Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

64 Llenorion Swyddfa Gyntaf yr ''Eurgrawn" dymor yn Dolgellau. Ni allasai fod yn y fath gysylltiad à'r Eargrawn heb lanw bylchau gyda'i gynyrchion. Yn y flwyddyn 1824 symudodd i swyddfa Seren Oomer, yng Nghaerfyrddin; ac ynyflwyddyn 1823, symudodd i swydlfa arall yn yr un dref. Yn f uan ar ol ei symudiad i Gaerfyddin ymunodd gyda'r Wesleyaid, ac ni bu yn hir heb ddechreu pregethu; a pharhaodd i lafurio yn y cylch hwnw hyd nes i gythrwfl y " Wesla bach" aflonyddu ar heddwch yr eglwysi. Bu farw Mawrth 27ain, 1847, yn 53ain mlwydd oed. Dywedai Gutyn Peris am dano, fod ganddo enaid mawr mewn corff heb fod yn werth ceiniog a dimai. MR. ROBERT JONES (Bardd Mawddach). Ganwyd ef yn Abermaw yn y flwyddyn 1801, ac efe oedd mab ieuengaf Capten Ellis a 0 itherine Jones, ac yr oedd yn frawd i Mr. Ellis Jones, Post Office, Abermaw, yr hwn fu yn amlwg gyda'r achos Wesleyaidd yn y dref hono am flynyddau. Bu yn arweinydd y gân, yn flaenor, ac yn oruchwyliwr y gylchdaith. 0 du y fam yr oedd Bardd Mawddach yn disgyn o linach Lewis, Richard, a William Morris o Fôn, sydd mor adnabyddus fel beirdd, llenorion, ac ysgoleigion. Hefyd, yr oedd yn berthynas i Edward Thomas, Tyddyn Du, Dyffryn, fu yn flaenor a phregethwr cynorthwyol am oes faith. Rhwymwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd o argraffu gyda Richard Jones, Dolgellau. Gellir casglu oddiwrth ei oedran mai arol i'r Eargrawn gael ei ddwyn allan am rai blynyddau y cymerodd hyny le; ond ymddengys ei fod yn brif gysodydd y swyddfa pan y symudwyd hi o Ddolgellau i Lanfaircaereinion, oblegyd o dan ei ofal ef yr oedd y wasg, a'i enw ef sydd ar yr Eurgrawn fel argraff- ydd. Yn y flwyddyn 1826, priododd â Sarah, merch ieuengaf Mr. Vaughan Bryntirion, Llanfair. Priodwyd chwaer iddi gan Mr. John Jones, Fflnant, Llansant- ffraid, ac yn Bryntirion y treuliodd Mr. Jones y rhan fwyaf o'i oes, gan wasanaethu yr achos am flynyddau fel blaenor a phregethwr cynorthwyol. Ar ol bod yn Llanfair am rai blynyddoedd symudodd Bardd Mawddach i Ddolgellau, ac yn y flwyddyn 1845, symudodd i Lundain, gan gymeryd safleamlwg yn firm Messrs. Clowes, Ltd., Argraffwyr y Llywodraeth. Tra yno daeth i gyfathrach a Talhaiarn, Rector Rotherhithe, a Chymry talentog ereill, yng Nghymdeithas y Cymmrodorion. Dirwynodd ei oes i ben yn y flwyddyn 1866. Ymddangosodd llawer o'i gynyrchion yr yr Eurgrawn yn ystod ei arosiad yn y swyddfa; ac ar ol iddo dori ei gysylltiad â hi, yr oedd yn parhau i anfon ei gyfroddion iddo. Pe gofod yn caniatau gallesid rhoddi rhestr o'i gynyrchion yn y blynyddoedd 1857, 1858, 1862,1863, ac hyd yn nod yn y flwyddyn 1866—y flwyddyn y bu farw. Dechreuodd ddwyn allan gyfieithiad Cymraeg o Hanes bywyd John Wesley, gan R. Watson, ac ymddangosodd dau neu dri o rifynau o hono; ond ni chafodd y gefn- ogaeth a ddisgwyliai, ac yr oedd ei siomedigaeth yn golled ac yn ddolur gafodd effaith arno. Y PARCH. JOHN JONES (Idrisyn). Mae cysylltiadau y gŵr da hwn â'r Eurgrawn yn rhy amiwg i gael ei adael allan o'r rhestr; ac mae yn werth rhoddi crynhodeb o'i hanes er mwyn cywiro y camgymeriadau sydd wedi llithro i mewn i'r crybwyllion am dano, a ymddangosodd yn y Gwyddoniadur a'r Jlaul. Yr oeid yn fab i William Jones oedd yn trigianu gerllaw Dolgellau,—dyn o amgylchiadau cyffredin, oeäd yng ngwasanaeth Mr Vaughan o Nannau; ond yr oedd o ochr ei fam yn disgyn o linach Elís Wyn o Lasynys, awdwr y Bardd Cwsg. Ganwyd ef Ionawr 20fed, 1801—y flwyddyn y sefydlwyd y Feibl Gymdeithas. Yn yr Ysgol Sabbathol y dysgodd ddarllen Gair Duw, ond derbyniodd ei addysg fydol yn Ysgol Ramadegol Dolgellau. Gellir casglu oddiwrth y gwaith gyfiawnodd yn ei