Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EURGBAWN WESLEYAIÛD. HYDREF, 1886. COFIANT Y PAECH. EIOHAED PEITOHARD, GWEINIDOG WESLEYAIDD. GAN Y PARCH. HÜGH JONES (b). Ei rieni—ei ddygiad i fyny—ei addysg—-ei argyhoeddiadau—mynychiad capel y Wesleyaid—Cyfarfodydd Ysgolion, Yn ffortunus darfu i Mr Pritchard barotoi ychỳdig o nodiadau am ei ddydd- iau boreuol, â'i law ei hun; a chan fod ganddo ffordd mor ddyddorol o gofno li digwyddiadau, nis gallwn wneyd yn well na gosod yr hyn a ysgrifenodd i lawr yma air yn air:— " Ganwyd fì Mawrth 31ain, 1811, yn ninas Bangor, sir Gaernarfon. Enwau fy rhieni oedd John a Jane Pritchard. Nid wyf yn gwybod am neb o'm hynafìaid a fu yn enwog iawn o ran eu sefyllfa yn y byd, nac am neb ohonynt fuont yn isel iawn o ran eu hamgylchiadau ; ond trwy eu Uafur a'u diwydrwydd yr oeddent yn dal cymeriad anrhydeddus gerbron eu cymydog- ion, megys y dywed Paul, yr oeddent yn " darparu pethau onest gerbron pob dyn." Bu i'm rhieni naw o blant. Mae tri ohonynt weédi ein rhagüaenu, hyderaf i wlad sydd well, ac mae chwech yn aros hyd yr awrhon. Myfi ydyw yr hynaf o'r plant—-y cyntafanedig, a dangbsw^d gófal mawr, yn en- wedig gan fy màm, i'm gosod yn foreu ar beny " ffoTdd dda." Nid oedd fy nhad yn aelod proffesedig gydag un blaid grefyddol, ond yr oedd yn ddyn sobr, a diwyd gyda phób moddion o ras. Hyny o sel plaid oedd ynddo tueddai at yr Annibynwyr, wedi arfer myned pan yn fachgen i'r ysgol Sab- bothol, ac i foddion ereill o ras i gapel Helyg, plwyf Abererch, gér Pwllheli. Yn agos i'r lle uchod y gánwyd ac y magwyd ef, mewn amaethdy bychan o'r enw Tŷ-y-ffynon. Bu farw ei dad a'i faín cyn ei fod yn ugain oed. Wedi hyny barnodd mai gwell oedd iddo roddi y ffarm i fyny, a gwerthu y stoch; ac ar ol crwydro yma ac acw am beth ámser, daeth mor belied a Bangor, a chyf- logodd yn hwsmoû yn Perfeddgoed, gerllaw y ddinas hono. Ar y pryd yr oedd fy mam yno yn gwasanaethu fel dairy maid, ac felly y daethant i gydna- byddiaeth â'u gilydd, ac yn y man i ymuno â'u gilydd mewn glân briodas. Yr oedd fy mam yn dyfod o le cyfagos iPentraeth, yn sirFon. Yr oedd hi yn aelod eyson, cyn i mi gofìo, gyda'r Methodistiaid Oalfinaidd yn Mangor, a daliodd ei phroffes yn ddifwlch hyd ddiwedd ei hoes. Bu farw fy nhad Mehefin laf, 1845, yn 61ain mlwydd oed, a bu farw fy mam Ehagfyr lleg, 1863, wedi proffesu proffes dda am dros haner can mlynedd. Yr cedd fy mam yn ^raig synwyrol o'r cyffredin, a threuliodd oes ddiwyd i drefnu amgylchiadau ei theulu. Yr oedd yn hynod' o'r gofalus i'm hanfon yn rheolaidd i'r ysgolion oedd ar y pryd yn gyfleus, a chau fy mod yr hynaf o'r plant, efallai i mi gael mwy o fanteision yn y ffordd hono na'r gweddill ohonynt. Yr oedd yn Bangor y pryd hwny ysgolion prẃate a gyfrifid yn rhai rhagorol. Oedwid un ohonynt gan hen ysgolfeistr o'r enw Mr Prichard, ac iddo air da iawn, mewn tŷ anedd yn yr heol gyferbyn a Waterloo. Wedi hyny daeth un o'r enw Mr John Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid, i gadw ysgol yn eu capel, ac ystyrid ef yu un o'r ysgolfeistriaid goreu yn y wlad am gyfar- wyddo y plant yn yr hyn a elwid yn commercial education. Cefais y fraint o fyned i'r ysgolion hyn yn ddifwlch am tua phum mlynedd. Yr wyf yn cofio yn dda am un o'm cydyegolorion yn ysgol Mr Jones, un a ddaeth ar ol hyny 2.T7 Oyf. 78.