Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

276 AMRYWIAETH. i chwi ar bob rhyw bryd. Y mae genych yn awr brynwr. Pa hara na allwch werthu iààol Rhaid i mi gael fy ngwasanaethu yn awr, neu nid o gwbl.' • Bhaid i chwi fy esgusodi i,' atebai y masnachwr angen- us drachefn: ' rhaid i mi gadw yn sant- aidd y dydd Sabboth.' Gwithododd y cy- nyg yna, bron ar y pryd ag y berwinid ei glustiau â llefain ei unig blentyn an- wyl, ac ar yr un eiliad, canfyddai ddagrau ffrydiol y fam, yr hon, â'r plentyn ar ei gliniau, a ofynai, pa beth a wnawn niî y mae y bachgen bach yn Uefain am fwyd !' Yr oedd Mr. S. yn bregethwr cynorthwy- ol yn y cyfundeb Wesleyaidd, Yr oedd gmddo gyhoeddiad i bregethu mewn pen- tref gyfagos ar y Sabboth uchod. Yr oedd awr yr addoliad yn agosau, ac efe a frys- ioddi fyned i'r lle, ac yno cafodd y bobl wedi ymgasglu i wrandaw arno yn tra- ddodi gair y bywyd. Ar ol iddo borthi praidd üuw, ei gyfeillion caredig a'i cy- mhellent i gymeryd lluniaeth; ond ni oddefai ei galon lawn iddo fwyta tra yr oedd ei anwyl wraig a'i blentyn bychan yn rhwym o fod heb ddim i'w fwyta. Heb wneyd ei amgylchiadau yn hysbys i un dyn, efe a ddychwelodd adref at ei deulu angenus. 'Hauir goleuni i'r rhai cyf- iawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o ga- lon.' Yr oedd hyd yn hyn wedi ymddir- ied yn ei Dduw: profwyd ef hyd yr eith- af, ac wele awr ei ymwared ger llaw. Pan yxyraeddodd i'w dŷ ei hun, dysgodd fod cyfaill wedi ymweled â'i deulu yn ei absenoldeb, ac wedi eu cynysgaethu â digonoldeb, am y pryd hwnw. Tra yr oeddwn i yn derbyn yr hanes uchod oddi wrth fy nghyfaill, ei wraig dda, gyda llawer o ddagrau o orfoledd a diolchgar- wch, a gadarnhaai yr adroddiad; a chwa- negai, ' Er y pryd hyny, ni fu arnom ni ein hunain, na'n teulu, erioed eisieu bara.' Y mae y plentyn rhag-grybwylledig yn awr yn ŵr ieuangc duwiol, ae mewn sef- yllfa barchus. Anrhydeddwyd y rhiaint ffyddlon hyn á dau fab arall, ac un ferch, serch mabaidd a duwioldeb boreuol pa rai a addawant fod yn daledigaeth i'w rhieni, yn gysur y naill i'r Uall, yn fendith i'r eg- lwys, ac yn eiampl i gÿmdeithas. ' Mi a fûm ieuangc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyflawn ẃedi ei adu, na'i had yn cardota bara.' ' Ein tadau a obeithiasant ynot, acnis gwaradwyddwjd hwjnt.' Y WEDDI DEULUAIDD: IIANüSYN DIFYR. Adroddodd masnachwr duwiol yr am- gylchiad tra addysgiadol a ganlyn o ber- thynas iddo ei hun mewn ymddyddan gyda gweinidog:— ' Pan y dechreuais fasnach gyntaf dros- wyf fy hun, penderfjnais trwy ras y bydd- wn yn ofalus gydwybodol gyda golwg ar y ddyledswydd deuluaidd. Yn gyson â hyn, parheais am flynyddau lawer yn yr ymar- feriadhyfrydo'r weddi deuluaidd. Gelwid yn nghyd foreu a hwyr bob un o'r teulu ; ac ni oddefwn hyd yn nod i'm hegwyddor- weision fod yn absenol ar un cyfrif. Yn mhen ychydig flynyddau daeth y budd o'r ymarferion hyn jn hynod o amlwg : ben- dithion y ffynonau oddi uchod ac oddi isod a'mcanîynai, iechjd a dedwyddwch oedd- ent yn fy nheulu, a llwyddiant a ddylynai fy masnach. O'r diwedd, y fath oedd fy nghynydd buan mewn masnach, a'r ang- enrheidrwydd i gyflwyno pob munud ag oedd bosibl i dalu sylw i'r prynwyr, fel y dechreuais feddwl ai nid oedd y ddyled- swydd deuluaidd yn cymeryd i fyny ormod o'n hamser yn y boreu. Codai petrusder duwiol o berthynas i'm bwriad o roddi heibio y rhan yma o'm dyledswydd; ond o'r diwedd llwyddodd gofalon bydol mor bell ag i'm tueddu i esgusodi absenoldeb yr egwyddor-weision; ac nid hir wedi hyny tjbiwyd yn ddoeth, mewn trefn i ni allu dylyn y fasnach yn fwy diwyd, wneyd i'r weddi gyda'm gwraig, wrth gyfodi jn y boreu, fod yn ddigon am y diwmod. Ond er y ceryddon aml o eiddo cydwybod ag a ddylynasant yr esgeulusdra gwarthus hwn, ymddangosai galwadau masnach flodeuog, a'r dysgwyliad am deulu cynydd- ol, mor awdurdodol a gorchymynol, fel y cefais esgus rhwydd dros y drygioni dinystriol hwn, yn enwedig gan nad oeddwn yn esgeuluso gweddi ynhollol. Yr oedd fy nghydwybod bron a chael ei serio â haiarn poeth, pryd y rhyngodd bodd i'r Arglwydd fy neffroi trwy ragluniaeth hynod.