Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TR EURGRAWN WESLEYAIDD. MA.WRTH, 1875- COFIANT AM MR. MORGAN JAMES, MABNACIWl, DEFT1Í06, CYLCHDAITH A B E B H 0 X DBTJ. «AN Y PABCH. ISAAC JENMNS. Me. Moboan Jame* oedd ŵr adnabyddus iawn yn Defynog, fel masnaehwr cyfrifol, ac fel blaenor yn y Gymdeithas Wesleyaidd dros lawer o nynydda». Fel cymydog, fel cristion, ac fel ;masnachwr, yr oedd yn sefyll yn uchel yn nghyfrif pawi a'i hadwaenent, a'i ymadawiad achosodd i fw'th mawr gael ei wneyd, nid yn unig yn ei deulu ei hun, ond hefyd yn y gymydogaeth, ac yn enwedig yn yr eglwys ag yr oedd yn perthyn iddi. Pan y mae pen teulu, blaenor eglwys, a dyn cyhoeddus a defnyddiol, yn cael ei gymeryd ymaith, mae y golled yn fawr, ac mae y gälar yn ddwys, ac yn parhau yn hir ar ei ol: felly y mae yn bod yn yr achos hwn. Wrth geisio codi cofgolofn fechan a syml er çpffadwriaeth amdano, yr ỳm yn teimlo ein hunain yn analluog i ẅneyd hýhỳ mewn modd teilẅng ohono, a hyny yn benaf oherwydd diffyg defnyddiau; priodol er adosod ei gymeriad mor gywir ac mor llawn o flaen y darílenydd ag y buasem yn dỳmunö. Gam na adawodd ein hanwyl gyfaill unrhyw gofnodau-ar ei ol, yn cỳnwys hanes ei argyhoeddiad a'i dröedigaeth—ei ymdrechion dirgelaidd atíi hëdd a ffarJr Duw—ei ofnau, ei amheuon, a'i obeithion.yn-aŵgp ei gyflwr—gán nad oes genym ddim gwybodaeth uniongyrchòl am y petnéu hyn, nid oes genym ond cymeryd tystiolasth ei gyfeillion amdano, ac ymdrechu llanw i fyny ambell fwlch, oddiar hen adnabyddiaeth bersonol. Mr. Morgan James oedd fab hynaf Mr. James James, masnachwr, yn De- fynog. Ganwyd ef Mai 8fed, 1810. Yr oedd yn un o drio blant, sef dau fab ac un ferch. Erbyn hyn mae y ddau fab wedi dylyn eu rhieni i'r an- farwol fyd; ond mae y ferch (Mrs. Dàniel Jones, Post Offiee, Ystradgymlais) eto yn fyw, a hi yw yr unig un sydd yn aros yn ngweddill o'r teulu. Caf- odd y plant hyn eu dwyn i fyny yn dyner a gofalus o'u mebyd. Cawsant ysgolion da yn moreu eu hoes, a chawsant eu magu a'u meithrinjn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oedd eu mam yn aelod o'n èymdeithas, a« yn wraig synwyrol, serchog, a chrefyddol iawn. Yr oedd ganddi ofal mawr am ei phlant, a dyíanwad mawr trostynt. Cymerai hwynt gyda hi yn gy- son a rheolaidd i dý Dduw, ac ymdrechai wasgu ar eu meddyliau y pwyg o ofni Duw, a chadw ei orchymynion; ae nid oes amheuaeth na chafodd ei chynghorion caredig, ei hesampl brydferth, a'i gweddiau taerion, argraff dda ar eu calonau. Bu farw Mrs. James Ebrill 3, 1834, mewn llawn sicrwydd gobaith am wynfyd y nef. Gwel hanes ei bywyd a'i marwolaeth yn yr Eurgrawn am Medi, 1835. Bu marwolaeth eu mam yn ergyd trwm i'r plant, a chafodd yr amgylch- iad effaith ddifrifol ar bob un ohonynt. Cyn pen hir, ymunodd y ddau fab, sef Morgan a James, â'r gymdeithas Wesleyaidd, a chafwyd pob Ue i gredu fod eu dychw6liad yn gywir a didwyll. Ymddengys mai James, yr ieueng- af, a ymunodd gyntaf j ond ni fu Morgan yn hir cyn dylyn esampl ei frawd 0 ÇTF. ^7»