Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AMRYWIAETII. 209 o dalu pryd yr addawai. Nid oedd y gŵr gonest hwn yn enill ond swllt y dydd ar ei draul ei hun ; ac nid ocdd ei holi ddodrefn ond gwerth ychydig bunoedd; eto, nid oedd dira yn eisieu arno ef a'i hen wraig, i'w gwneyd nid yn unig yn ddi- wall, ond hefyd yn gysurus. Yr oedd mor brydlawn yn ei daliadau ag ydyw trai a llanw y môr ; oblegid hyn, cawsai ei goel- io am ddigon i'w gynal, yn fwyd a dillad, am ddeng mlynedd pe mynasai. Nid oedd yn nyled neb o ddim pan y bu farw, ond gadawai ryw gymaint arei ol i'w wraig ; a chafodd hithau ddigon, a pheth yn ngwedd- ill. Yr oeddent ill dau yn proffesu crefydd am amryw flynyddoedd cyn eu marw, ac ni welwyd casgl yn yr holl yspaid hwnw na byddai arnynt hwy ffrwyth yn ei bryd. Byddai chwe cheiniog C'harles mor sicr â machludiad haul yn yr hwyr, os byddai ef neu ei gymhares yn gallu codi a cherdded. Y mae y ddau wedi marw er ys tro mewn tangnefedd, ac mewn henaint teg. Cawsant eu bendithio gan ragluniaeth â'r fendith hòno a ddymunai y duwiol Philip Henry i'w blant—y fendith sydd yn peri i ychydig bach fyned yn mhell. Yr hanesyn uchod sydd wir hanes ; a pho byddai y siamplyn cael ei dylyn, bydd- ai gan agos bawb ddigon, a cban y rhan fwyaf beth i'w gyfranu i'r hwn y mae angen arno, a phob peth yn ei amser. Ond yn lle bod felly, mae, ysgatfydd, y rhan fwyaf yn talu eleni am yr hyn a fwyt- asant ac a yfasant y llynedd ; a'r crydd, y saer, a'r gôf, a'r siopwr yn cwyno, y naill am yruchaf â'r llall, eu bod yn methu caei eu harian er eu gofyn rifedi eu danedd o weithiau; a chyn y bydd yr ystori dros- odd, odid na chaiff crefydd ergyd, trwy ddywedyd fod proffeswyr crefydd can waethed a'r gwaethaf, ac na thalllawer o honynt dros eu blingo. Fel hyn y mae teimladau drwg, beth afrifed, yn cael eu cynyrchu. Ystyrier fod arian yn rhy ddrud os rhaid rhoddi eu gwerth am dan- J'tit, ac wedi hyny cerdded a chrefu am dauynteu gwcrth eilwaith, heb law yr es- gusodion celwyddog a wneir ar yr achlys- uron hyn. Nid talu ryw bryd cyn dydd y farn olaf sydd eUieu, ond talu yn yr amser a addawom. Gall y talwr prydlawn gael Uwyth Uong ar goel os myn, a chael bcn- thyg holl arian ei holl gydnabyddiaeth. Pa fodd y mae hyny yn bod 1 Gwobr ei brydlondeb ydyw, yr hyn na chaiff yr an- wadal mwy na thamaid o'r lleuad. Prynu ac addaw tâl heb feddwl am gyflawni sydd cynddrwg mewn egwyddor â lladrata; ac y mae peidio talu yn yr amsera addewir, er bwriadu, weithiau bron cynddrwg a pheidio talu byth. Yr oedd pedwar cymydog yn byw yn yr un ardal, ac mor agos at eu gilydd fel y gallai y naill weled mŵg y boreu o simdde pob un o'r tri ereill. Enwau y rhai hyn oeddent, Elis Esgeulus, Dafydd Siôn Ddi- ofal,IfanTranoeth-y dy'gwyl,a HuwRhag- ll'w'gu. Tyddynwyrbychain oedd pob un o'r pedwar, ond bod Huw yn arfer prynu a gwerthu amryw nwyddau, ac nid anfyn- ych yr âi y tri hen frawd arall at Huw mewn angen, o herwydd nid oedd neb ar- all yn y gymydogaeth a werthai ddim idd • ynt ar goel, ac oblegid hyn yr oedd yn rhaid myned at Huw rhag ll'w'gu. Add- efir mai nid yr enwau yna oedd eu henw- au bedydd, fel y dywedir. Cawsant eu bedyddio a'u galw wrth eu henwau pri- odol fel plant a dynion ieuaiugc ereill am flynyddoedd lawer ; eto, am na wnaeth- pwyd hwynt yn blant i Dduw, ac yn ael- odau o Grist, ac nad oedd arwydd arnjnt eu bod yn debyg o fod yn etifeddion teyrnas nefoedd, a chyda hyny, am eu bod yn isel eu cymeriad yn eu hyradriniaethau â phethau y fuchedd hon, yr enwau a nod- wyd a roddes y werin yn gyffredin arnynt yn mhen enyd wedi iddynt briodi, a dech- reu trin y byd. le, mor gymhwys y ftìtiai yr enwau hyn hwynt â'r cadnaw i Herod, ac nid oedd modd iddynt jmysgwyd oddi wrthynt trwy deg na hagr. Teimlai Elis, Ifan, a Huw, yn anesmwyth ddigon obleg- id y llysenwau hyn ; ond am Dafydd Siôn üdiofal, yr oedd ef mor ddiofal am hyn ag yr oedd am bob peth arall. Yr oedd tyddyn Elis Esgeulus yn dra annedwydd yr olwg arno, a'i dý heb fifen- estr gyfan, na drws nad allai y cathod a'r perchyll fyned trwy ei ben isaf yn groen- iach yn ol ac yn mlaen, a'r ieir yr un modd. Yr oedd gwraig Elis, megys y dywed yr hen-air, yn drimings at y lliw i'r dim ; cadachau na wyddid pa nifer a amgylchai ei phen, heb un cewyn glân o'i choryu i'w