H. Griffiths, Llywydd Coleg yr Anui- bynwyr yn Aberhonddu; y Parch. H. Hughes, Caerfyrddin; y Parch. J. G. Avery, o Lanelli; y Parch. R. Ainslie, o Lundain ; J. Lloyd, Ysw.,Dinas,ger Aber- honddu ; y Parch. J. Scott, o Lundain, a C. Hindley, Ysw., A.S. Tros y gwallâd siaradodd y Parch. J. Thomas, o'r Bwlch- newydd, a'r Parch. J. Lewis, o Hen- îlan. Ẃedi peth dadl led wresog fod i"r ddau gynygiad gael eu galw yn ol, fel y galler cael mwy o amser i'r pleidiau i ystyried y pwngc erbyn y Conference nesaf. Sylwwyd fod tebygoliaeth y bydd y llyw- odraeth yn anfon negeseuwyr i ymofyn i ansawdd dysgeidiaeth a gwybodaeth gref- yddol yn Nghymru, ac awgrymwyd y priodoldeb o fod i C. Hindley, Ysw., A. S., a'r boneddigion ereill presenol o Lundain, gael eu hawdurdodi i alw gyda Syr James