Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

268 AMRYWIAETH. rydd ei ffrwy th yn ei bì'yd ;' ac ebai So- lomon, ' O morjdda yw gair yn ei amser.' Ac yn siampl i'w holl greaduriaid rhesym- ol, gwnaeth y Duw mawr ' bob peth yn deg yn ei amser.' Drachefn, dywedir fod ' amser i bob peth, ac i bob amcan.' Yn gyffredinol, y mae rhyw adeg i wneuthur pob peth, yr hon os esgeulusir hi na ddychwel eilwaith. Ymddengys fod mwy na haner plant Adda yn ddifedd- wl am yr adeg hon ; tybiant os gwnant eu dyledswydd rywbryd fod pob peth yn dda, heb ymsynied fod peidio ei gwneyd yn ei phryd mewn rhai amgylchiadau cynddrwg a pheidio ei gwneyd oll. Efallai fod y diffyg hwn yn gymaint ag un arall yn mhlith y Cymry, ac ysgatfydd yn fwy nag ydyw yn mysg y cenedloedd ereill a bres- wyliant yr ynysoedd Prydeinaidd. Y mae gan y Seison a'r Ysgotiaid yn gyffredin 'le ibob peth, a phob peth yn ei le.' Y mae cadwpob peth yn eu lleoedd euhun- ain ar ol bod yn eu defnyddio yn llawer llai o drafferth na chwilio pob man am danynt pan y byddo eu heisieu, ac wedi yr holl chwilio a'r chwalu, methu eu cael yn y diwedd; pan y gallai manylrwydd [pryd- lawn alluogi y dyn i roddi ei law arnynt ar y cynyg cyntaf. Y mae bod yn anmhrydlawn yn cyflawni ein hamodau am unrhyw beth yn fai. Pan yr addawom fod mewn rhyw fan ar ryw bryd, dylem fod yn brydlawn yno yn ol ein haddewid. Dywedir fod Arglwydd Nelson yn cael dodrefn newyddion i'w gabin un tro, a dywedai wrth y gŵr oedd yn eu gwerthu y byddai yn rhaid eu bod yn y fan a'r fan o'r hyn bellaf erbyn chwech o'r gloch y boreu; ac atebodd hwnw yr anfonai y cwbl erbyn chwech yn ddiffael. ' Nage,' ebai Nelson, 'bydded eu bod yno chwarter awr cyn chwech, oblegid i'r chwarter awr yn mlaen yr wyf fi yn ddyledwr am bob buddugoliaeth a enillais erioed.' Marsiandwr yn America unwaiih a gytunai â phen-saer am wneyd rhyw gyfnewidiad yn ei swyddfa, a gofyn- ai iddo pa bryd y gallai ddechreu ar y gwaith. Atebai y saer, y gallai ddyfod y pryd a'r pryd. ' Nid oes dim brys,' ebai y y llall, • ond byddwch chwi yn sicr o ddy. fod y pryd yr addawoch.' Ar hyn, ystyr- iai y saer ei amgylchiad, a gosodai yr am- eer iddechreu dipynpellach. •'Wel,' medd- ai y marchnatawr, 'afyddwch chwi yn sicr o ddyfod y pryd yr enwasochT • Os byddaf byw/ atebai y saer, 'byddaf yma y pryd hwnw.' Y marsiandwr a ddododd y dydd a'r mis penodedig ar lawr yn ei lyfr, ac aeth pob un i'w fan. Y diwrnod i ddechreu yjob a ddaeth, ond nid oedd dim o'r saer i'w gael. Ar hyn, aeth y marsiandwr at gy- hoeddwr y papyr newydd oedd yn y dref, i ddymuno arno wneyd ynhysbys fod hwn a hwn o'r fan a'r fan wedi marw, ac felly y gwnaed. Tranoeth, fel yr oedd y saer an- wadal yn edrych i'r papyr, yr hwn oedd ar y bwrdd yn y tŷ tafarn, gwelai hanes ei farwolaeth ef ei hun. Cyffroes hyn ef yn fawr, er iddo ddeall yn ebrwydd mai celwydd ydoedd. Aeth at gyhoeddwr y newyddiadur, a gofynai pa ham y dodai yn ei bapyr ei fod efwedimarw, 'aminau fel ym gwelwch,' meddai, ' yn fy w V ' Mr. hwn a hwn, y merchcmt, yw fy ngharn i,' ebai hwnw. Ymaith â'r saer, mor hyllig a phe buasai wedi gweled bwgan, at y marsiandwr, yr hwn pan y daeth ato a lygad-rythai arno fel pe buasai wedi dyfod o blith y meirw. 'Paham,' ebai y saer, ' y rhoddech yn y papyr fy mod i wedi marw, a minau yn fyw lysti.' ' Yr wyf yn synu yn fawr eich gweled,' meddai yn- tau, • canys dywedasoch, os byddech byiv, y buasech yma er echdoe yn dechreu y gwaith y cytunasom am dano, a thybiais i eich bod yn ddyn o'ch gair; a chan na ddaethoch, cymerais nad oeddech yn fyw, ac felly bernais yn well hysbysu eich marw- olaeth, rhag i neb arall gael eu siomi gen- ych fel y cefais i.' Erbyn hyn, nid oedd g&n y saer ddim i ateb, ond aeth ymaith g*n benderfynu bod yn fwy prydlawn o hyny allan. Y wers yn yr hanesyn hwn ydyw, fod gan y rhai sydd yn derbyn add- ewidion well côf na'r rhai sydd yn eu gwneuthur. Cynyrch naturiol anmhryd- lonrwydd felhyn ydyw anymddiried yn y rhai a wnant y cyfryw addewddion. Y mae dyn o'i air yn sicr o fod yn ddyn parchus, boed ei sefyllfa y peth y byddo. Clybuwyd crydd yn dywedyd unwaith, ' Pe byddai pawb fel Charles, ni byddai cadw llyfr o un defnydd i mi; gaìlwn ei roddi i'r siopwr yn bapyr lapio tobacco y pryd y mynwn.' Byddai Charles yn sicr