Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Perthynas y diweddar Barch. R. Roberts â Chorris. 63 o'r glocb, gan ddwyn iddo fendith y tystiai hyd y diwedd ei bod yn parhau yn ei f eddiant 7 Yr oedd ar y pryd yng ngwasanaeth firm adnabyddus J. a N. Phillips. Bu yno bedair blynedd. Ym mhen ychydig gyda dwy flynedd dechreuodd bregethu, a hynny cyn ei fod yn llawn ddwy-ar-bymtheg oed. Traddododd ei bregeth gyntaf mewn tŷ bychan| yn Salford, i tna dwsin o Gymry. Y tebygolrwydd ydyw mai i'r Cymry yn unig y pregethodd tra y bu yno. Yng ngwanwyn 1841 yr ydym yn ei gael yn gadael Manchester. Yr oedd ei dad, mewn cysylltiad â boneddwr arall, wedi agor masnachdy yng Nghorris, math o general shop, ond grocery yn bennaf. Oherwydd rhyw reswm neu gilydd, barnodd ei dad yn briodol i alw ei fab gobeithiol Richard adref i gymeryd gofal y masnachdy newydd, ac yn nechreu Ebrill cawn ef (er mor anfoddlawn ydoedd i adael Manchesterj yn ymsefydlu yn " Shop Newydd " Oorris, i ofalu am fasnach ei dad. Yr ydwyf yn ei gofio yno cystal a phe na buasai ond doe. Cefais lawer pwys o siwgr ac owns o dê o'i law. Cofiaf yn dda y modd y byddai fy mam yn dyweyd wrthyf, pan yn fy anfon yno ar neges, " Cerdd i lawr i'r Shop Newydd i geisio pwys o siwgr wyth ac owns o dê grot a dimai " -y naill a'r llall y rhataf oedd i'w cael y pryd hwnnw: y siwgr yn wyth ceiniog y pwys, heb fod ronyn gwell os cystal ag a werthir yn awr am ddwy geiniog, a'r tê, fel y gwelir, yn chwe swlît y pwys, heb fod cystal a'r nn a werthir am ddeunaw ceiniog yn awr. Dyna engraifft o " fanteision " gogoneddus Diffyndollaeth (Protectiorì) y ceisir ein perswadio i'w mabwysiadu eto. Cadwed Duw ein gwlad ni rhagddynt! Nid cynt yr ymsefydlodd Mr. Roberts yng Nghorris na ddeallodd ei fod wedi dyfod i ganol digon o waith, yn dymhorol ac ysbrydol; ond ni chiliodd yn ol, eithr ymaflodd ynddo â'i holl egni. Rhaid fod gofal a chyfrifoldeb y fasnach yn gryn dréth ar fachgen oedd ddau fis o dan ddeunaw oed pan y daeth yto, ac yn arbenig felly i ŵr ieuanc oedd mor gydwybodol ag ydoedd Richard Roberts. Gan nad beth oedd ei ofalon, ei bryderon, a'i gyfrifoldeb gyda'r fasnach, ni adawodd i'r naill na'r llall ymyryd gyda'i gysylltiadau crefyddol, Ymdaflodd o ddifrif i lawn waith gyda'r Achos. Ni ymddygai efe, fel ambell un sydd yn rhyw lechu yng nghysgod prysurdeb amgylchiadau masnachol.gan ei wneyd yn esgusawd dros ei ddifaterwch gyda'i ddyledswyddau at Dduw a'i enaid ei hun. Teimlai ein cyfaill fod ganddo Dduw i'w wasanaethu ac enaid i'w gadw, yn ogystal a masnach ei dad i ofalu am dani. Ei hoff waith ydoedd pregethu, a rhaid dyweyd ei fod yn "feistr y gynulleidfa" pan yn ddwy-ar-bymtheg oed. Dechreuodd ar ei waith yn ddiatreg, ac yr oedd yn hynod boblogaidd a derbyniol pa le bynnag yr elai. Nid yn unig pregethai yng Ngharmel, ond hefyd mewn gwahanol dai o gwmpas Corris. Mewn llythyr gefais oddiwrtho, tua dau fis cyn ei symud, dywed iddo bregethu yn y lleoedd canlynol tra y bu yng Nghorris:—Ty'nllechwedd, Mai 16, Gorffenaf 4, 1811; Mehefin 19, 1842; Esgairlwyd, Medi 26, 1841; Oapel Bicb, Rhagfyr 12, 1841; Mawrth 6 a'r 20, 1842; Ty'njceunant, Tachwedd 21, 1842; Cwmcelli, Rhagfyr 8, 1842; a Drainllwydion, Mehefin 12, 1842. Yr eodd y lle olaf ar y plan yn gwneyd taith Sabbath weithiau gyda Chorris a Machynlleth. Fe gofir fy mod wedi dyweyd, yn " Hanes yr Achos yng Nghorris," fod pregethu wedi bod yn Ty'nllechwedd hyd ddiwedd 1842, er i ni adael y "Capel Bach" ddeohreu 1838, a dyma ni yn cael Richard Roberts yn pregethu yno mor ddiweddar a Mehefin, 1842, ac yn y Capel Bach dair gwaith yn ystod 1841 a 1842. Yr unig gyfrif allaf fi ei gynnyg am hyn ydyw, poblogrwydd mawr Mr. Roberts, a'i fod, gan faint ei garedigrwydd, yn myned yno i bregethu i'r rhai oeddynt yn "teimlo eu bod yn rhy hen i fyned i lawr i Garmel. Gwelaf, hefyd, enw dwy fferm nad oeddwn erioed wedi clywed fod pregeth wedi ei thraddodi ynddynt, sef, Esgair-