Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

260 AMRYWIAETH. anfeidrol, a'i haelioni annherfynol i ddyn. Ymddengys yma hefyd fel ffynonell un- iondeb, heb dderbyn wyneb neb; ac yma hefyd y mae pechadur colledig yn ym- ddangos yn ei wir gyflwr, a'i wir gymer- iad, fel ei ddinystrydd ei hun,—un yn cael ei ddamnio yn y ffordd a ddewisodd ei hun (Jer. ii. 19). Fel hyn y mae genym gyfundraeth grefyddol sydd yn galw holl nerthoedd y meddwl i weithrediad; yr hyn sydd yn tueddu i gynhyrfu ymchwil- iad, gwyliadwriaeth, diwydrwydd, a sant- eiddrwydd mewnol ac allanol—crefyddyn dwyn arni ei hun argraff cyfiawnder a gwirionedd tragwyddol. Ni raid i ni chwanegu, fod y ddwy gyfundraeth yn hollol groes i'w gilydd—yn gymaint felly, fel y rhaid i gadarnhâd y naill fod yn ddymchweliad i'r llall. Hòno sydd yn cytuno oraf à chymeriad santaidd a chyfîawnder Duw—sydd yn rhoddi mwyaf o anrhydedd a gogoniant ar ei berffeithderau dwyfol—sydd yn tueddu fwyaf i ddyrchafu y Jehofa fel Duw trugarog, ffynon pob daioni—sydd yn gyson â thuedd-nod cyffredinol gair santaidd Duw—sydd yn tueddu fwyaf i gynhyrfu nerthoedd y meddwl i weithred- iad, ac yn gwasgu ei wir gyfrifoliaeth fwyaf ar ddyn—sydd yn cau pob genau mewn barn, ac yn dangos Duw yn holl ogoniant ei anmhleidgarwch a'i uniondeb —a raid fod yr athrawiaeth wirioneddol. Pa un o'r ddwy athrawiaeth a gyferbyn- wyd yn awr sydd yn tueddu fwyaf i hyn, ni a adawwn i'r darllenydd benderfynu. Cymhwysiadau. laf, Gwelwn gyflwr truenus dyn—creadur hunan-ddinystriol. Y tecaf o waith Duw wedi syrthio i gyf- lwr o ddirywiad a thrueni. Y cyfryw yw cyflwr dyn hyd oni adnewyddir eftrwy allu efengyl Crist: ac y mae y cyflwr hwn yn tywyllu ac yn cynyddu yn waeth yn raddol, ac ni ddiwedda ond yn ngororau gwae, a thywyllwch tragwyddol anobaith. 2il, Gorlawn ddaioni Duw i'r creadur truenus hwn, heb hawl na chymhelliad i'w drugaredd. Y mae hyn yn cael ei osod allan yn darawedig gan un o'n Beirdd crefyddol, yn y llinellau hyn; — 'Mewn llyngclyn o dywyllwch dû, Yr oeddem ni drueinied, Heb lewyrch ar ein cyflwr gwael, Na gobaith cael ymwared.' Pa fodd gan hyny y daeth iachawdwr- iaeth 1 ac o ba le y darfu i'r bywyd a'r goleuni gyfodi f Clywwch,— 'Ünd Iesu Grist.Tywysog gras, O'i nefol balas canfu Ein cyflwr digynorthwy ni, A rhedodd i'n gwaredu.' Ie ! o Dduw y daeth i ni gynorthwy— dechreuodd ein hiachawdwriaeth yn ei wir haelioni ef; ei lygaid ef a welodd, a'i ym- ysgaroedd a dosturiodd wrth drueni dyn syrthiedig, a'i fraich ei hun a ddygodd iachawdwriaeth,(Esay lix. 16.) Gan hyny yr ydymyn gweled hyn, ac yn tystiolaethu ' ddarfod i'r Tad anfon y Mab i fod yn Iachawdwr i'rbyd,' 1 Ioaniy. 14. 3ydd, Dyledswyddabraintdyn. Y mae iachawdwriaeth wedi ei darparu, ei dat- guddio, ac yn cael ei chynyg yn rhad; ac y mae yn sefyll arno ef i dderbyn y fen- dith o fywyd a gynygir iddo yn yr efeng- yl. Y mae Duw yn gorchymyn iddo wneyd hyn ; gan hyny y mae yn ddyled- swydd arno. Y mae hyn yn anwahanad- wy gysylltiedig â'i lesàd presenol a thra- gwyddol; gan hyny y mae yn fraint iddo. Na oddefwch i ymlyniad dall wrth y byd hwn eich cadw rhag ymgyraedd at y byd uchod. Na oddefwch i ysbryd o ddiogi eich cadw yn ddiofal i'r hyn sydd yn perthyn i'ch iachawdwriaeth dragwyddol. Na oddefwch i ysbryd oedi eich cadw i roi heibio y gwaith obarotoi erbyn gogon- iant, i'r hyn y mae bywyd hir braidd yn rhy fyr. Na adewwch i unrhyw amheuaeth neu ofn eich cadw oddi wrth Dduw. Y mae yn dymuno arnoch nesau ato. Y mae ei orsedd nefol wedi ei thaenellu â gwaed yr aberth hwnw a wnaed er rhoddi iawn Uawn am bechod. Gan hyny gell- wch nesau yn hyderus, heb bryderu am lwyddiant—gyda meddwl ac ymadrodd rhydd; ac yn fwy felly, gan fod Iesu, Archoffeiriad mawr ein cyffes ni, yn ym- ddangos bob amser ger bron Duw, i eiriol tros ddynion. Ynanafydded i rif, mawr- edd, na drwg pechod eich cadw yn ol. Na fydded i'ch ymresymu o barth y bwriadau dwyfol eich cadw oddi wrth Grist. A meddwl datguddiedig Duw y mae a wnel- och chwi. ' Y dirgeledigaethau ydynt eiddo yr Arglwydd; pethau amlwg » roddwyd i ni ac i'n plant hyd byth/ Deut. xxix. 29. Mwy — byddwch sicr