Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AMRYWIAETH. 261 nad oee annghysondeb rhwng bwrladau Duw sydd wedi eu gwneyd yn hysbys, a'r pethau y mae Duw wedi eu cadw iddo ei hun. Gan hyny credwch y tystiolaethau datguddiedig, y rhai sydd yn eich sicrhau, na enir neb byth o wraig, a'r nad yw yn cael ei gynwys yn ngofal mawr cariad cy- ffredinol Duw. (Heb. ii. 9.) 4ydd, Yr hawlìau mawrion sydd gan Dduw ar ei bóbl. Gredinwyr; yr ydych chwi yn bobl waredigol Duw ; y mae pob peth ydych, ac sydd genych, yn perthyn i Dduw. Y mae ganddo hawl ar holl nerthoedd eich meddwl, a holl alluoedd eich corff. (Rhuf. xü. 1.) Y mae yn hòni hawl i'ch meddwl—clodforedd uchaf eich eneidiau. Y mae ganddo hawl i'ch oll yn ei wasanaeth, ac i ledaenu y newydd- ion am ei ddaioni i'ch cyd-ddynion. Eich gwaith chwi yw canu am ei ddaioni, a dywedyd, ' Trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb,' Salm xn, 13. Eich gwaith chwi, trwy ymar- weddiad santaidd—trwy gariad dwfn- deimladol at bechaduriaid, a sêl dros Dduw, yw cymhell y Gwaredwr i bawb o'chamgylch. 5ed, Helaethder anogaethau gweinidog- aethol, a rhadlonrwydd y cynygiadauef- engylaidd sydd i'w cyhoeddi. Erfoddyn yn wir yn wrthddrych eithaf gresyndod, pwy sydd yn ofni estyn cynygiadau yr efengyl tu hwnt i'r nod cyfreithlon. Os cyfynga ei hun i'n byd ni, pe byddai yn bosibl iddo ei olrhain o begwn i begwn, y mae eto o fewn y terfynau a osodwyd iddo ; canys y mae iachawdwriaeth i gael ei chynyg i'r holl bobl. Nac ofned yr estyn ras yn rhy bell, yr hwn sydd yn cofleidio pob dyn. Nac ofned fawrhau ac estyu y cariad yn rhy fawr, yr hwn sydd J'n cyraedd o dragwyddoldeb i dra- gwyddoldeb—sydd yn ymostwng i borth dinystr ei hun, fel y dolefa y truenus wrth gael ei gipio o drueni tragwyddol mewn buddugoliaeth, « Onid pentcwyn yw hwn wedi ei achub o'r tân?' (Zech. iii. 2.)Na, yn hytrach, bydded i weinidog yr efengyl lafurio a hiraethu am y pryd pan y ' pregethir yr efengyl i'r holl fyd' (Mat. xxiv. 14); a phan y bo i'w sain beraidd gyraedd clustiau pob dyn. W. R. Tredegar. GYFEILIORNADAU Y GREFYDD BAB- AIDD YN CAEL EU DYNOETHI. Pen. VII. Dywed v Pabyddion y dylai gtoeddìau, a phob gwasanaeth crefyddul cyhoeddus, gael eu cario yn mlaen mewn iaith anneallus i'r werin.— Council of Trent, Seis.22, Cap. 8, and Can. 9. Hollawl wrthwynebol i reol yr apostol. (Gwel 1 Cor. xiv.) Taíiwn fras olwg dros y bennod er dangos hyn : * Canys yr hwn sydd yn llefaru à thafod dyeithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, (hyny ydyw, nid wrth ddeall dynion,) ond wrth Dduw.' (Adn. 2.) « Yr hwn sydd yn llefaru â thafodau dyeithr sydd yn adeiladu ei hun- an, eithr yr hwn sydd yn proffwydo sydd yn adeiladu yr eglwys.' (Adn. 4.) Felly * mwy y w yr hwn sydd yn proffwydo na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddieithr iddo gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.' (Adn. 5.) * Ac yr awrhon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafod- au, pa lesâd a icnaf i chwif (Adn. 6.) 'Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybydd- ir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn 1 Canys os yr udgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbarotoa i ryfel? Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a lefarirl Canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.' (Adn. 4.) « Y mae cymaint, ys- gatfydd, rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un o honynt yn aflafar;' hyny ydyw, i'r sawl sydd yn deall y lleisiau a'r iaith : am hyny, oni wn i rym y Uais, (neu ystyr yr hyn a lefarir,) myfi a fyddaffar- bariad i'r hwn sydd yn llefaru, a'r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad. (Adn. 10, 11.) Os edrychwn i'r eglwys Babaidd, cawn ddarluniad perffaith o'r hyn y llefara yr apostol yn ei erbyn. Cen- ir yr offcren * (mass) mewn iaith ddyeithr » Efallai mai nid anmhriodol fyddai yn y fan hon osod o flaendarllenwyr yr Eurgrawn (oble- gid gall fod rhai o honynt yn anhysbys) beth a olygir wrth yr offeren, neu y mass. Yr offeren ydyw y gweddiau hyny a ddefnyddir wrth gy- segru y bara a'r gwin yn y eymun, fel nad ydynt mwyach yr un elfenau ag o'r blaen, eithr yn wir gorff a gwaed cin Cyfryngwr, j r hyn a elwir j n drawssylweddiadi (transubstantiation). Tybia Nicod fod y gair mass yn deilliaw o'r frawddeg Ladinaidd missa misorum, oblegid yn yr amser gynt byddai y dysgyblion egwyddorog, neu y • catechutneus,' feí eu gelwid, yn cael eu gyru o'r t Cjtaeryra i fyny y pw^c o D»awB8j'hwddiad jn ei le