Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AMRYWJAETH. 271 Dafydd, ond dim arian nid oedd i'w cael. Y mae yn rhaid cyfaddef fod yn ddrwg dros ben gan Dafydd hyn, er hyny gan ci foil yn un mor ddiofal am dalu, nid oedd neb yn y ffair a roddai fenthyg deg punt iddo; ae nid oedd neb yn wir arodd- ai fentbyg i un o'r ddau ereill, oblegid Dafydd oedd y goreu o'r tri, ond ei fod yn ddiofal. Pa fodd bynag, gorfu ar Ifan fod hebddynt. Erbyn hyn yr oedd hi yn dranoeth y difgwyl ar Ifan. Yr oedd ei feistr tir wedi myned yn mron ar ei lŵ, os na thalai ryw gymaint galanmai, y gyrai feü'iaid i'w dỳ, ac y gwerthid y cwbl yn y îỳ ac allan, am yr uchaf geiniog. Ac felly y bu ; a phrynodd Huw Rhag-11'w'gu y rhan fwyaf o'r eiddo am lai na hanera dal- ent. Erbyn i'r meistr tir gael ei ofyn, nid oedd gan Ifan ddim ei hunan, na dim i nebarall ; ac y mae yn debyg y gorpliena efea'i wraig eu hoes yn nhŷ y tlodion. Ni a welwn mai diofalwch Dafydd oedd yr achos o hyn oll; oblegid gwellaodd y byd yn fuan wedi hyny ; ac y mae llei feddwl, cr diweddared oedd Ifan, y gallasai ddyfod i fyny, ac y buasai y boneddwr yn aros wrtho oni buasai iddo gael ei siomi. Pa sawl amgylchiad tehyg i hyn a all fod! Dichon i un siomedigaeth gynyrchu llaw- er; ac nid oes na phen na phcrchen a all ddywedyd pa fainto deimladau pechadur- us y mae y pechodau o anwadalwch yn eu hachosi. Llawer y sydd a addawant yn ddigon rhwydd, os byddantheb wybod nad allant gyflawni, er na wyddant y gall- ant. Esgor yr egwyddor hon ar luaws o siomedigaethau. Y mae anmhrydlondeb hefyd yn dra niweidiol mewn yinarferiadau crefyddol. Dylai pob casgliad at achos parhaus gael ei wneyd yn flynyddol neu yn fisol, ar yr un pryd, gan jr un gynulleidfa yn enwedig. Gellirdadlu, y mae yn wir, ei bod weith- iau yn annghyfleus, ond y mae felly o eis- ieu gofal prydlawn ; a'rprawf ohyn ni a'i Swyddom—bod rhai o'r rhai isaf eu ham- gylchiadau yn eithaf prydlawn,pan y mae Huaws o rai â moddion ganddynt, ac nid hwyrach calon hefyd, oblegid dull diofal.yn anmharod ar y pryd, ac felly y mae y peth yn myned yn ddiflas. Dechreu yr addoliad cjhoeddus yn brydlawn sydd hefyd o bwys. DJ'lai y pregethwr fod yn y fan erbyn yr amser, neu chwarter awr yn gynt, fel y dy- wedai Nelson ; a dylai y gwrandawwyr yr un modd fod yn brydlawn. Y mae dyfod i mewn yn drystfawr ar ol i'r addoliad ddechreuynanmharch i'rDuw a addolir,yn gystal ag aflonyddwch i'r dynion afyddoyn addoli. Llawer o eglwysydd a chapelydd yn Lloegr a lenwir bron mewn can lleied o amseragyrâ y dyrfa allan. Angenrheidiol hefydywbodcloc y capel ynei le,mor agos ag y byddo modd, yn l!e hod taeru rhwng y gweinidog a'r bobl. Dywedid gynt wrth Robert Jones, Rhos-lan, sir Gaernarfon, fod yr oedfa wedi ei chyhoeddi am ddeg o'r glocb. Gofynai yntau, ' Deg o'r gloch pwy î Y mae gan bawb bron eu deg o'r gloch.' Nid oes dim eisicu rhoddi at na thynu oddi wrth ddeddfau natur mewn dim. Y goleuad mawr a roes Duw i lyw- odraethu y dydd—y mae hwnw yn y dê am haner dydd yn mhob man ; a dwy awr cyn hyny yw deg o'r gloch ; a dwy awr wedi y w dau o'r gloch ; chwanegwch hed- air dracliefn, a dyna chwech o'r gloch brydnawn. Amser addoliad teuluaidd hef- yd sydd deilwng o sylw. Y mae ei fod yn rhy hwyr yn y prydnawn yn ei anfuddioli. Bod i ddynion fyned i addoli pan na fydd- ont gymhwysi ddim ond i gysgu, sydd yn gwbl annheilwng. Y mae naw o'r gloch yn ddigon hwyr, agwell dechreu yn gynt, fel y galler diweddu erbyn naw. Rhywun, hwyrach, a ddywed, Pwy sydd ddigonol i'r pethau hynl Atebwn eu bod yn bwysig ; a chan hyny cymerer pob mantais. Gwneler y cyfan yn bryd- lawn, oblegid dyna yr amser hawsaf i gyf- lawni pob dyledswydd, a dyna y pryd mwyaf rhesymol acysgrythyrol i ni ddys- gwyl cymhorth gan Dduw i gyflawni ein dyledswyddau pwysig. Wel, jnte, pob peth yn ei le; hyd yn nod pob gair. bydd- ed yn ei le; a phob dyledswydd yn ei hamser. Bydded ein 'ie yn ie, a'n nagê yn nagê. Rhodder yr eiddo Crcsar i Casar, a'r eiddo Duw i Dduw—a bydded y cj fan yn ffrwyth yn ei bryd. ------+------ ÜOFAL RHAüLUNIAETH AM EI PIILANT. ' Ac efe a ddywedodd wrthynt, pan y'oh anfon- ais heb na phwrs, na chod,' nac esgidiau, a fu arnoch eisieu dim 1 A hwy a ddywedasant, Naddo ddim.' Yr oedd ysbryd crlidigaeth yn ymder-.