Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

272 AMBYWIAETH. fysgu mor boethlyd yn erbyn y Parch. Oliyer Heywood, fel y gorfu i'r dyn tei- lwng hwn ymadael â'i deulu anwyl, a myned heb wybod i ba le. Ond y cwest- iwn oedd, sut y parotoid ef i'w daithl Yr oedd ganddo geffyl, ond rhaid oedd gadael yr ychydig arian ag oedd yn ngweddill er cynaliaeth y teulu, am y rhai yr oedd Mr. Heywood yn llawer mwy gofalus nag am dano ei hunan. Un boreu gauafaidd, a hi eto yn dywyll, cyfrwywyd y ceffyl, a'r dyn da hwn, ar ol canu yn iach i'w serch- og wraig, a ffarwelio â'i blantyn eu gwely- au, a droes allan, fel Abraham,pany gad- awodd dŷ ei dad, heb wybod i ba le i fyned. Efe aymsymudai yn ddystaw am beth amser ar hyd groes-ffyrdd, rhag ofn cael ei weled, hyd nes yr aeth allan o'r gymydogaeth. Gan nad oedd ganddo un hatling yn ei logell i dalu traul ei daith, efe a gyflwynodd ei hun i nawtíd Rhaglun- iaeth. Penderfynodd o'r diwedd i adael i'r ceffyl ei lawn ryddid i fyned y ffordd a fynai, ac fel hyn y teithiodd am ran fawr o'r dydd, hyd nes yr oedd y dyn a'r anifail yn sefyll mewn angen mawr am luniaeth. Tua'r hwyr troes yceffyl tuag at amaeth- dỳ, ychydig allan o'r ffordd. Galwodd Mr. Heywood wrth y drws, a daeth gwraig daclus a glanwaith allan i ofyn pa beth oedd arno eisieu. ' Y mae genyf reswm,' meddai ef,' i wneyd esgusawd (apology') am yr hyfdra a gymerais, gan fy mod yn ddyn hollol ddyeithr yn y parthau hyn. Y mae fy ngheffyl yn gystal a minau yn sefyll mewn angen am luniaeth dros y nos: pe gallech rywfodd ei gwneyd yn gyfieus i roddi ychydig o wair, a lle dan dô i'm ceffyl, ac i minau le i eistedd wrth eich tân, nid wyf yn gofyn mwy.' Y wraig dda, mewn peth syndod wrth ei ddeisyfiad, a ddywedodd wrtho yr ym- gynghorai hi à'i gŵr. Ar ol ychydig funudau daethant ill dau i'r drws, ac aeth Mr. Heywood dros eiddeisyfiaddrachefn : ond dywedodd wrthynt nad oedd ganddo ef ddim arian i'wboddloni am unrhyw drafferlh a allent gymeryd ar ei gyfrif ef; eto gobeithiai y gwobrwyai Duw hwynt. Deisyfasant arno yn union ddisgyn : ar- weiniodd y gŵr y ceffyl i'r stabal,ac aeth y wraig a'r dyeithr-ddyn i'r tŷ,gwahoddodd efi eistedd i lawr, gwnaeth dân, a de- chreual barotoi rhyw beth iddo i'w fwyta. Dywedodd Mr. Heywood wrlhi fod yn ddrwg ganddo ei gweled yn rhoddi cy- maint o drafferth iddi ei hunan ; a chan ei fod yn analluog i wneyd unrhy w ad- daliad, nad oedd ef wedi gofyn am swper na gwely, ond yn unig am gael eistedd wrth y tân hyd y boreu. Sicrhaodd y wraigiddo nad oedd hiyu dysgwyl unrhyw wobr am weithred o letygarwch ; ac er nad oedd llety a Uuniaeth ei thý ond canolig, eto fod iddo groesaw o honynt, a'i bod yn gobeithio gan hyny y gwnai ei hunan yn dawel. Ar ol swper eisteddas ant o flaen y tân, a dymunodd meistr y tỳ gael gwybod gan y dyeithr-ddyn un o ba ardal ydoedd. ' Ganed fi,' meddai ef, ' yn Lancashire,ond y mae genyf wraig a phlant yn nghymydogaeth Halifax.' • Dyna dref,' meddai yr amaethydd, ' ag yr wyf wedi bod ynddi; ac yr oeddwn yn adnabod rhai personau yno, ychydig flynyddau yn ol. Atolwg, a ydych chwi yn adnabod Mr. S. a Mr. D ? Ac a ydyw yr hen Mr. F. yn fyw eto V Rhoddes y gŵr dyeithr ateb- ion priodol i'r holiadau hyn. O'r diwedd gofynodd y wraig dirion iddo, ' a wyddai efe rywbeth am un Mr. 01iver Heywood, yr hwn gynt oedd yn weinidog rhyw gap- el, nìd pell o Halifax, ond yrhwnoedd yn awr, ar ryw gyfrif neu gilydd, wedi cael ei wahardd i bregethu.' Atebodd y gŵr dyeithr, ' Y mae llawer iawn o swn a siarad yn nghylch y dyn hwnw : y mae rhai yn siared yn dda a rhai yn ddrwg iawn am dano : o'm rhan fy hun, ni allaf fi ddy- wedyd ond ychydigyn ffafriol iddo-' ' Yr wyf fi yn credu,' ebai gŵr y tŷ, ' ei fod yn un o'r sect hòno ag y mae yn mhob man ddywedyd yn ei herbyn; ond atolwg a ydych chwi yn ei adnabod ef yn bersonolt a pha beth sydd yn eich tueddu chwi i ffurfio y fath dyb wael am ei gymeriad ef ?' « Yr wyf yn'gwybod rhywbeth am dano,' atebai y gŵr dyeithr; ' ond gan nad ydwyf yn dymuno taenu gair drwg am neb, os gwelwch yn dda, nyni a siarad- wn ar ry w bwngc arall.' Ar ol cadw gŵr a gwraig y tŷ mewn petrusder am beth amser, y rhai oeddent ychydig yn anes- mwyth o herwydd yr hyn a ddywedasai, hysbysodd iddynt mai efe oedd yr alltud tlawd ag yr oeddent wedi ymofyn cyraaint