Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

3/r GurgrauDn Wed/eyatdd, Cyf. XCVI. AWST, 1904. Rhip 8. Çofiapt y Parcb. Sar»ael Davies. Gan y Golygydd. Cyfarfodydd y Drysorfa Ddiolchiadol rjn Penmachno a'r Cwm, Eoreb (Bangor), Abermaw, Towyn, Bagillt, Dinbych, Rhuthyn, Corwen, a Llangollen, Caernar- fon, Llanfyllin, Anilwch, Beaumaris, Treffynon, Llanasa, Abergele, Hardman Street a Collyhurst {Manchester), Wyddgrug, Coedpoeth, Cefn, Piollheli, Port- madoc, Blaenau Ffestiniog, Tregarth, Bethesda, Criccieth, Hanley, Caerlleon— Galwedigaethau ereill — Sefyllfa y Llyfrfa — Cyfarfod Talaethol Lerpwl, 1880— Cyfarfod Talaethol Treorhy—Cynadledd Llundain—Cyfarfod Cyllidol Dolgellau. \/jVcR ol bod wrthi yu pacio yn y Llyfrfa y dyddiau dilynol, yr oedd rjxpL yn Penmachno nos Sadwrn yn cynal cyfarfod y Drysorfa, a'r addewidion yn £62 lOs. Oc. Yno y treuliodd y Sabboth, ac ar ol dyweyd " Cynulleidfaoedd rhagorol, a theimladau gwerthfawr iawn," ä rhagddo i ddyweyd, "ond yn anftodus, pregethais yn y boreu ar yr un geiriau a'r tro diweddaf y bum yno— rhaid cymeryd mwy o ofal rhagllaw." Digwyddiad annghyffredin yn ei hanes oedd hyn. Nid wyf yn gwybod a arferai gofnodi y lleoedd a'r testynau heblaw yn ei Ddyddiaduron, ond yr oedd ei gof mor afaelgar fel nad arferai draddodi yr un pregethau yn yr un lleoedd. Nos dranoeth yr oedd yn cynal cyfarfod y Drysorfa yn y Cwm, ac yn gallu dyweyd, "Llon'd y capel o bobl—cyfarfod hwyliog—yr addewidion yn £41 lOs. Oc." Treuliodd o Tach. 7fed hyd y 14eg yn Llundain, yn cynal cyfarfod yn y West End, ac yn gwneyd busnes y Llyfrfa y dyddiau ereill. Ar y lôfed, ysgrifena, "Ysgrifenu llythyrau—darllen prawfieni, &c.—dechreu neithiwr ar ol dychwelyd—diolch am y nerth y mae fy Nhad nefol yn ei roi—Efe a'm piau." Ar ol pregethu yn Mangor y Sabboth, yr oedd cyfarfod y Drysorfa yn Horeb nos Lun, a'r addewidion yn £282. Yr oedd yn cynal cyfarfod y Drysorfa yn yr Abermaw, nos Fercher, y 19eg, a'r addewidion yn £65 15s. Oc.; ac yn Towyn nos dranoeth, a'r addewidion yn £52 133. 6c. Ar ol pregethu yn Beaumaris y Sabboth, yr oedd yn cynal cyfarfodydd y Drysorfa yn Bagillt nos Lun, a'r addewidion yn £61 16s. 6c.; yn Dinbych nos Fawrth, a'r addewidion yn £77; yn Rhuthyn nos Fercher, a'r addewidion yn £147; yn Nghorwen nos Iau, a'r addewidion yn £52; ac yn Llangollen nos Wener, a'r addewidion yn £60 3s. lc. Pregethai yn Nghaernarfon y Sabboth, ac yr oedd cyfar- fod y Drysorfa nos Lun, a'r addewidion yn £84. Y Sabboth dilynol,