Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AMRV\VIAETH. 265 dolur yn dryllio ei deml brlddlyd— o'ì flaen yr agorai tragwyddoldeb diderfyn ; yr oedd deddfau natur wedi ei argylioeddi na chrëwyd ef i syrthio i ddyfancoll, am hyny yr oedd wedi ei lwyr berswadio fod sefyllfa ddyfodol: tuag at y sefyllfa am- heuol hon yr edrychai yn wyliadwrus, ac i ddwylaw ei Wneuthurwr y cyflwynai ei dynged betrusol. Pwy bynag a gymharo farwolaeth y chwiliedydd naturiol enwog hwn â huniad tawel ac ymfoddlongar y cristion, canfydda ar unwaith ragoriaeth y grefydd ddat- guddiedig ar yr yr un naturiol. Yn yr anghraifft dan sylw, natur a weinai yr oll a fedrai—hi ddysgodd ei gwrthddrych o ddechreu i ddiwedd mai plentyn pechod a galar oedd, a'i fod yn nwylaw Llywydd Hollalluog ; ond yma hi a'i gadawodd. Cludodd ef i eithafoedd o ddirgelwch, ac a'i gadawodd wedi ei orchuddio yn y ty- wyllwch eithaf—hamdôdd ef mewn cy- mylau tewion o ansicrrwydd, heb gymaint a phaladr o oleuni yn llewyrchu drwy ddynt. Ar y llaw arall, pan y gelwir i mewn ddatguddiad—pan y gwneir apeliad o weithredoedd at air y Jehofa, canfydd- wn haul yn cyfodi, Uewychiadau yr hwn a wasgara y cymylau mwyaf cadduglyd, ac yn lle nos barhaus, heb obaith gwawr i dori, gosodir o'n blaen ein Brenin mawr, yn eistedd rhwng y Cerubiaid; ac fel y mae ein galluoedd meddyliol yn cael eu llawenychu wrth yr olwg anogaethol hon, yr ydym yn clywed llais yn llefaru,— ' Cymylau a thy wyllwch sydd o'i amgylch; ond cyfiawnder a barn ywtrigfa ei orsedd- faingc' Ond nid hyn yw y cwbl. Nid ydyw datguddiad yn unig yn dangos i ni fod Duw yn Dduw cariad, ac yn dymuno maddeu eincyfeiliornadau ; ondhefyd ar- weinia y meddwl i fynydd Calfaria, ac J ma dengys anfeidrolrwydd dirgelwch y cariad hwn. Y mae yn ein dwyn at droed y groes, gan orchymyn i ni daflu einbaich i lawr, a rhodio rhagllaw yn rhyddid gogoneddus plant Duw, yr hwn a bwrcas- ^jd i ni drwy waed Crist. I'r gymhariaeth fer hon rhwng natur adatguddiad, ni fydd yn annefnyddiol chwanegu sylw neu ddau ar y cysylltiad sydd rhyngddynt. Nid ydwyf yn bwriadu jn bresenol profi nad ydynt dan unrhyw 2m amgylchiadau yn gwahaniaethu; fy am- can ydyw cyfleu rhyw ddrychfeddwl o'r pwysigrwydd o'u cydgordiad. Y mae y ddau yn ddysgrifiadau o'r un Duw, y mae y ddau yn gynyrchion o'r un meddwl an- feidrol; a'r unig wahaniaeth rhyngddynt ydyw, fod un yn llefaru drwy eiriau, a'r Uall drwy weithredoedd. Y canlyniad naturiol o'r gwahaniaeth hwn yw, fod yr un ag sydd yn llefaru drwy eiriau yn eglur- ach a rhagorach ; y mae casgliadau—unig fynegfys gweithredoedd—yn amheus ar y goreu, pan y mae dysgrifiadau eglur yr Ysgrythyrau heb gynwys dim yn betrusol, gyda golwg ar y rhanau hyny o honynt a ddal berthynas âg iachawdwriaeth dynol- ryw. Y mae llawer o weithredoedd y Duwdod yn hanfodol er dedwyddwch dyn; gwybodaeth am ba rai nis gallasai casgl- iadau byth gyfleu ; am hyny, mewn dat- guddiad geiriol yr ydym yn dysgwyl llawer o hyfforddiadau am ba rai y mae natur yn hollol ddystaw. Gan hyny, nid ydyw yn briodol i ni ddysgwyl i'w cael yr un mewn mesur a meithder; ond, ar y llaw arall, y mae i ni ddysgwyl na fyddant byth i groesi y naill y llall; ac, yn ddiameu, pan y bydd goleuni celfyddyd a lleenyddiaeth, cynorthwyedig gan ddwyfol ddatguddiad, wedi dyfod yn fwy dysglaer a dealladwy, ac felly holl ryfeddodau natur yn cael eu hegluro, a phawb yn gytun yn edrych yn ddiragfarn i'r ddau lyfr, (sef natur a dat- guddiad,) bydd yn orfodawl addef âg un llais, mai yr un yw Awdwr y ddau. Ond ni fyddai yn briodol aros yn y fan hyn, heb chwanegu rhybudd o bwys, gyda golwg ar sefyllfa pethau yn eu hystâd bre- senol. Er ei bod yn anhebgorol angen- rheidiol na ddylai fod y gwrthwynebiad lleiaf rhwng y ddau ddysgrifiad hyn o'r Duwdod, eto y mae yn ddichonadwy, ac, mewn gwirionedd, y mae yn wybodus, fod dealltwriaeth meidrol a chyfyng dyn yn methu canfod yn fynych y cysylltiad sydd rhyngddynt. Am hyny, y rhybudd neu y cynghor ydyw—pan y byddom yn methu esbonio sut y mae hyn yn bod, a phaham y mae pethau ereill yn hanfodi, boed i ni gofio mai creaduriaid dirywiedig a cham- syniadwy ydym ; a chredwn yn ddiysgog y « cawn wybod ar ol hyn,'—gan ddyfal ddysgwyl yr amser prydlawn hwnw, pan Cyf. 38.