Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

3/r ^uryratûn Wedfeyaidd. Ct?. XCVI. CHWEFROR, 1904. Rhif 2. Çofiaot y Parcb. SaD)üel Davies. Gan y Golygydd. [Cywirer y llithriadau canlynol:—Ar tudal. 2, y drydedd linell o'r gwaelod, darllener Hull. yn lle Llundain. Eto, tudal. 5, y lOEed linell, darllener Burslem yn lle Hanley]. ----------- Ei Symudiad i Oaerlleon—Y Parch. John Richards—Cyfarfod Cyllidol Amlwch yn 1872—Cyfarfod Talaethol Caernarfon yn 1873 — Darlith Dalaethol Dr. Davies— Odfaon y Cadeirydd—Cynadledd 1873—Llythyrau Mr. Davies—Ei Deithiau — Cyfarfod Cyllidol Dolgellau, a'i Symudiadau. E ol Cynadledd Llundain yr oedd gan Mr. Davies i newid ei babell. Aeth i Gylchdaith Bagillt, ac i drigianu yn Nghaerlleon. Gad- awodd Lundain am Gaernarfon, dydd Sadwrn, Awst 17eg. Ar y 18fed ysgrifena, " Bemained m all day. Felt poorly and weary, very unfit for worhj' Ond er ei nychdod, yn pregethu y buasai pe heb y ddarpar- iaeth a wneid y pryd hyny i gadw ei blaniau. Ar y 19eg, ysgrifena,— " Began to pack for our new circuit,"—a pharhaodd gyda'r gwaith ar hyd yr wythnos. Treuliodd y Sabboth olaf cyn gadael y gylchdaith yn Porthdinorwig, a phregethodd atn 10 ar Salm cxxxii, 8; ac am 6 ar Philip. i, 27. Cyfarfyddodd ei Eestr yn Nghaernarfon am y waith olaf prydnawn Llun y 26ain, a phrogethodd yn yr hwyr ar Philip. i, 27— testyn priodol iawn i bregeth yraadawol—" Yn unig ymd iygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn absenol, y clywyf oddiwrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un yspryd, ac un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl." Cafwyd cynulliad lluosog, ac yr oedd ocheneidiau yn cael eu gollwng, a dagrau eu colli wrth feddwl am ei ymadawiad. Ar y 29ain, ysgrifena,—"Left Carnarvon for Chester. 0 ! may the Lord mike me more useful and successful than I ever have been." Treuliodd y Sabboth cyntaf yn y gylchdaith newydd yn Fflint am 10, Soar am 2, a Bagillt am 6; a dywed, "A good day. Large congregationsy Ond rhaid ymattal. Am y ddwy flynedd gyntaf yr oedd y Parch. John Eichards yn arolygwr, a Mr. Davies yn ail bregethwr; ac am y drydedd flwyddyn