Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

200 AMRYWIAETH. na bydd raid with ddrych na dameg weled a deall pethau a rhyfeddodau nef a daear—pryd y cawn weled ardderchog- rwydd diledrith yn tjwjnu ger bron ein llygaid trwy gydol tragwyddoldeb. Yn bresenol yr ydym yn gweled ei ' ffjrddyn y môr, a'i lwybrau yn y dyfroeddcryfion,' a'i farnedigaethau ydynt yn anegluradwy i ni; ond pan y byddo y llen wedi ei sy- raud, cawn weled mai 'Duw cariad yw,' yn ei holl oruchwyliaethau. R.ICHARD LEWIS. Llundain, Mehefin, 184G. ALBERT; 3SEU, YR ANFFYDDIWR DY- CHWELEDIG. ' Dvma. fy anrheg oraf i, Albert/ ebai Mrs. Weston, gan estyn Beibl yn anrheg i'w hunig fab, yr hwn fuasai gartref am betb amser yn ymweled â'i deulu, ac oedd yn awr ar gychwyn ei siwrnau yn ol i Luu- dain. ' Rhaid i chwi addaw wrthyf y dar- llenwch o leiaf ychydig o adnodau bob dydd : y mae gweddiau taerion eich mam yn myned gyda hwn.' Daliodd Albert ei law allan i dderbyn y llyfr. ' Bydd i'r olwg arno ddwyn ar gof i mi olygfeydd cartref: mae yn debyg,' ebai efyn ddifater, 'y gallaf gael rhy w gornel iddo yn rhyw le.' ' Yr wyf yn hyderu y gwna rywbeth mwy na hyny i chwi,' atebai Mrs. Wes- ton, ' onide, byddai yn well i mi ei gadw. O Albert, pa fodd y gallwch fod mor ynfyd wallgofus ag i ddiystyru y llyfr santaidd yna yr hwn yn unig a all weini unrhyw obaith am iachawdwriaeth, unrhy w ddys- gwyliadau am y nefoedd V ' Gobeithion twyllodrus,' ebai yntau, ' dysgwyliadau ofer'. Pwy allai gredu y fath gymysgedd o wrthun-bethau; mor groes i reswm, i synwyr cjffiedin, i—' ' Aroswch, Albert.'sylwai Mrs. Weston: ' ni fynaf fi glywed dim chwaneg o hyna. Fe bnaswn i yn gallu rhagweled y buasai arosiad yn y brif-ddinas yn foddion i'ch llithio chwi i wadu yr egwyddorion ag y'ch addysgwyd ynddynt, ac i symudo'ch meddwl bob argraffsantaidd, er eubod yn daly cysylltiad agosaf â'ch coffadwriaethau boreaf, ni fuasaibydoedd yn fynhemtio i gydsynio ;\ hyny. Chwi a ymwrthodasoch â Duw eichtadau; ond pabeth a enillas- och 1 A ydych chwi yn fwy dedwydd 1 Y mae yn anmhosibl. Pa ddifatcrwch bynag a ddichon i chwi gymeryd arnoch, nid yw Uais cydwybod wedi ei ddystewi; ac yn eich munudau mwyaf difrifol, yr ydych yn druenus. Na thwyllwch eich hunan, Albert. Ni allwch gredu bob amser mai cyfeiliornus yw y Beibl : credwchfi, chwi a brofwch ei wirionedd ryw ddiwrnod ; ac, O, os bydd hyny am y waith gyntaf ar aswy-law Chwiliwrmawr y calonau, mor chwerw y gwaradwyddwch eich hunanl' Yr oedd Albcrt jn ddystaw. Yr oedd rhywbeth yn anorchfygol bob amser yn llais mwynaidd a meddal ei fam. Gall- asai wawdio pob peth cysegredig heb wrido yn mysg ei gwmni coegaidd, ac ym- drechu annghredu gwirioneddau yr Efeng- yl; ond yn awyrgylch ei gartref ni allasai ond teinilo fod sylweddolrwydd mewn crefydd. Yr oedd presenoldeb ei fam yn gosod ei arswyd ar ei ysbrjd dibris ; a'r deigryn a grynai yn ei lygad wrth gofio dyddiau dedwyddach, a ddangosni nad oedd mor galed ac anystyriol ag yr ym- drechai yn ofer ddangos ei fod. ' Yr ydych ar ein gadael, Albert,' par- haai Mrs. Weston, ar ol bod yn ddystaw am beth amser: ' fe ddichon na chyfar- fyddwn eto am dymor. Gadewwch i mi eich tyngedu ac erfyn arnoch i gilio oddi wrth y cymdeithion hyny ag ydynt wedi eich Uithio oddi wrth ffynonell dedwydd- wch. Os ydych yn dymunobod yn dded- wydd mewn bywyd; os oes ynoch unrhyw awydd am gyfarfod â'ch ymadawedig dad yn y nefoedd ; os ydych yn dymuno cael eistedd ar ddeheulaw y Barnydd yn y dydd mawr diweddaf, rhoddwch eich calon i Dduw; darllenwch eich Beibl mewn js- bryd gweddi, a phenderfynwch na chymer- wch eich twyllo yn hwy â rhesymau gau. O fy Albert anwyl, pe baech ond teimlo y gwynfyd ag y mae crefydd yn ei wein- yddu ; pe gallwn ond eich perswadio i roddi eich calon i Dduw; fel y lleddfai hyny fy loes wrth ymadael â chwi! Ond y mae genyf bob peth i'w ofni am danoch ; ac mor dywyll yw eich gobeithion !' Buasai Albert yn ateb, ond yr oedd ei galon yn llawn, ac wedi ei meddalhau yn barod yn yr olwg ar ymadael â'ifam a'i unig chwaer;] a chan fod arno gy wilydd o'r