Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

264 AMRYWIAETH. goruwchnaturiol yn cael ei arferyd gan Grist a'i apostolion. Yr oedd eu hargy- hoeddiad mor gadarn o'r gwirionedd fel y darfu iddynt gofleidio y grefydd hon. Na, nid hyn oedd y cwbl, yr oedd eu ffydd mor ddiysgog yn ei gwirionedd, fel y darfu iddynt foddloni i oddef pob gwawd a dir- myg, a phob colledion bydol; îe, hyd yn nod i oddef angeu poenus a gwaradwydd- usi Yr wyf fi yn addef yn rhwydd, fod crediniaeth y lluaws hyn, ag oedd wedi cael y fath gyfleusdra neillduol i wybod y gwirionedd, yn cadarnhau fy ffydd i yn fawr iawnyn ngwirionedd y grefydd grist- ionogol. Yr wyf fi yn credu y gwyrthiau a gry- bwyllir yn y Testament Newydd, o her- wydd fod yr Iuddewon hyny, hyd yn nod gelynion lesu Grist, yn gorfod cyfaddef ei fod ef yn gweithredu gweithredoedd goruwchnaturiol; 'Canys y mae y dyn yma yn gwneuthur Uawer o arwyddion,' (Ioan xi. 47,) oedd cyfaddefìad yr archoffeiriaid a'r Phariseaid. Ac nid ydyw yr Iuddew- on diweddar yn gwadu na wnaeth syl- faenydd y grefydd gristionogol lawer o bethau na allai un dyn eu gwneuthur, heb gynorthwy rhyw oruchwjlydd anweledig. Ond i'r dyhen i ocheljd y canlyniadau sydd yn dylyn, y maent hwy yn cyfrif ei fod yn derbyn y gallu i wneuthur gwyrth- iau oddi wrth ysbryd uffernol. Yn ddiweddaf, y mae y rhjfeddodau a'r gwyrthiau a ffugir gan ddjnion twyllodrus, yn brawfiadau digonol fod gallu goruwch- naturiol wedi cael ei ddefnyddio i ddyben crefyddol. Ymaehyn yn ymddangos yn gasgliad teg oddi wrth y gwirioneddau hyn. Ni buasai twyllwyr yn ffugio y fath ddichell, oni bae eu bod yn gwybod yn dda fod gwir wyrthiau wedi Uwyddo i sefydlu y wir grefydd. Ni chawsai arian ffugiol eu pasio, oni bae fod arian bathol yn bodoli. Felly ni a allwn fod yn sicr, na buasai gwyrthiau ffugiol yn mhlith yPabyddion yn cyfoethogi eu hoff- eiriadau, oni bae fod gwir wyrthiau wedi dwyn sylw dynolryw. Wedi fy argy- hoeddifelhyn o alluoedd goruwchnatur- iol lesu Grist a'r apostolion, yr wyf fi yn credu eu bod hwy wedi Uefaru gyd. ag awdurdod; ac, o ganlyniad, fod y gyfundraeth grefyddol, yr hon a elwir yn ol enw ei sylfaenydd, nid yn unig yn rha- gori ar bob un arall yn y byd, ond ei bod yn ddwyfol. CREFYDD NATURIOL A DATGUDDIOL. ' Foede hunc mundum intravi, anxius vixi, per- turbatus egredior. Causa causarum, miserere, mei'—Aristotle. 'Fe'm ganwyd yn llygredig, treuliais fy mywyd yn ofldus, ac y mae marw yn peri pryder dy- chrynawl i mi. O Achosydd yr acnosion, trugarhà wrthyf.'— Auistotle. Tybiwyf nad ydyw geiriau olaf y philos- ophydd barbaraidd enwog hwn, y rhai a ddyfynais, yn haeriad tlawd yn erbjn an- ffydddiaeth. Crefydd natur oedd yr unig grefydd â pha un yr oedd Aristotle yn gyfarwydd ; a hon a ddysgodd iddo y rhesymoldeb o fod- olaeth Goruchwyliwr mawr a galluog. Y mae braidd yn annichonadwy dychymygu dysgrifiad mwy priodol a tharawgar o'r Duwdod na'r hwn a rydd efe yn y geiriau dyfynedig. Cynwysant ynddynt eu hun- ain wrthwynebiad uniongyrchiol i'r medd. yliau gwageddus a fabwysiadir gan rai mewn perthynas i ragluniaeth neillduol Duw. Inffideliaid ein dyddiau ni a'n cyf- eiriant at ddeddfau natur; Aristotle at Ddechreuydd a Gweithredydd y deddfau hyn. Y philosophydd paganaidd a gyd- nabyddodd yr angenrheidrwydd am un i lywyddu yn y cysawd mawr. Yr anffydd- wyr a'n cyfeiriant at ail achosion; Aris- totle at Achosydd ac Awdwr yr ail achos- ion hyn. Pan yn treiddio i ryfeddodau adyfnder- oedd natur,ymaeyn eglur,oddi wrth eiriau Aristotle, ei bod yn ofynol, gyda golwg ar yr aml amheuon ac anhawsderau a'n ham- gylchyna, cael dwyfol gynorthwy tuag at eu symud ymaith. Y dyn a syllodd arno ei hun, ac a feddyliodd am eiWneuthurwr —edrychodd ar y byd a'r aneirif luoedd a fodola ynddo; --ei reswm a'i hysbysodd mai yr un Creawdwr a'i creodd ef a'r byd, a'i fod yn anolrheinadwy yn ei weithredoedd. Y canlyniad o'r myfyrdodau hyn oedd, i'r dyn gael iawn olwg arno ei hun. Yr oedd yn teimlo ei fod wedi ei eni yn llygredig, a« yn bechadurus wrth natur. Cafodd fod y Uwybr ar ba un yr oedd wedi rhodio drwy ystod ei fywyd, wedi ei nodi a gofid a drygioni — gorweddai ar wely angeu —