Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AMRYWIAETH. 207 teimlad yr hwn ni allai ei guddio, efe a j adawodd yr ystafell yn ddisymwth. ' Yr oedd ar ei ffordd i'r brif-ddinas pan y codai yr haul. Yr oedd yn foreu clir yn yr Hydref; ond yr oedd ei ysbryd ef yn fwy tebyg i ddadfeilion natur o'i amgylch nag i ddim arall o natur fwy dymunol. Er pob ymdrech o'i eiddo, yr oedd yn an- nedwydd ; ac ni allai na'r golygfeydd am- rywiol trwy ba rai yr elai, na hyfrydwch pleser dysgwyliedig, symud ymaith y trymder nieddwl dan ba un y llafuriai. ' Dichon mai fy mam sydd yn iawn,' meddyliai; ond alltudid y meddwl raewn eiliad, gan ei fod yn chwanegu at ei anes- mwytlider, ac ymdrechai drachefn an- nghofio ei rhyhuddion duwiol, a cheisio dedwyddwch yn ei ddigrifwch blaenorol. Fel hyn aeth mis ar ol mis beibio. Llawer llythyr o gynghorion a chwjnfan- au serchog a dderbyniodd oddi wrth ei fam dduwiol; ond ei egwyddorion anffyddiog, er eu bod wedi cael eu siglo, oeddent heb gael eu gorchfygu, ac yr oedd yn y sefyllfa yma o ran ei feddwl pan y derbyniodd hysbysiad fod ei fam anwyl wedi cael ei dal gan gystudd disymwth ac arswydus. Nid oedd dim amser i'w golli, ac yn mhen dau ddiwrnod cafodd ei hunan unwaith eto yn ei bentref genadigol. Yr oedd wedi bod yn ceryddu ei hunan yn chwerw am iddo erioed archolliteimladau calon y fam anwyl hòno ; ac er ei fod yn hiraethu am gyfleusdra i ofyn ei maddeuant, yr oedd yn arswydo bron wrth feddwl am gyfarfod â'ihedrychiad treiddgar. Tan ddylanwad y teimladau hyn daeth i'w gartref hyfryd unwaith. Ymddangosai pob peth iddo ef yn annghyfanedd, a chadarnhaodd dagr- Qu y tylwyth ei ofnau gwaethaf. Aeth i fyny y grisiau. Safai ei chwaer wrth ddrws ystafell ei fam. « Cecile, anwylaf Cecile!' meddai. «Yn ddystaw, Albert anwyl,' meddai ei chwaer, gan ei gyfeirio i ystafell arall: ' y mae fy mam yn cysgu : a rhaid i ni beidio â'i haflonyddu,' ' A yw y perygl drosodd V gofynai Al- beit yu ddifrifol: 'dywedwch y gwaethaf i mi, Cecile anwyl.* Ymollyngodd Cecile mewn dagrau. ' Felly nid oes un gobaith, Cecile,' meddai yntau, gan wylo. ' Y mae fy mam yn y nefoedd, Albert anwylaf,' meddai Cecile, ar ol bod yn ddystaw am ychydig, ac yn wylb fyth yn fwy chwerw : « yr ydym yn blant amddi- faid.' Ymollyngodd Albert ar yr eisteddle agosaf, a chan orchuddio ei wyneb â'i ddwylaw efe a roddes ffordd i'w deimlad- au. Gwnaeth yr ergyd disymwth ac an- nysgwyliadwy ef yn hollol druenus ; ni allai droi i un man am ymwared, a bu yn hir cyn i'w feddwl fod yn ddigon tawel i ofyn un cwestiwn o berthynas iddi. « O, pe gallaswn ond gwybod fod fy mam an- wyl wedi maddeu i mi,' gwaeddai allan yn uchel heb feddwl, ' pe gallwn ond dywed- yd wrtbi na flinwn mo honi mwy, mi fyddwn yn foddlon.' ' Yr oeddhi wedimaddeu i chwi, Albert anwyl,' meddai Cecile. ' Gweddi olaf fy mam oedd dros ei "hanwyl, anwylfab." Ai ni ymdrechwch ei chyfarfod yn y nefoedd1?' * Myfi a ymdrechaf wneyd hyny,' atebai Albert, yr hwn yn awr oedd wedi ei Iwyr orchfygu: 'mjfi a jmdrechaf gyflawni ei dymuniadau olaf.' Nidunofer oedd penderfyniad Alìiert. Wedi ei argyhoeddi yn ddwys o'r cyfeil- iornadau ag oeddent wedi hynodi ei fyw- yd mynedol, ac o'r angenrheidrwydd am gyfnewidiad calon, efe a geisiodd mewn diwydrwydd a thaerineb adnewyddiad hollol ei natur, a thrwy jr arferiad o ffydd yn haeddianau y Gwaredwr, dygwyd ef i deimlo yr heddwch hwnw ag sydd yn deilliaw trwy brofiad o gymeradwyaeth gyda Duw, a'r gorfoledd hwnw ag sydd yn anuhraethadwy a gogoneddus. Yr oedd yn awr yn ddedwydd. Symudwyd ofn ac euogrwydd ymaith, ac edrychai yn mlaen mewn gobaith dysglaer a gwresog i'r awr hòno pryd y caglywed y gwabodd- iad croesawus, ' Tyred i mewn i lawen- ydd dy Arglwydd.' PRYDLÜNDEn. Yr ydym yn rhoddi y dernyn difyrus canlynol ar ' Brydlondeb,' o'r rhifyn am Ôrphenhaf, o'r cyhoeddiad rhagorol hwnw ' y Traethodydd.' Trwy gamg-ymeriad rhyn^om ni a'r argrarfydd, cymerasom'erthygl yn ddiweddar o'r Traethod- ycld, heb gydnabod ein hawdwr, yr hyn, pan y gwelsom ein hamryfusedd, a barodd i ui ofid.— Gol. Dywediu am y sant y bydd ' fel pren Avedi ei blanu ar làn afonydd dyfrocdd, yr hwn a