Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AMRYWIAETH. 275 tonau, bwrtwyd ef dros y bwrdd. Yr oedd yn ddyn grymus, ac yn nofiedydd rhagorol. Yr oedd yr hwyliau uchaf wedi eu tynu i lawr, ac yr oedd mynediad y llong wedi arafu yn fawr mewn canlyniad. Mewn eiliad efe a gafodd ben rhaffyn llusgo tros y bwrdd o fewn ei gyraedd, ac wrth hon y glynodd. Trwy ymdrech egniol, efe a gafodd afael yn un o gadwyn- auy Hyw, yr hon oedd yn bur isel, ac efe a dynodd ei hunan i fyny i fan ag y gallai sefyll ar y llyw, lle yr oedd ganddo ddigon o bresenoldeb meddwl i aros heb alw allan, hyd nes y gwelodd nadoedd dim goleu yn dyfod trwy ffenestr y caban, pryd y pen- derfynodd fod yr ymchwiliad am dano ef wedi myned trosodd. Y pryd hyn efe a gurodd, fel y nodwyd. Nid oedd un dyn yn y llong yn wybod- us o'i waredigaeth ond fy hunan; obleg- id yr oedd yr awel wedi cryfhau, ac wedi boddi yn hollol swn y curo, agoryd y ffenestr, &c, fel nad allai neb ei gly wed ar y cwarter bwrdd, ac nid oedd neb yn y caban ond fy hunan, gan fod y goruch- wylydd wedi myned i'w wely yn y llywle. Penderfynwyd ar unwaith mai yr ail is- gadben yn unig a gai wybod ei fod yn fyw. Efe a aeth heb oedi i brif ystafell fawr wag, ac am y gweddill o'r fordaith, gwasanaethais arno fy hunan ; ni chaniat- eid hyd yn nod i'r goruchwylydd ddyfod i'r caban ond mor anfynych ag yr oedd modd. Ni ddygwyddodd dim hynod am y rhan ddylynol o'r fordaith, a bu yn un hwylus. Ymddangosai mai oddi ar ysbryd ymddial yroedd y tramorwyr wedi cjflawni y fath weithred ercbyll; oblegid ni chynygias- «nt wneuthur dim ar ol hyn. Mewn am- ser priodolnyni a gymerasom long-lywydd yn y cyfyngfòr, ac, mewn diwrnod neu ddau, daethom i mewn i borthladd Liver- Pool. Mor gynted ag y gwnaethpwyd darpariadau priodol, nyni a ddechreuasom symud y llong i'r llong-borth, a thra wrth y gorchwyl hwn, gionaeth yr is-gadben ei ymddangosiad ar y bwrdd, aeth yn mlaen, « chydiodd yn ei waithfel ar/erol! Cymer- odd golygfa yn awr le ag sydd tu hwnt i aeb allu ei dysgrifio : y mae pob agwedd- la<ì o honi mor fyw yn {y nghof yn awr a Phe buasai wedi dygwydd ddoe. Syrth- iodd y rhaff i lawr o ddwylaw y llongwyr dychrynedig, ac oni buasai iddi gael ei chymeryd i fyny ganfadwyrag oeddent ar y bwrdd, buaswn yn rhwym o angori drachefn, acheisio cymhorth oddi ar y lan. Ni ddywedwyd un gair; ond aeth y ddau adyn euogdanhongcianbron syrthio tua'r prif hwylbren, Ue yr arosasant wedi delffî gan ddychryn, nes y daeth y swyddog, yr hwn yr anfonasid am dano, i'w cymeryd i garchar. Dechreuasant yn awr deimlo y cyflwr arswydus ag yr oeddent ynddo, a dechreuasant ddolefain yn y modd mwyaf torcalonus ac anobeithiol. Profwyd hwy yn fuan, cafwyd hwy yn euog, a dienydd- iwyd hwy, TEMTABIWN YN CAEL EI GWRTH- WYNEBU, A GOFAL AM GADW V SABBOTn YN CAEL EI WOBRWYO, Yr oedd Mr. T. S., amrai flynyddau yn ol, yn byw yn North Walsham, yn swydd Norfolh. Yr oedd gan brif bre- swylwyr y dref y pryd hwnw wrthwyneb- iad cryf i rym duwioldeb, a chasineb per- ffaith tuag at y Wesleyaid, gyda pha rai yr oedd Mr. S. mewn undeb. Penderfyn- asant am hyny, os oedd modd, ei orfodi i adael y dref; ac mewn canlyniad cytuuas- ant, na fyddai i neb o honynt hwy na'r rhai a ymddibynai arnynt brynu dira so'i nwyddau. Llwyddodd y ddyfais hon am amser, oblegid gan nad oedd galwad am ei nwyddau gyfartal i'w angenrheidiau; a chan ei fod yn petruso myned i ddyled- ion heb un tebygolrwydd i'w talu ; daeth ef, ei wraig, a'i fachgen bychan oddeutu blwydd oed, mewn angen am fwyd. Yr ydoedd hyn ar foreu sabboth. Tra yr oedd mewn myfyrdod dwys, ac nid heb deimlo rhywbeth tebyg i bryder, cyfarch- wyd y dyn da fel y canlyn gan foneddwr, yr hwn, fel y tjbir, a wyddai rywbeth am sefyllfa ei amgylchiadau. • Mr. S., y mae arnaf eisieu------,' (gan enwi rhywbeth ag y buasai ei werthu yn foddion i waredu ein cyfaillo'i gyfyngder ar y pryd.) < Syr,' atebai Mr. S., ' nid ydwyf fi yn trafod raas- nas heddyw; ond mjfi a ddysgwyliaf ar- noch unrhyw awr y fory.' ' Y fory,' atebai y prynwr: y mae arnaf eisieu y peth hedd- yw. Rhaid fod masnach yu beth o bwys