Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

270 AMRYWlAETH. sawdl, a phâr o glocsiau am ei thraed, a'r rhai hyny â'u pen 61 yn agored. Ar y íFerm, uid oedd na chlawdd ua ehamfa âg ôl ymgeledd arnynt; ac ni welid na drws ar feudỳ, na llidiart ar adwy, ond pob peth draws eu giljdd. Ni welid bjth gan Elis fies o lafur glàn, oud byddai ei haner yn chwỳn. Mewn gair, ymddacgosai y gwartheg, y ceffylau, a'r moch hefyd, fel pe buasent tan felldith. Er hyn oll, yr oedd Elis yn rhyw lun o fyw er ys blynyddau felhyn, gan nofio rhwng deu-ddŵr i'r làa y naill flwyddyn ar ol y lla.ll; yr oedd ang- çn yn ei orfodogi i fyw yn gynil, os uad yn galed weithiau. Yr oedd ei dyddyn hefyd am a dalai yn dda, a gwyddai Elis hyny ; o ba herwydd, glynai wrtho fel y crangc wrth y gareg. Ond am Dafydd, yr oedd ei fferm cf yn well ei threfn o gryn lawer; gwelid ambell glwtyn o honi yu dda yr olwg arno. Yr oedd gandilo ef well gwraig ; a byddai gan Dafydd gystled ped- war mochyn â dim oedd yn y gymydog- aeth ; ac yr oedd yn feurion llaw at bob gorchwyl. Er hyn oll, a llaw7er o bethau da ereill, yr oedd diofalwch yn codi toll drom ar gymaint ag a feddai; byddai chwaneg na degwm ei holl gynyrch yn myned jn ddiwerth bob b'.wyddyn. Byddai y troliau, yr erydr, a'r ogau, allan yn y gwlaw a'r gwreso fis bwy-gilydd. Gwelid weithiau y mocb a'r gwyddau yn yr ŷ-d, a llawer gwaith y ceid y ceffylau a'rgwar theg yn y cae gwair am haner diwrnod ; ac os byddai y gwyntmawr wedi tori tô y tỳ neu y beudŷ, ueu dô y gwair neu yrŷd, felly y caent fod am fisoedd, er na chywil- ydd na cholled. Ac eto er hyn i gyd, a llawer o'r cyffelyb, am fod gan Dafjdd wraig dda, yr oedd yn gwneyd bywioliaeth yn lled ryfedd. Eithr am Ifan, yr oedd ef fel pe buasai wedi tjngu na wnai ef ddim yr un amser a phobl ereill. Gwcl- id ef yn fynych yn hau haidd, ac yn planu pytatws, ambythefnos neu dair wytluios o hàf; a phan y byddai ei gymydogion wedi darfod â'u cynauaf, dyna y prjd yr oedd Ifan brysuraf. Byddai ei wair a'i ýd heb eu toi hyd galan-gauaf, pan y byddai llawer o'r naill a'r llall wedi pydru ; ac os dyg- wyddai iddi rewi yn gynar, rhewai llawer o'i bytatws cyn cu codi o'r ddaear. Dyna i ti d larllenydd, gipolwg ar y tri wŷr hyn, ac y mae tro Huw i ddyfod gei bronbellach. YroeddHuw yn nodweddiad tra gwahanol i'r tri. Credai ef mai « goreu «yfaill ceiniog ;' a mj nai fwy na'i gwerth am dani os byddai modd, a rhoddai lai na'i gwerth yn ei lle ; ac am hyny nid âi neb ato ond rhag llewygu, ac felly y cafodd ei gyfenw. Gwerthai Huw i rai drwg am dalu, ond iddo ef gael uchel bris ; a mynai yr arian os byddai dim y tu allan i groen y dyn ; ac nid oedd wiw i neb feddwl byw yn hir a bod yn nyledHuw yn hir. Gwerth- ai bob peth braidd yn uwch na'r farch- nad, ond ei gydwybod ; cai hòno weithiau fyned am ychydig, meddynt. Am grefydd y pedwar, ni byddai yr un o honynt yn myned i lan nac i gap- el yn gjson. Elis a'i gymhares a deiml- ent eu hunain islaw eu cymydogion pan mewn cynulldeidfa, am eu bod yn af- lêr eu gwisgoedd. Byddai Dafydd yn myned i bob tŷ addoliad yn y plwyf ar dro, ac nid oedd waeth ganddo pa le; er hyny byddai gartref lawer Sabboth. Pan y byddai y wraig yn pregethu iddo eiddyled- swydd o fynedi wrando, cychwynai i gael llonydd ganddi; ond nid oedd dim yra- ddiried na throai ef i ryw le neu gilydd, ac nawelai y wraig mo hono yn yr addoliad. Ond am Ifan, yr oedd ef yn rhy hunan- dybus i fyned,oddieithr yn anfynych, i le yn y byd. Nid oedd neb yn iawn yn ei olwg ef ond efe ei hunan, megys nad oedd ef ei hunan yn iawn yn ngolwg neb arall. Ni welwyd mo hono erioed yn nechreu un addoliad; os deuai ryw dro, byddai haner yraddoliad wedi pasio. Gwelwjd Iluw, pan yn ieuangc,yn myned weithiau i'r cap- el newydd ; ond wedi dechreu trin y byd, a chasglu tipyn o arian, a deall fod pawb yn ei gyfrif yn gybydd, aeth y capel yn an- nyoddefol iddo. Byd ac arian oedd ei holl feddylfryd. Ond i ddjbenu hyn o hanes can fyred ag y gallom—])ryuodd Elis Esgeulus fuwch gan Ifan Tranoethy dy'gwyl ara ddeg punt, ac addawodd dalu am dani galanmai, yn y ífairoedd yn y pentref cyf- agos. Tua gwylfair, prynodd Dafydd Siôn Ddiofal geffyl gan Elis am ddeudticg punt, ac addawodd yntau dalu ' can saffed a Bank," yn ífair galanmai. Calanmai a ddaeth, ac aeth Ifan at Elia, ac Elis at