Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Eurgrawn Wesleyaidd. Cyf. 01.] RHAGFYR, 1909. [Rhip 12. Y PARCH. EDWARD JONES, BATHAFARN. Gan y GOLYGYDD. 'ONES, Bathafarn," fel yr adnabyddir ef yn gyffredin, ydoedd tad Wesleyaeth Gymreig. Doctor Coke berswadiodd y Gynadledd i anfon cenhadon i Gymro,—Owen Davies a John Hughes oedd y cenhadon cyntaf ; ond Jones, Bathafarn, a gydnabyddir yn dad yr achos er hyn. oll. Yr oedd pregethu achlysurol yn Ninbych cyn cychwyniad yr achos yn Rhuthyn, a chymdeithas eglwysig wedi ei sefydlu ; ond er hyny, yn Rhuthyn y cyfrifir fod Wesleyaeth Gymreig wedi cychwyn. Yma y cloddiwyd ffynon y llifodd ei ffrydiau trwy Gymru, ac hefyd i drefi yn Lloegr. Y syndod yw na buasai hanes " Jones, Bathafarn," wedi ei ys- grifenu yn helaeth gan law gelfydd flynyddoedd cyn hyn ; ond nid dyna y ffaith. Cyhoeddwyd ilythyrau dderbyniwyd oddiwrth Mr. Jones yn disgrifio hanes dechreuad yr achos yn Hanesiaeth Metlwd- istiaeth Wesleyaidd yn Eurgrawn 1829, a gwneir sylwadau byrion arno, gan y Golygydd ; ond yr oedd Mr. Jones yn fyw y pryd hyny, fel nad gweddus oedd dyweyd llawer am dano. Ysgrifenodd Mr. Bryan grynhodeb o'i hanes ynglyn â phregeth angladdol draddod- wyd ganddo, yn Eurgrawn 1838. Ymgymerodd y Parch. Wm. Evans a chyhoeddi llyfryn bychan yn cynwys " Hanes ei fywyd a'i farwolaeth " yn y flwyddyn 1850. Ceir rhai manylion am dano yn y "Gofeb" gyhoeddwyd gan Rhuddenfab, Rhuthyn, ynglyn â Chanmlwyddiant Wesleyaeth, yn y flwyddyn 1900. Ar wahan i'r uchod, ni ymddangosodd ond cyfeiriadau ato yn y " Bywgraffydd Wesleyaidd," gan Humilis; ac yn " Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig," gan y Parch. T. J. Humphreys, heblaw rhai sylwadau yn yr Eurgrawn ar wahanol achlysuron. Mae ein gofod ninau yn rhy gyfyng i wneud mwy na chrynhoi prif ffeithiau ei fywyd, er mwyn ei ddwyn i mewn i flwyddyn Canmlwyddiant yr Eurgrawn. Ceir ei enw yn fynych fel gohebydd ym mlynyddoedd cyntaf ein cyhoeddiad ; ond fei tad yr achos yn benaf yr ydym am barhau ei goffadwriaeth yn awr. Hyd y caniata gofod yr ydym am ei osod ef ei hun i " draethu ei oes," ond y bydd yn rhaid i ninau ddwyn y dolenau cydiol i mewn. 1K