Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

274 AMRYWIAETH. i gwyno ar ol hyn am y gweddill o*r for« daith. Tybiais i i'r achwyniad yma gael effaith dda, gan eu bod yn ymddangos yn edifeiriol, ac addewent ddiwygio. Goll- jngwyd hwy ymaith yn awr, ac adferwyd trefn. Dranoeth erfyniodd y tramorwyr yn daer am faddeuant, gan addaw yn y modd mwyaf difrifol yr ymddygent yn well rhag llaw, a chan fod y lleill o'r morwyr yn cyduno â hwy yn eu cais, myfi a orchy- mynais gymeryd yraaìth eu gefynau. Cyflawnwyd dyledswyddau y llong am lawer o ddyddiau i'm boddlonrwydd per- ffaith ; ond gallwn weled yn ngwynebau y tramorwjr arwyddion o elyniaeth ddofn a maleisus tuag at yr is-gadben penaf, yr hwn oedd forwr cyflym a grymus, ac yn gofyn bob amser ufudd-dod parod a hollol i'w orchymynion. Pasiodd wj thnos efallai heibio fel hyn, pan un noswaith, yn y wyliadwriaeth haner nos, yr oedd yr holl ddwylaw wedi cael eu galw i fyrhau yr hwyliau. Yn gyffredin ar achosion fel hyn yr oedd y gorchwyl yn cael ei gyfarwyddo gan yr is-gadben, ond y tro hwn myfi a aethym fy hunan ar y bwrdd, ac a roddais orchy- mynion, gan ei anfon ef i'r pen blaen. Yr oedd yn noswaith dywyll ac ystormus, ond nid oedd y môr yn uchel, ac yr oedd y llongyn rhedeg oddeutu naw cwlwm yn yr awr, fel y dywedir gan forwyr. Ar ol gorphen y gorchwyl hwn, caniatawyd i un wyliadwriaeth fyned i'w gwely, ac yr oeddwn inau yn ymbarotoi i fyned i'm gwely, gan roddi gorchymyn i'r is-gadben gael ei anfon ataf fi, i'r hwn yr oedd genyf rai cyfarwyddiadau i'w rhoddi. Er fy syndod a'm dychryn dygwyd gair i mi yn mhen ychydig amser nad oedd i'wgael yn un man. Myfi afrysiais i fyned i'r bwrdd, gan alw yr holl ddwylaw i fyny drachefn, ac a holais bob dyn yn y Uong ar y pwngc, ond hwy a dystiasant un ac oll nad oedd- ent hwy wedi gweled yr is-gadben yn y pen blaen. Dygwyd llusernau, a chwil- iwyd pob rhan o'r llong, ond nid oedd ef i'w gael yn un man. Yna, yn nghlywed- igaeth yr holl ddwylaw, dywedais fy mod yn ofni ei fod wedi syrthio dros y bwrdd, ac aethym i'r caban, yn y fath gynhwrf meddwl ag sydd anmhosibl ei ddysgrifio. Ni allwn, yn wir, lai na rhoi lle i ddrwg- dybiau fod y dyn anffortunus wedi cyfar- fod à'i farwolaeth trwy ddwylaw ei ddyn- ion. Gan fy mod yn teimlo teimlad o unig- olrwydd ac anniogelwch, myfi a lenwais yrholl arfau tàn ag oedd ar y bwrdd, ag a'u rhoddais yn fy mhrif ystafell. Yr oedd y goruchwylydd yn ddyn melyn ffyddlon, ac wedi mordwyo lawer mordaith gyda rni. Myfi a hysbysais iddo ef fy nrwg-dybiau, a dywedais wrtho am iddo fod bob amser ar ei wyliadwriaeth : ac os cyfarfyddai âg unrhyw wrthwynebiad oddi wrth y llong- •wyr, ar fod iddo heb oedi fyned i'r brif ys- tafell ac arfogi ei hun. Yr oedd ei wely arferol ef yn y Uy wle, ond myfi a orchy- mynais iddo symud yboreu canlynol a dy- fod i un yn y caban, yn agos i fy ngwely i. Yr oedd yr ail is-gadben yn cysgu mewn ystafell fechan ag oedd yn agori'rfynedfa a arweiniai o'r llywle i'r caban. Myfi a'i gelwais ef oddi ar y bwrdd, ac a roddais iddo bâr o lawddrylliau llawn, ac a orchy- mynais iddo i'w cadw yn ymyl ei wely; a dywedais wrtho am beidio myned yn mhellach yn mlaen na'r prif hwylbren yn ystod ei wyliadwriaethau y nos, ond aros cymaint ag a fedrai yn agos i'r cadben a'r companioyi-way, a'm galw i os byddai yr achos lleiaf. Ar ol hyn, myfi a orweddais yn fy ngwely, gan orchymyn ar fod i mi gael fy ngalw am bedwar o'r gloch i'r wyiiadwriaeth foreuol. îíid aeth ond ychydig o funudau heibio cyn i mi glywed tri neu bedwar o ergydion ysgafn dan gounter y llong, sef y rhan hyny o ben ol y llong ag sydd yn gymhwys dan ffenestri y caban. Yn mhen munud neu ddwy myfi a'u clywwn drachefn. Myfi aneidiais o'r gwely—agorais ffenestr y caban, a gelwais. Atebodd yr is gadben ! Myfi a estynais iddo ben rhaff i'w gynorthwyo i fyny, a'm henaid llawen a dywalltai ffrwd o ddiolchgarwch i'r Bôd hwnw ag oedd wedi ei adferyd yn ol i mi heb gael un niwaid. Adroddodd ei chwedl yn fuan. Aethai i'r penblaen, yn ol fy ngorchymyn i, ar ol galw yr holl ddwylaw, ond prin y cyraeddasai ben blaen y llong pryd y gafaelwyd ynddo gan y ddau dramorwr, a chyn y gallodd roddi ond un fioedd, y* hon a foddwyd yn nhwrf y gwynt a'r