Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^r ^urgrawn ^eeCe^aiòò. Cyf. XCVJI. IONAWR, 1905. Bhif 1. Çofiapt y Parcb- Jobp Owep Parry. GrAN y Parch. T. Isfryn Hughes. r'N marwolaeth y Parch. John Owen Parry collodd Wesleyaeth _|a Gymreig weinidog ieuanc o alluoedd tra disglaer, o gymeriad pur a hardd, ac o ymroddiad mawr i waith yr alwedigaeth sanctaidd y galwyd ef iddi. Prin yw y defnyddiau tuag at ysgrif- enu Cofiant iddo ; nid oes yn ei hanes unrhyw ddigwyddiad hynod na chynhyrfus. Am rai blynyddoedd bywyd o gystudd a dioddefaint blin a gafodd. Gyda'i fod wedi gwisgo ei arfogaeth, ac ymroddi o ddifrif i waith ei filwriaeth, anelodd angeu ei saeth wenwynig ato, a bu raid iddo ddywedyd, " dwg íì allan o'r fyddin, canys fe a'm clwyfwyd i." Ond er hyn fe deilynga ei enw gael ei gadw mewn coffadwriaeth fel un o'r gweinidogion coethaf ei weinidogaeth a fu yn ein heglwys. Ganwyd John Owen Parry mewn Ue o'r enw Pen-y-bont, Llan- elidan, ar y 23ain o Dachwedd, 1860, Enwau ei rieni oeddent Robert a Jane Parry. Ychydig sydd i'w ddyweyd am ei dad. Bedyddiwr ydoedd o ran ei gredo crefyddol. Bu farw yn gynar. 0 du ei fam hanai ein gwrthddrych o deulu Wesleyaidd, sydd wedi bod, ac yn parhau felly, yn amlwg gyda'r achos yn Llanelidan. Pan oedd oddeutn pedair neu bump oed symudodd ei rieni i drigianu yn Nhowyn, Meirionydd, ac yno y treuliodd ddyddiau ei fachgendod, y derbyniodd ei addysg elfenol, ac yr arosodd hyd nes yr aeth, yn ẁr ieuanc i ddilyn ei alwedigaeth yn Manchester. Derbyniodd addysg eifenol dda yn Ysgol Frytanaidd Towyn. JEr yn fachgen yr oedd o feddwl byw a chytiym. Tystiolaetha ei hen athraw amdano na fu ganddo, yn ystod deng-mlynedd-ar-ugain o wasanaeth fel athraw, un bachgen mwy addawol na John Owen Parry. Bwriadai ei fam iddo fod yn ysgolfeistr, ac yn Mawrth, 1876, ar gymeradwyaeth ei athraw, penodwyd ef yn monitor yn yr ysgol, ac yn Mai dilynol yn pupü teacher ynddi. Ond oherwydd afiechyd a llesgedd gorfodwyd ef i roddi heibio'r gwaith hwn. Wedi hyny prentisiwyd ef yn saer coed, ac ymddengys iddo ddod yn fedrus yn ei alwedig- 15